Back
Gerddi Cogan yn ailagor yn dilyn gwaith gwella

17.5.23

Mae Gerddi Cogan, man gwyrdd bach yng nghanol cymuned Cathays, wedi ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yn dilyn gwelliannau mawr.

Ymunodd plant o Ysgol Gynradd Fwslimaidd Caerdydd â chynghorwyr ward lleol, a'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke, ddydd Gwener diwethaf (12 Mai), i ddathlu cwblhau'r gwaith, sy'n rhan o raglen fuddsoddi sy'n parhau gwerth £3.2 miliwn mewn parciau ac ardaloedd chwarae ledled Caerdydd.

Mae'r gwelliannau i'r parc, a ddatblygwyd drwy ymgynghori â'r gymuned leol, yn cynnwys:

  • ardal chwarae newydd.
  • offer ymarfer corff awyr agored.
  • bwrdd gwyddbwyll a chadeiriau.
  • biniau newydd a meinciau picnic.
  • lawnt, llwyni a dôl newydd. 
  • llwybrau cerdded a llwybr cerdded cylchol.
  • amddiffyn a chadw pob pisgwydden aeddfen.
  • adnewyddu'r rheiliau ar hyd y ffiniau.

Dywedodd y Cynghorydd Burke:  "Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau hapus yn mwynhau'r gwelliannau i Erddi Cogan.  Mae parciau lleol ac ardaloedd chwarae yn hynod o bwysig, gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd pobl, a dyna pam rydyn ni'n parhau i fuddsoddi ynddyn nhw mewn cymunedau ledled Caerdydd."