Back
Chwarae eich rhan a chymryd rhan yn y Diwrnod Ail-lenwi Byd-eang

15/06/23


Gan ddychwelyd am ei drydedd flwyddyn, cynhelir Diwrnod Ail-lenwi Byd-eang ddydd Gwener, 16 Mehefin.

 

Mae Diwrnod Ail-lenwi yn Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang i dynnu sylw at yr angen i bawb symud i ffwrdd o gynhyrchion untro tafladwy a symud i ddyfodol cylchol mwy cynaliadwy gydag ail-lenwi ac ailddefnyddio wrth wraidd y diwrnod.

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymuno â'r cynllun ers iddo ddechrau, gan weithio gyda chaffis a bwytai i'w hannog i adael i bobl ail-lenwi eu potel ddŵr wrth symud i leihau plastigau untro yn y ddinas.

 

Ers hynny, mae'r cynllun wedi ehangu, felly nid yn unig y gall pobl ail-lenwi eu potel ddŵr am ddim, ond mae cynigion a gostyngiadau ar gyfer diodydd eraill mewn siopau coffi os dewch â'ch cwpan eich hun, yn ogystal â bargeinion rhatach ar gyfer cinio os dewch â'ch bocs cinio eich hun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd: "Fel cymdeithas, mae angen i bob un ohonom wneud newidiadau yn ein ffordd o fyw er mwyn symud i ffwrdd o'r 'gymdeithas taflu i ffwrdd' yr ydym i gyd yn byw ynddi. Mae swm sylweddol o garbon yn cael ei gynhyrchu wrth weithgynhyrchu cynhyrchion a phecynnu, felly pam ydyn ni'n taflu'r cynhyrchion hyn i ffwrdd pan allwn ni eu hailddefnyddio? Nid yw'n gwneud synnwyr.

 

"Mae'r ffigyrau byd-eang ar gynhyrchu plastig yn frawychus. Yn fyd-eang rydym yn creu 300 miliwn tunnell o blastig bob blwyddyn ac mae hanner hyn yn blastig untro. Mae ymchwil yn dangos bod llai na 10% o'r plastig a gynhyrchir wedi cael ei ailgylchu. Fel cyngor, rydym yn cymryd camau i leihau plastig untro ac mae'r Cynllun Ail-lenwi yn rhan o hyn.

 

"Bydd staff y Cyngor yn dosbarthu poteli dŵr y gellir eu hail-lenwi am ddim i'r cyhoedd ddydd Gwener yma y tu allan i Farchnad Caerdydd, ger ein ffynnon ddŵr newydd gyntaf. Bydd y cyngor yn gosod mwy o ffynhonnau dŵr yn y ddinas, felly os oes gan eich busnes neu adeilad cymunedol ddiddordeb mewn cynnal ffynnon ddŵr, cysylltwch â ni drwy e-bostioCarwchEichCartref@caerdydd.gov.uk"

 

Mae plastig untro yn parhau i fod yn un o'r materion mwyaf sy'n wynebu'r amgylchedd yn ystod ein hoes, gan nad yw plastig yn dadelfennu ac yn aml yn cael ei daflu fel sbwriel mewn mannau agored cyhoeddus, afonydd, ac yn y môr. Mae hyn nid yn unig yn hyll ond yn achosi perygl i fywyd gwyllt.

Ymunwch â ni a miliynau o bobl ledled y byd a dewiswch ailddefnyddio i atal llygredd plastig -www.worldrefillday.org 

Lawrlwythwch yr ap @Refill AM DDIM i weld ble gallwch fwyta, yfed a siopa yng Nghaerdydd heb blastig a ble i lenwi eich potel ddŵr am ddim https://www.refill.org.uk/