Back
Y Cynghorydd Graham Hinchey - Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd – yn camu i lawr o'i ddyletswyddau swyddogol

23/05/23


Bydd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Arglwydd Faer ddydd Iau yn ogystal â'i Ddirprwy, y Cynghorydd Abdul Sattar yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn Neuadd y Ddinas.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cynghorydd Hinchey wedi cynnal tua 300 o ddigwyddiadau mewn ysgolion, cartrefi gofal a digwyddiadau eraill ledled y ddinas, gan godi mwy na £75,000 ar gyferCŵn Tywys Cymru, yr elusen y mae ef a'i wraig Anne, yr Arglwydd Faeres, wedi'i henwebu.

 

Mae'r Cynghorydd Hinchey, 64, yn cynrychioli ward y Mynydd Bychan a chafodd ei ethol gyntaf fel cynghorydd lleol i Gyngor De Morgannwg o 1991 tan 2004 ac fe'i hetholwyd ymhellach i Gyngor Caerdydd yn 2012 ac mae'n parhau i wasanaethu ei gymuned leol hyd heddiw.

 

Fel Arglwydd Faer, y Cynghorydd Hinchey yw prif lysgennad swyddogaethau dinesig y ddinas, yn ogystal â'r cadeirydd sy'n gyfrifol am gynnal trefn ymhlith dadleuon y pleidiau gwleidyddol yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn.

 

Etholwyd y Cynghorydd Hinchey i Arglwydd Faer Caerdydd yn ddiwrthwynebiad ym mis Mai 2022, yn fuan ar ôl i'r cyfyngiadau COVID gael eu llacio, gyda rhestr ddigynsail o swyddogaethau o'i flaen.

 

Dechreuodd hyn gyda'r 40 mlynedd ers Rhyfel y Falklands, ac yna Dathliadau'r Jiwbilî Platinwm lle croesawodd Eu Huchelder Brenhinol, Dug a Duges Caergrawnt i Gaerdydd i nodi'r garreg filltir hanesyddol hon.

 

Yn ogystal, mae'r Cynghorydd Hinchey hefyd wedi croesawu aelod arall o'r Teulu Brenhinol i Gaerdydd yn ystod ei dymor, gan gynnwys ar y pryd y Tywysog Charles, Ei Huchelder Brenhinol, Y Dywysoges Frenhinol a'i Uchelder Brenhinol, Dug Caerloyw.

 

Yn anffodus, dilynodd marwolaeth Ei Mawrhydi Elizabeth II, gyda'r Cynghorydd Hinchey yn cymryd rôl flaenllaw yng Nghaerdydd drwy agor y llyfr cydymdeimlo swyddogol yn Neuadd y Ddinas, gan gynrychioli'r ddinas yn ystod darllen y Cyhoeddi yng Nghaerdydd a chroesawu'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog newydd ar eu hymweliad swyddogol cyntaf â Chaerdydd.

 

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey:  "Mae wedi bod yn fraint i blentyn o Drelái gael ei ethol fel 117fedArglwydd Faer Caerdydd ar ôl bron i 25 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus fel cynghorydd lleol.

 

"Mae fy ngwraig Anne, ein ffrindiau a'n teulu i gyd yn edrych yn ôl ar y flwyddyn hanesyddol hon ac yn trysori cymaint o atgofion gwych. Er bod y chwe ymweliad Brenhinol, dathliadau'r Jiwbilî a Chyhoeddiad y Brenin newydd wedi cipio'r penawdau, rydym wedi cwblhau tua 300 o ymweliadau eraill i gefnogi cartrefi gofal, ysgolion, grwpiau cymunedol, addoldai ac elusennau ledled y ddinas.

 

"Mae'n ymddangos bod ein helusen ddewis, Cŵn Tywys Cymru, wedi cael croeso cynnes gan bobl o bob oed ac ym mhob cwr o'r ddinas. Nid ydym wedi cael diwrnodau lawer i ffwrdd ond mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod bellach wedi codi dros £75,000 i helpu i gefnogi'r achos hollbwysig hwn sy'n rhoi achubiaeth i'r rhai sy'n ddall neu'n rhannol ddall.

 

"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein gwahodd i ddigwyddiad a rhoi rhodd i'n hapêl Cŵn Tywys yr Arglwydd Faer. Mae Anne a minnau'n edrych ymlaen at seibiant byr ac yna byddaf yn ôl yn gweithio gyda fy nghydweithwyr yn y ward, y Cynghorwyr Mike Ash-Edwards a Julie Sangani, gan gefnogi ein cymuned wych yn y Mynydd Bychan a Llwynbedw. "

 

Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau, bydd y Cynghorydd Bablin Molik yn dod yn Arglwydd Faer newydd Caerdydd, gyda'r Dirprwy Arglwydd Faer yn cael ei ddyfarnu i'r Cynghorydd Jane Henshaw.