Back
Cynllun i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi’i gytuno

22.6.23

Mae cynlluniau i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi'u cytuno gan Gyngor Caerdydd.

O ganlyniad i'r cynllun, bydd y ganolfan yn cael:

  • Pwll newydd 20m x 8m, wedi'i gynhesu gan pwmp gwres o'r ddaear.
  • Caffi newydd.
  • Campfa ffitrwydd newydd ar y llawr gwaelod.
  • Cae 3G maint llawn a chae bach newydd.
  • Cyfleuster newid i deuluoedd, wedi'i adnewyddu.
  • Neuadd a gofod allanol newydd y gellid eu prydlesu i drydydd partner - o bosib i greu ardal ar gyfer tennis padel ar y safle.
  • Paneli solar ar y to.

Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus a bydd newidiadau posibl yn cael eu hystyried o fewn terfynau’r gyllideb sydd wedi ei chymeradwyo.

Mae disgwyl y gallai'r gwaith ar y safle ddechrau mor fuan â'r hydref eleni, gyda pheth gwaith, gan gynnwys y caeau, y ganolfan ffitrwydd a'r ystafelloedd newid, wedi'u cwblhau yn gynnar yn 2024.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cyflwyno'r cynlluniau hyn nawr.  Mae pwysau o ran costau sy'n cael eu teimlo drwy'r diwydiant adeiladu cyfan a biliau ynni cynyddol wedi gohirio ein hawydd i uwchraddio'r cyfleuster, ond mae'r Cyngor bob amser wedi parhau'n ymrwymedig at y prosiect.

"Bu'n rhaid ailweithio ein cynlluniau cychwynnol ar gyfer Pentwyn yng ngoleuni'r ffactorau hynny, ond credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd ymlaen a fydd nid yn unig yn gweld Canolfan Hamdden Pentwyn yn elwa o adnewyddiad mawr, ond a fydd hefyd yn sicrhau y bydd nofio yn parhau i fod yn opsiwn yn y ganolfan.

"Mae canolfannau hamdden sydd â phyllau nofio wedi cael eu taro'n arbennig o galed yn sgil costau ynni cynyddol gyda llawer yn cau ledled y wlad, ond mae'r pwll rydyn ni'n ei gynnig, a fydd yn cael ei gynhesu gan bwmp gwres o'r ddaear, yn darparu cyfaddawd ymarferol. Bydd y pwll yn cael ei baratoi ar gyfer dysgu plant i nofio, ond bydd hefyd yn darparu ar gyfer nofio achlysurol."

Yn sgil y cynigion newydd, bydd canolfan fodern yn parhau o fewn y contract GLL, a GLL - sy'n sefydliad dielw -  fydd yn cynnal y cyfleusterau cymunedol gyda rhan o'r adeilad yn cael ei rhentu'n llawn gan Rygbi Caerdydd.

Trafododd y Cabinet y cynlluniau ar gyfer Canolfan Hamdden Pentwyn brynhawn Iau, 22 Mehefin.  Mae recordiad o'r cyfarfod hwnnw, ac adroddiad llawn y cabinet ar gael i'w weld yma Agenda ar gyfer y Cabinet ddydd Iau, 22 Mehefin, 2023, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)