Back
Datgelu cynllun i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd

15.6.23

Mae cynlluniau i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi eu datgelu gan Gyngor Caerdydd.

Byddai'r cynllun yn golygu y byddai'r ganolfan yn elwa o:

  • Bwll newydd 20m x 8m, wedi'i gynhesu gan pwmp gwres o'r ddaear.
  • Caffi newydd.
  • Campfa ffitrwydd newydd ar y llawr gwaelod.
  • Cae 3G maint llawn a chae bach newydd.
  • Cyfleuster newid i deuluoedd, wedi'i adnewyddu.
  • Neuadd a gofod allanol newydd y gellid eu prydlesu i drydydd partner - o bosib i greu ardal ar gyfer tennis padel ar y safle.
  • Paneli solar ar y to.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried adroddiad ar y cynigion ar ddydd Iau, 22 Mehefin.  Os caiff ei gytuno, bydd disgwyl i'r gwaith ar y safle ddechrau cyn gynted â'r hydref eleni, gyda pheth gwaith, gan gynnwys y caeau, y ganolfan ffitrwydd a'r ystafelloedd newid, wedi'u cwblhau yn gynnar yn 2024.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cyflwyno'r cynlluniau hyn nawr.Mae pwysau o ran costau sy'n cael eu teimlo drwy'r diwydiant adeiladu cyfan a biliau ynni cynyddol wedi gohirio ein hawydd i uwchraddio'r cyfleuster, ond mae'r Cyngor bob amser wedi parhau'n ymrwymedig at y prosiect.

"Bu'n rhaid ailweithio ein cynlluniau cychwynnol ar gyfer Pentwyn yng ngoleuni'r ffactorau hynny, ond credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd ymlaen a fydd nid yn unig yn gweld Canolfan Hamdden Pentwyn yn elwa o adnewyddiad mawr, ond a fydd hefyd yn sicrhau y bydd nofio yn parhau i fod yn opsiwn yn y ganolfan.

"Mae canolfannau hamdden sydd â phyllau nofio wedi cael eu taro'n arbennig o galed yn sgil costau ynni cynyddol gyda llawer yn cau ledled y wlad, ond mae'r pwll rydyn ni'n ei gynnig, a fydd yn cael ei gynhesu gan bwmp gwres o'r ddaear, yn darparu cyfaddawd ymarferol. Bydd y pwll yn cael ei baratoi ar gyfer dysgu plant i nofio, ond bydd hefyd yn darparu ar gyfer nofio achlysurol."

Byddai'r cynigion newydd yn golygu bod canolfan wedi'i moderneiddio yn parhau o fewn y contract GLL, gyda GLL -sefydliad dielw -yn rhedeg y cyfleusterau cymunedol a rhan o'r adeilad yn cael ei rhentu'n ecsgliwsif i Rygbi Caerdydd. Os cânt eu cymeradwyo, byddai'r cynigion newydd yn cychwyn ar y cam cynllunio a dylunio terfynol cyn i'r gwaith ddechrau.

Cyn hynny, bydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant y cyngor yn craffu ar y cynigion ar ddydd Mawrth, 20 Mehefin.  Bydd ffrwd fyw ar gael i'w gweld yma o 4.30pm ar y diwrnod Agenda ar gyfer yr Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant ar ddydd Mawrth, 20 Mehefin, 2023, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

Bydd y cynigion wedyn yn mynd i'r Cabinet i'w cymeradwyo brynhawn Iau, 22 Mehefin. Bydd modd gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ymAgenda ar gyfer y Cabinet Dydd Iau, 22 Mehefin, 2023, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk) O 2pm ar y diwrnod.