Back
‘Mental Elf’ a straeon eraill yn cychwyn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

15/5/23

Cafodd ffilmiau byr animeiddiedig a grëwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl o Gaerdydd eu dangosiad cyntaf yn y ddinas heddiw (dydd Llun 15 Mai) mewn digwyddiad arbennig i gychwyn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Canolfan Gelfyddydau'r Chapter yn Nhreganna oedd y lleoliad ar gyfer dangos cyfres o ffilmiau animeiddiedig gonest, doniol ac weithiau llawn anfri. Mae defnyddwyr gwasanaeth o Wasanaethau Allgymorth Iechyd Meddwl Tŷ Canna y Cyngor wedi creu'r ffilmiau gyda Breathe Creative, sefydliad lleol Creadigrwydd ar gyfer Lles, sy'n cofnodi eu profiad o fyw â phroblemau iechyd meddwl.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni (15 - 21 Mai) wedi'i seilio ar y thema 'gorbryder', emosiwn arferol ynom ni i gyd ac sydd weithiau'n gallu mynd y tu hwnt i'n rheolaeth a dod yn broblem iechyd meddwl.

Mae'r dangosiad heddiw yn benllanw 10 mis o gydweithio rhwng Breathe Creative a grŵp Tŷ Canna, sydd â chymysgedd amrywiol o dalentau ond dim profiad blaenorol mewn animeiddio. Cafodd y prosiect ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru a'i hwyluso gan yr hwylusydd Celfyddydau Therapiwtig, Katja Stiller, yr animeiddiwr Jane Hubbard a'r cyfansoddwr Jacob Meadowcroft, gyda chymorth gan Elliot HS ac Imogen Fallon o Tŷ Canna.

Mae'r ffilmiau'n archwilio realiti byw â phroblemau iechyd meddwl ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth, chwalu mythau a herio'r anghysur y mae llawer o bobl yn ei deimlo wrth siarad am fater mor bwysig, a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar 1 o bob 4 o bobl yn ystod eu hoes. 

Mae'r grŵp wedi cwrdd yn wythnosol ers mis Gorffennaf y llynedd i ysgrifennu eu sgriptiau, dysgu technegau animeiddio a chreu'r ffilmiau terfynol - detholiad o straeon unigol craff ac emosiynol, a 'Mental Elf', darn grŵp chwareus am goblyn drwg sy'n herio'r gynulleidfa i feddwl am eu hiechyd meddwl eu hunain.

Dywedodd un cyfranogwr: "Gyda chymorth grwpiau a gweithdai creadigol fel yr un yma, rydyn ni'n gallu cymryd cam petrus i gymdeithasu, cael hwyl a bod yn rhan o gymuned gefnogol eto!"

Yn bresennol yn y digwyddiad heddiw oedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion), y Cynghorydd Norma Mackie. Yn dilyn y ffilmiau, cafodd gwesteion wylio murlun gardd newydd yn cael ei ddadorchuddio yn Nhŷ Canna, a grëwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth gan weithio gydag Emma Jones o Breathe Creative.

Dywedodd y Cynghorydd Mackie: "Roedd y bore 'ma yn ffordd wych o ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gyda staff a defnyddwyr gwasanaeth Tŷ Canna. Mae'r animeiddiadau'n emosiynol ac yn agor eich llygaid yn wirioneddol i'r profiadau a'r heriau y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu.  Dyma'r ail waith i'r prosiect animeiddio gael ei gynnal gyda Breathe Creative ac rwy'n falch iawn ei fod wedi bod yn gymaint o lwyddiant unwaith eto."

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn adeg briodol i ni gyd feddwl am iechyd meddwl a mynd i'r afael â'r stigma ynglŷn â'r mater. Mae angen i ni siarad am hyn, yn agored ac yn aml, gan ganolbwyntio ar warchod lles meddyliol pob un ohonom, yr hen a'r ifanc."

I weld yr animeiddiadau, ewch i(https://youtu.be/fHp2iSR4u04)

Yn ddiweddar, mae gwasanaeth Tŷ Canna wedi dechrau gweithio gyda Brawd, sef grŵp cymorth iechyd meddwl i ddynion Caerdydd sy'n cynnig cymorth i ddynion 18 oed neu hŷn.

Mae'r grŵp yn cydnabod bod dynion yn aml yn cael eu dysgu i fod yn gryf ac yn galed, i beidio byth â dangos emosiynau na bod yn agored i niwed ond, weithiau, gall bywyd fod yn llethol, ac mae angen rhywun i siarad â nhw arnom ni i gyd.

Mae dynion sy'n cael trafferth gyda straen, gorbryder, iselder, neu unrhyw fater iechyd meddwl arall yn cael cynnig lle diogel a chyfrinachol i rannu eu teimladau, eu meddyliau, a'u profiadau â dynion eraill sy'n deall sut maen nhw'n teimlo.

Mae'r grŵp yn cwrdd yn Nhŷ Canna, Market Road, Treganna ar ddydd Iau, 6pm - 7.30pm. Does dim angen atgyfeiriad na diagnosis. Mae'r rhai hynny sy'n chwilio am gefnogaeth yn cael eu hannog i alw heibio am sgwrs a phaned. I gael rhagor o wybodaeth am Brawd, ewch i:https://linktr.ee/brawd

 

Drwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, bydd hybiau cymunedol yn cynnal cyfres o weithgareddau gan gynnwys sesiynau lliwio ymwybyddiaeth ofalgar, sesiynau crefft, dosbarthiadau ymarfer corff ysgafn, boreau lles, grŵp cerdded ar gyfer iechyd sy'n ymroddedig i wella gorbryder ac iselder, a Men's Sheds 'The Den' yn Hyb Rhiwbeina, i enwi rhai.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch ihttps://hybiaucaerdydd.co.uk/