Back
Mae'n bryd enwebu i wobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant!


 30/05/23

Bydd Gwobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant yn cael eu cynnal fis Gorffennaf yma, yn dathlu ac yn cydnabod plant, pobl ifanc a sefydliadau sydd wedi hyrwyddo hawliau plant yn eu cymuned, eu bywyd bob dydd a'u gweithle.

 

Wedi'i drefnu gan Gaerdydd sy'n Dda i Blant, gall aelodau'r cyhoedd enwebu pobl a sefydliadau cyn dydd Llun 12 Mehefin, gyda'r enillwyr yn cael eu hysbysu erbyn dydd Llun 3 Gorffennaf a'r enillwyr yn derbyn eu gwobr mewn digwyddiad 'Gŵyl Hawliau' ddydd Mawrth 11 Gorffennaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

 

Mae Caerdydd sy'n Dda i Blant wedi bod yn cefnogi'r Cyngor i wreiddio hawliau plant yn ei bolisïau a'i strategaethau,a chyflawni prosiectau sydd â'r nod o gynnal hawliau a dathlu plant a phobl ifancers lansio Strategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant yn 2018, a oedd yn nodi'r uchelgais i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant. Mae hyn wedi arwain at nifer o ysgolion yn rhoi hawliau plant ar waith yn swyddogol, a llu o raglenni gyda phartneriaid yn darparu profiadau a gweithgareddau cadarnhaol i gefnogi iechyd meddwl ac annog dysgu a datblygu.

 

Gellir gwneud enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar gyfer sawl categori, ond gall yr enwebai ennill uchafswm o un wobr. Y categorïau yw:

  • Cyflawnwr Ifanc y Flwyddyn
  • Cyflawnwr Ifanc Iau y Flwyddyn
  • Partner y Flwyddyn Caerdydd sy'n Dda i Blant
  • Pencampwr Cymunedol Iau y Flwyddyn
  • Prosiect Hawliau a Gweithredu Cymdeithasol y Flwyddyn
  • Gwobr y Celfyddydau, Diwylliant a'r Cyfryngau Digidol y Flwyddyn

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Trwy ymdrechion ar y cyd ar draws holl adrannau'r Cyngor, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaethau ar draws y ddinas-ranbarth, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol nid yn unig o ran ymgorffori hawliau plant yn yr hyn a wnawn, ond hefyd o ran cefnogi pobl ifanc wrth iddynt dyfu a dathlu eu llwyddiant.

"Rydym wedi ymrwymo i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF UK ac felly mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod y gwaith caled a'r ymdrech sy'n mynd i mewn i hyn ac yn dathlu'r bobl sy'n cael effaith wrth ein helpu i gyflawni'r nod hwn.

"Mae'r seremoniwobrwyohon yn cefnogi nod Caerdydd o gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf UNICEF yn y DU, rhaglen fyd-eang sy'n partneru UNICEF â llywodraeth leol i roi hawliau plant yn gyntaf."

 

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Plant a Phobl Ifanc, Shifa, sy'n 17 oed: "Fel Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Dinas sy'n Dda i Blant rwy'n falch o weld menter sy'n dathlu'r cyfraniadau a wnaed gan blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt".

#CDYDDsynDdaiBlant #AddCaerdydd

I ddysgu mwy am Wobr Caerdydd sy'n Dda i Blant a bwrw eich pleidlais erbyn 12 Mehefin ewch i:https://www.childfriendlycardiff.co.uk/the-child-friendly-cardiff-awards-2022-2023/