Back
Derbyniodd unig gyfarwyddwr Supatramp Ltd ddedfryd carchar ohiriedig o 10 mis yn Llys y Goron Caerdydd

20/06/23


Mae perchennog canolfan chwarae dan do Caerdydd, Supajump, wedi cael 
dedfryd carchar ohiriedig o 10 mis, 200 awr o waith di-dâl a gorchymyn i dalu £10,000 mewn costauam gyfres o droseddau iechyd a diogelwch, ac am fethu ag adrodd i'r awdurdodau cywir am anafiadau i blant a chwaraeodd ar offer diffygiol.

Mae Supajump, sydd wedi'i leoli ym Mharc Trident ar Ffordd y Cefnfor, yn cynnig amrywiaeth o atyniadau i blant gan gynnwys wal ddringo; trampolinau; cyfarpar wedi'i lenwi ag aer; arena pêl-fasged ac osgoi'r bêl; pwll ewyn a bag aer mawr.

Ond rhwng Awst 2017 ac Awst 2019, bu chwe digwyddiad ar wahân ar y safle gyda phlant yn cael eu hanafu. Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Mân anaf pan gafodd plentyn ei ddal rhwng bag aer heb ei chwyddo'n ddigon a wal y pwll
  • Toriadau coesau wrth ddefnyddio trampolinau neu'r pwll ewyn, a
  • Phlentyn wedi cael toriad asgwrn cefn wrth ddefnyddio'r pwll ewyn

Plediodd Philip Booth, 61 a ddedfrydwyd heddiw yn Llys y Goron Caerdydd, yn euog i'r chwe throsedd yn ôl ym mis Medi'r llynedd. Mr Booth yw unig gyfarwyddwr Supatramp Ltd, sy'n gweithredu'r cyfleuster hamdden Supajump ar Ffordd y Cefnfor. CafoddSupatramp Ltd hefyd ddirwy o £10,000.

Clywodd y llys fod y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi ymweld â Supajump cyn i'r lleoliad agor adeg y Pasg yn 2017 i ymchwilio i adroddiadau nad oedd safon yr offer sy'n cael ei osod yn y cyfleuster hamdden yn cydymffurfio â deddfwriaeth.

Dywedodd arolygydd iechyd a diogelwch wrth Mr Booth fod angen cynnal asesiadau risg 'addas a digonol' er mwyn diogelu ei gwsmeriaid. Cynghorwyd Mr Booth hefyd y dylid asesu'r offer yn annibynnol cyn i'r cyfleuster gael ei agor i'r cyhoedd.

Er gwaethaf trafodaethau parhaus a nifer o ymweliadau gan Iechyd a Diogelwch fe fethodd Mr Booth â chydymffurfio ag argymhellion iechyd a diogelwch ac fe fethodd ag adrodd am anafiadau i blant a ddigwyddodd ar ei safle i'r awdurdodau priodol.

Canfu'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir fod Supajump, a gafodd ei reoli ar y safle gan Mr Booth:

  • heb friffio diogelwch i gwsmeriaid ar sut i ddefnyddio'r offer.
  • gyda goruchwyliaeth annigonol gan staff pan oedd plant yn defnyddio'r offer.
  • heb fesurau 'rheolaeth gritigol' gan arwain at gamddefnyddio'r offer.
  • Nid oedd asesiadau risg a gynhaliwyd yn 'addas nac yn ddigonol'.
  • Ni ddarparwyd gwybodaeth gan wneuthurwyr offer a'r 'asesiadau risg dylunio' gan Mr Booth pan ofynnwyd amdanynt.
  • Nid oedd cynllun gweithredol i ddangos sut y dylai'r offer gael ei ddefnyddio'n gywir.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Mae hwn yn achos lle na ddilynwyd prosesau iechyd a diogelwch sylfaenol gan fusnes ac er gwaethaf i'n swyddogion gysylltu dro ar ôl tro, parhaodd y problemau a pharhaodd i fod yn bryder.

"Yn syml, cafodd plant eu rhoi mewn perygl a'u hanafu. Mae'r digwyddiadau a ddigwyddodd yn dangos diystyrwch llwyr Mr Booth a'i fusnes am y ddeddfwriaeth sydd ar waith. Gan fod y busnes yn dal i weithredu, bydd swyddogion y cyngor yn parhau i fonitro unrhyw gwynion neu bryderon pellach a dderbyniwn ac, os oes angen, byddant yn cymryd camau cyfreithiol pellach yn erbyn y busnes hwn. Dylai'r ddedfryd anfon neges glir bod y llys yn cymryd troseddau iechyd a diogelwch yn ddifrifol iawn."

Methodd Philip Booth â rhoi mesurau ar waith i sicrhau nad oedd cwsmeriaid yn agored i risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio offer chwarae yn y parc trampolîn - yn groes i Adran 3 'Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974'. Cafodd y cwmni a Mr Booth hefyd eu cyhuddo o bedwar cyhuddiad gwahanol o fethu â rhoi gwybod am anafiadau hysbysadwy a gafodd pedwar o blant ar wahân o dan 'Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013'.