Back
Cyfle mawr i fuddsoddi yng nghyrtiau tennis lleol yng Nghaerdydd

16.5.23

Gallai cynllun tennis poblogaidd sydd wedi rhoi hwb i nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gamp ym maestref Mynydd Bychan Caerdydd, ac a fyddai'n arwain at fuddsoddi cryn dipyn o arian mewn cyrtiau tennis lleol, gael ei gyflwyno mewn chwe pharc arall ar draws y ddinas.

Mae Tennis Cymru, corff llywodraethu Tennis yng Nghymru, wedi cysylltu â Chyngor Caerdydd gyda chynllun allai arwain at £750,000 yn cael ei fuddsoddi mewn 29 o gyrtiau tennis y ddinas.

Os cytunir arnynt, byddai preswylwyr hefyd yn elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn tennis trwy raglenni tennis fforddiadwy ac am ddim, a gweithgareddau a gynhelir gan hyfforddwyr lleol.

Bydd y cynnig i fuddsoddi a rheoli'r gwaith o redeg cyrtiau tennis y cyngor mewn 6 pharc, gan ddechrau gyda Gerddi Bryn Rhymni, Parc Fictoria a Chaeau Llandaf, yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 22 Mehefin. Os cytunir, byddai Tennis Cymru yn rheoli, gweithredu a chynnal y cyrtiau am o leiaf deng mlynedd. Byddai hyn yn gweld y sefydliad:

Yn buddsoddi'n ariannol yn sicrwydd hirdymor cyrtiau tennis parc, ailosod arwyneb, ailbeintio, ac atgyweirio cyfleusterau presennol.

Cyflwyno meddalwedd archebu ar-lein fel y gall pobl leol ddod o hyd i gwrt, archebu a thalu ar-lein.

Gosod technoleg mynediad giât at ddibenion archebu a rheoli cyrtiau ar draws y ddinas o bell, gan greu lle diogel i chwarae, a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd o bosibl.

Creu cyfleoedd lleol i gymryd rhan mewn tennis trwy raglenni a gweithgareddau tennis fforddiadwy ac am ddim sy'n cael eu rhedeg gan hyfforddwyr lleol, gan hyrwyddo chwarae cyffredinol i wneud tennis yn fwy agored yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Parciau a Diwylliant, y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Mae buddsoddiad Tennis Cymru ym Mharc y Mynydd Bychan wedi trawsnewid safle oedd mewn cyflwr gwael heb lawer o weithgareddau tennis yn ganolbwynt tennis bywiog lle mae'r gêm yn cael ei mwynhau bob dydd. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gêm yno, gyda hyfforddiant, gweithgaredd ysgolion, a chystadlaethau i gyd ar gael ochr yn ochr â gemau rheolaidd. Erbyn hyn mae 900 o aelodau yn chwarae ar gyrtiau'r Mynydd Bychan, yn cynnwys y clwb LHDTC cyntaf yng Nghymru. Mae wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau ac mae'n gyffrous iawn meddwl y gellid ei gyflwyno ar draws y ddinas, gan ddod â'r gamp i hyd yn oed mwy o bobl.

"Yr uchelgais yw defnyddio mewnwelediad a thechnoleg diweddaraf Tennis Cymru i wella profiad y cwsmer, cynyddu nifer y bobl sy'n chwarae'r gêm, a chreu lleoedd diogel i chwarae trwy leihau'r fandaliaeth, yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r camddefnydd yr ydym wedi'u gweld yn ein cyrtiau eraill. Yn bwysig iawn, bydd Tennis Cymru, fel sefydliad nid-er-elw, yn ailfuddsoddi unrhyw arian a godir trwy ffioedd chwarae yn y cyrtiau er mwyn eu cynnal a'u cadw i lefel uchel a bod gan bobl le gwych i ddysgu a mwynhau'r gêm."

Fel rhan o'r cynnig byddai Tennis Cymru yn cyflwyno ac yn gweithredu cynllun aelodaeth a rheoli Clwb Spark. Mae'r cynllun yn galluogi Tennis Cymru i greu incwm trwy bolisi talu i chwarae cost isel, gyda'r enillion yn cael eu defnyddio i ailfuddsoddi yn y cyrtiau, gan leihau'r gofyniad i'r Cyngor neu'r Gymdeithas Tennis Lawnt fuddsoddi cyfalaf yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae gan Barc y Mynydd Bychan dri opsiwn talu wedi'u cynllunio ar gyfer teuluoedd, myfyrwyr a defnyddwyr achlysurol, yn ogystal â chynnig am ddim:

Tocyn Teulu - £39.00 y flwyddyn - Gall unrhyw aelod o'r teulu ar yr aelwyd archebu a chwarae am 12 mis, gyda chymaint o dennis ag y maent yn dymuno ei chwarae wedi'i gynnwys yn y ffi hon. Mae hyn yn cyfateb i £3.25 y mis yn unig, fesul teulu ac mae'n rhatach na chwarae chwaraeon traddodiadol eraill fel Pêl-rwyd, Pêl-droed, Hoci, Rygbi, Badminton, Sboncen ac ati.

Pás Myfyriwr - £19.00 y flwyddyn - Gall unrhyw fyfyriwr archebu a chwarae am 12 mis, gyda chymaint o dennis ag y maent yn dymuno ei chwarae wedi'i gynnwys.

Talu a Chwarae - £4.50 y cwrt, yr awr - Yn syml, archebwch ar-lein, talwch am yr awr a rhowch gynnig ar chwarae tennis. (Mae hyn ar gyfer chwaraewyr nad oes ganddynt neu nad ydynt yn dymuno cael Pás)

Am ddim - Calendr o gyfleoedd prawf am ddim, diwrnodau agored a hyfforddiant am ddim drwy gydol y flwyddyn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Burke: "Credwn fod hwn yn gyfle gwych i sicrhau a diogelu dyfodol cyrtiau tennis ar draws y ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nid yw'n gyfrinach bod y Cyngor yn gorfod gwneud toriadau i'r gyllideb o un flwyddyn i'r llall, felly mae'n rhaid i ni ddod o hyd i bartneriaid all ein helpu i gynnal gwasanaethau mewn ffordd sydd o fudd i breswylwyr Caerdydd. Mae'r peilot Tennis yn y Mynydd Bychan yn rhoi tystiolaeth glir y gallai hyn gael ei gyflwyno'n llwyddiannus ar draws y ddinas er budd pawb. Ar hyn o bryd, mae ein cyrtiau tennis mewn cyflwr gwael, ac mae hyn yn gyfle i ni wneud rhywbeth am hynny.

"Byddai Tennis Cymru yn rheoli'r safleoedd gyda chytundeb yn ei le gyda hyfforddwr lleol neu weithredwr hyfforddi i ddarparu gwasanaethau hyfforddi. Byddent hefyd yn ymrwymo i gynnig tennis am ddim gan sicrhau bod tennis yn parhau i fod yn hygyrch ac yn fforddiadwy i breswylwyr. Gallai hyn fod yn sesiwn tennis wythnosol am ddim o dan arweiniad hyfforddwr gydag offer yn cael ei ddarparu."

Bydd Pwyllgor Craffu Economi a Diwylliant y cyngor yn craffu ar y cynigion ar 20 Mehefin. Bydd y cyfarfod, sy'n dechrau am 4.30pm, yn cael ei ffrydio'n fyw a bydd ar gael i'w wylio yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=149&MId=7931

Bydd y cynigion wedyn yn mynd i'r Cabinet i'w cymeradwyo brynhawn Iau, 22 Mehefin. Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w gwylio yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=149&MId=7931