Back
Canmoliaeth i Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ar ôl ymweliad gan Estyn
26.05.23
Mae un o ysgolion Catholig mwyaf Caerdydd wedi cael ei ganmol gan arolygwyr am ei "chymuned ofalgar a meithringar" ac am geisio "cyfoethogi bywydau disgyblion trwy ffydd a gofal, cefnogaeth ac arweiniad o ansawdd uchel dros ben".

Yn ei adroddiad diweddaraf gan Estyn, a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, dywedodd arolygwyr mai cryfder nodedig Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi yn Llysfaen oedd ei hethos sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant, ymddygiad ac ymgysylltiad disgyblion mewn dysgu.

Ychwanegon nhw fod gan yr ysgol "weledigaeth sefydledig ar gyfer lles disgyblion a staff, sydd â’i  hethos Catholig yn sail iddi, ac sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod holl aelodau'r ysgol yn sylwgar, tosturiol a geirwir. Mae arweinwyr a staff yr ysgol yn hyrwyddo'r weledigaeth hon yn gyson ac mae disgyblion yn gwerthfawrogi'r lefelau uchel o gefnogaeth y maent yn eu derbyn."

Roedd ymddygiad y disgyblion wedi creu argraff ar arolygwyr Estyn. "Mae'r rhan fwyaf yn gwrando gyda pharch a sylw ar eu cyfoedion a'u hathrawon, yn rhannu eu barn yn hyderus... ac mae llawer yn ysgrifennu'n dechnegol ddiogel ac wedi'i strwythuro'n briodol.

"Mae gan lawer sgiliau rhifedd diogel... ond mae ambell i ddisgybl yn cael trafferth i gyfrif yn y meddwl ac mewn lleiafrif o achosion nid yw disgyblion yn dadansoddi graffiau a data'n ddigon da i ddod i gasgliadau synhwyrol."

Mae gan athrawon ddisgwyliadau uchel o’u  disgyblion ac mae'r cwricwlwm yn darparu cyfleoedd priodol i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd, meddai’r adroddiad, ond ychwanegodd: "Mae darpariaeth sgiliau digidol ar gamau cynnar o ran datblygiad ac ar hyn o bryd nid yw'r ysgol yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn ddigon cryf mewn meysydd heblaw am wersi Cymraeg."

Un o gryfderau'r ysgol, meddai'r adroddiad, yw ei hagwedd tuag at les disgyblion a staff.  "Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus," meddai'r adroddiad.  "Maen nhw'n gwybod at bwy i droi os oes ganddyn nhw unrhyw broblemau ac maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael gofal da.... ac mae'r ysgol wedi cyflogi nyrs hyfforddedig sy'n darparu cymorth cyntaf iechyd meddwl ac yn cyfeirio disgyblion arbennig o agored i niwed at y cymorth allanol perthnasol."

Mae'r rhan fwyaf o athrawon, meddai, yn creu amgylchedd dysgu "tawel a phwrpasol" ac mewn ambell achos, lle mae'r addysgu'n arbennig o gryf, mae gan athrawon angerdd am eu pwnc ac maent yn ysbrydoli disgyblion. Ond, lle nad yw addysgu mor gryf, nid yw disgyblion yn gwneud cymaint o gynnydd ag y dylen nhw."

Ar hyn o bryd mae gan Corpus Christi 1,076 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, gyda 15.1% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (cyfartaledd Cymru - 20.2%), mae gan 5.7% anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a dim ond 0.5% sy’n siarad Cymraeg gartref. Yn ei arolygiad diwethaf, a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2015, cafodd ei raddio'n 'dda'.

Mae llawer o ddisgyblion ag ADY, meddai'r adroddiad, yn gwneud cynnydd diogel o'u mannau cychwyn ac roedd yn cydnabod bod yr ysgol yn darparu ystod eang o gefnogaeth i anghenion unigol disgyblion, tra bod cwricwlwm yr ysgol yn diwallu anghenion a buddiannau bron pob disgybl, ac mae ystod eang o weithgareddau allgyrsiol gan gynnwys nifer o glybiau chwaraeon ac academaidd.

Gwnaeth ymdrechion yr ysgol i fynd i'r afael â'r rhwystrau i ddysgu argraff arbennig ar Estyn, ynghyd â’i strategaethau i ail-ymgysylltu a chodi dyheadau'r disgyblion sydd wedi’u dadrithio fwyaf. Mae ei raglen ExCel, a gyflwynwyd ar ôl y pandemig, yn "ddull hynod lwyddiannus a chreadigol sy'n canolbwyntio'n benodol ar wella agweddau disgyblion wedi'u targedu at ddysgu, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud cynnydd da."

Mae'r arolygiaeth bellach wedi gwahodd yr ysgol i rannu ei gwaith yn y maes hwn, a'r rhaglen ExCel gydag ysgolion eraill yng Nghymru.

Mae pennaeth Corpus Christi, Patrick Brunnock a'i uwch dîm yn cydweithio'n dda, meddai'r adroddiad, ac "mae ganddynt ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain, eu staff a’u disgyblion".  Fodd bynnag, argymhellwyd bod yr ysgol yn "mireinio hunanwerthuso fel ei fod yn nodi’n fanwl gywir unrhyw agweddau ar addysgu a dysgu sydd angen eu gwella, ac yn cynyddu ystod y cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer eu medrau Cymraeg a’u medrau digidol o amgylch yr ysgol”.

Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Mr Brunnock:  "Rwy'n falch iawn o ganfyddiadau'r adroddiad a chydnabyddiaeth Estyn o’r ffordd y mae'r ethos Catholig yn treiddio trwy Corpus Christi."

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg ei bod wrth ei bodd gyda’r arolygiad. "Mae'n amlwg bod Patrick Brunnock a'i dîm yn cael effaith wirioneddol ar yr ysgol.  Mae eu datblygiadau arloesol yn gwneud gwahaniaeth ym meysydd disgyblion sydd wedi'u dadrithio ac mae'n braf bod Estyn wedi cydnabod hyn wrth wahodd yr ysgol i rannu ei harbenigedd ExCel ag eraill.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Corpus Christi yn y dyfodol wrth iddi ymdrechu am ganlyniadau gwell fyth yn y dyfodol."

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.   Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu. Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.