Back
Cyngor Caerdydd yn partneru gyda Chyfeillion Parc Bute i ddatblygu tendr Caffi’r Ardd Gudd

5.6.23

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhyddhau manylion trefniant cydweithio newydd gyda Chyfeillion Parc Bute i sicrhau bod anghenion defnyddwyr y parc yn cael eu hystyried wrth lunio'r model gweithredu ar gyfer Caffi'r Ardd Gudd yn y dyfodol.

Cysylltodd Cyfeillion Parc Bute â'r Cyngor yn ddiweddar gan gynnig gweithio gyda'r awdurdod i sicrhau bod unrhyw gynnig newydd ar gyfer caffi yn diwallu anghenion defnyddwyr y parc.

I ddechrau'r broses honno, mae'r Cyngor heddiw wedi cyhoeddi y bydd yn gweithio gyda'r grŵp Cyfeillion i lunio manylebau a meini prawf gwerthuso dogfen dendro a fydd yn sefydlu model gweithredu newydd ar gyfer y caffi.

I ganiatáu digon o amser i Gyngor Caerdydd ymgysylltu'n llawn â Chyfeillion Parc Bute i gwblhau'r manylebau a'r meini prawf gwerthuso, mae'r dyddiad gwreiddiol ar gyfer cyhoeddi'r tendr ym mis Mehefin yn cael ei ymestyn gan bedair wythnos, hyd at ddydd Llun 3 Gorffennaf.

Tra bo'r ymarfer caffael yn mynd rhagddo, mae'r Cyngor wedi cynnig estyniad i'r Denantiaeth wrth Ewyllys i'r gweithredwr presennol sy'n caniatáu iddynt barhau i redeg y caffi drwy'r cyfnod pontio i unrhyw drefniadau newydd. Os yw'r gweithredwr presennol yn cyflwyno cais llwyddiannus bydd yn parhau o dan y trefniadau newydd, wedi'r adeg honno.

Wrth sôn am y trefniadau cydweithio newydd, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Rwy'n croesawu cynnig Cyfeillion Parc Bute i weithio gyda'r Cyngor a'r cyhoeddiad heddiw y bydd y manylebau tendro a'r meini prawf gwerthuso yn cael eu datblygu mewn partneriaeth.

"Bydd hyn yn golygu bod y tendr a roddwn allan i'r farchnad yn adlewyrchu dymuniadau ymwelwyr â'r parc; ond bydd hefyd yn golygu ein bod yn atgyfnerthu tryloywder y broses ymhellach ac yn cyflwyno gwarant ychwanegol o ddidueddrwydd o ran dewis y cynnig llwyddiannus. Mae'r caffi wedi bod yn rhan o gymuned Parc Bute ers dros ddeng mlynedd a does dim amau'r cyfraniad mae wedi'i wneud i'r parc yn y cyfnod hwnnw. Mae'r cyngor yn annog y gweithredwr caffi presennol, sydd wedi rhedeg y safle am y pum mlynedd diwethaf, i wneud cais fel y gellir ei ystyried ochr yn ochr ag unrhyw gynigion eraill gan weithredwyr posibl eraill."

Dywedodd Ian Body, Cadeirydd Cyfeillion Newydd Parc Bute: "Mae'r grŵp yn croesawu'r cyfle i helpu i gydlynu cyfranogiad gan ddefnyddwyr cyhoeddus Parc Bute sydd, fel rhanddeiliaid allweddol, â chymaint i'w gyfrannu o ran yr hyn yr hoffent weld cyfleuster Caffi'r Ardd Gudd yn gallu ei gynnig."

Pan fydd yn barod, bydd Cyngor Caerdydd yn hysbysebu'r cyfle ac yn ymgymryd â phroses gwerthuso tendr i nodi'r gweithredwr a ffefrir. Bydd telerau'r trefniadau newydd yn galluogi'r awdurdod lleol i sicrhau bod y cynigydd llwyddiannus wedi'i rwymo'n gadarn i ddarparu safonau gofynnol y cytunwyd arnynt o ran darparu gwasanaethau.

"Mae disgwyl i broses gaffael y cytundeb rheoli newydd a'r brydles gysylltiedig gael ei hysbysebu'n agored i'r farchnad drwy GwerthwchiGymru a'r porth caffael, Proactis.

Daw'r broses o ddyfarnu contract newydd i weithredu'r Caffi'r Ardd Gudd ar ôl i'r denantiaeth wreiddiol ddod i ben yn gynharach eleni. Dan reolau caffael y Cyngor, sy'n cael eu llywodraethu gan y cyfansoddiad, nid oes modd gwneud dyfarniad uniongyrchol yn yr amgylchiadau hyn. Mae'r cyngor yn gwerthfawrogi'r ansicrwydd y mae hyn yn ei achosi i'r gweithredwr presennol a bydd yn parhau i siarad â nhw drwy gydol y cyfnod pontio fel eu bod yn deall y broses ac yn gallu gwneud cais.