Back
Pelydrau porffor ledled y ddinas wrth i Gaerdydd gael ei goleuo ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth 2023

15/05/23 

I ddathlu gofalwyr maeth ymroddgar Caerdydd ac i nodi dechrau'r  Pythefnos Gofal Maeth, bydd dau o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas yn disgleirio ym mis Mai.

Wedi'u golchi gan oleuadau porffor, lliw Gwasanaeth Maeth Caerdydd - bydd Neuadd y Ddinas a waliau'r castell yn disgleirio gyda'r nos o ddydd Llun, 15 Mai tan ddydd Sul, 28 Mai.

Wedi'i drefnu gan Y Rhwydwaith Maethu, mae'r Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith a wneir gan ofalwyr maeth a gweithwyr maethu proffesiynol yn helpu i ddod o hyd i gartrefi cariadus i bobl ifanc pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Yng Nghaerdydd, bydd ymgyrch hysbysebu ar waith ledled y ddinas dros y penwythnos, yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a hysbysfyrddau awyr agored i hyrwyddo cyfleoedd i faethu gyda'r cyngor a chodi ymwybyddiaeth o fanteision maethu gyda'ch awdurdod lleol.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y ddinas yn hyrwyddo gwaith y tîm gofal maeth ac yn annog pobl iymuno â'r miloedd o deuluoedd maeth newydd sydd eu hangen bob blwyddyn i ofalu am blant Caerdydd.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu ddod draw i siarad â'r tîm ynghylch sut i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn yn unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol;

-         Dydd Llun 16 Mai yn Hyb Ystum Taf a Gabalfa 10am-12pm

-         Dydd Mawrth 16 Mai yn Tesco Extra Rhodfa'r Gorllewin10.30am - 1.30pm

-         Dydd Iau 18 Mai yn Hyb Y Tyllgoed 2pm - 4pm

-         Gwener 19 Mai yn Hyb Rhydypennau 10am-12pm

-         Dydd Sadwrn 20 Mai yngNghanolfan Siopa Dewi Sant (Atrium)9.30am - 7pm

-         Dydd Sul 21 Mai yng Nghastell Caerdydd 10am-2pm

-         Dydd Llun 22 Mai yn Hyb Llaneirwg 10am - 12pm

-         Dydd Mawrth 23 Mai 10am - 2pm Waitrose Pontprennau

-         Dydd Mercher 24 Mai yn  Hyb Powerhouse Llanedern 10am-12pm

-         Dydd Iau 25 Mai yn Hyb Llanisien 10am-12pm

-         Dydd Gwener 26 Mai ym Mhafiliwn Butetown 10am - 12pm

-         Dydd Sul 28 Mai yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant(Atrium)10am - 5pm

 

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant:  "Mae'r Pythefnos Gofal Maeth yn dathlu'r gwaith eithriadol sy'n cael ei wneud gan ofalwyr maeth a'n timau gofal maeth, sy'n helpu i ddarparu gofal, cefnogaeth a chartrefi hanfodol i blant a phobl ifanc.

"Mae llawer iawn o blant angen amgylchedd diogel a meithringar lle maen nhw'n teimlo eu bod yn perthyn.  Os ydych erioed wedi ystyried maethu neu os ydych eisoes yn ofalwr maeth ac â diddordeb mewn trosglwyddo i'r cyngor, byddai ein tîm wrth eu bodd yn siarad â chi.

"Drwy ymuno â Maethu Cymru Caerdydd, bydd ganddynt fynediad at rwydweithiau cymorth o'r radd flaenaf, cyfleoedd a hyfforddiant amrywiol a phecyn buddion hael iawn.

"I'n gofalwyr maeth i gyd - rai'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol - diolch o galon am y cyfan am eich waith gwych yn darparu cartrefi i'n plant a'n pobl ifanc. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr."

Er y gall maethu olygu gofalu am blentyn yn y tymor hir, mae llawer o deuluoedd maeth yn helpu gyda seibiannau byr ac yn cynnig gofal seibiant.  Ac mae gofalwyr maeth yng Nghaerdydd mor amrywiol â'r ddinas ei hun - yn briod, yn byw gyda phartner, sengl, o'r gymuned LHDT+, yn anabl ac o lawer o gefndiroedd crefyddol ac ethnig gwahanol.

Mae Maethu Cymru Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o fuddion a manteision hael i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi, yn ariannol, yn broffesiynol ac yn emosiynol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i: Maethu yng Nghaerdydd | Maethu Cymru Caerdydd (llyw.cymru)neu ffoniwch 029 2087 3797.