Back
Cyngor Caerdydd yn ennill Prosiect Sifil y Flwyddyn 2023/24 Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru

27/06/23


Mae Cyngor Caerdydd wedi ennill Gwobr Prosiect Sifil y Flwyddyn ar gyfer 2023/24 am Gynllun Trafnidiaeth y Sgwâr Canolog.

 

Rhoddir y wobr am drawsnewidiad Stryd Wood, sy'n cynnwys trefn ffyrdd newydd; lonydd bysiau newydd; gerddi glaw i reoli draenio dŵr wyneb; gwelliannau i'r ardal gyhoeddus a rhwydwaith priffyrdd sy'n rhoi blaenoriaeth i fysiau, yn barod ar gyfer agoriad y Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd i'r cyhoedd.

 

Y cynllun hefyd yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, gyda chroesfan i gerddwyr wedi'i hadeiladu'n benodol i gynnwys pobl ddall a rhannol ddall, gyda phlannu ychwanegol a 'safleoedd bysiau i wenyn' wedi'u gosod i gynyddu bioamrywiaeth yng nghanol y ddinas.

 

Rhoddodd Cyngor Caerdydd gytundeb i Knights Brown ymgymryd â'r gwaith, a wnaed yn ystod Pandemig COVID.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae'r wobr yn dyst i'r holl waith caled a wnaed gan swyddogion y Cyngor a'r contractwr i gwblhau'r cynllun hwn ar amser ac o fewn y gyllideb. Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau drwy'r ymgynghoriad i sicrhau ein bod yn darparu cynllun sy'n addas ar gyfer pob defnyddiwr, yn ogystal â gwella llif y traffig yn yr ardal hon o'r ddinas.

 

"Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos iawn gyda grwpiau anabledd i osod croesfan bwrpasol i gerddwyr sy'n darparu ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall.  Rwy'n gwybod bod hyn wedi cael croeso cynnes gan RNIB a'i gyflwyno fel model o arfer gorau ar gyfer pan fydd croesfannau cerddwyr eraill yn cael eu gosod ledled y ddinas. 

 

"Mae Stryd Wood wedi'i thrawsnewid. Nid yn unig y mae'r stryd yn edrych yn llawer gwell nag o'r blaen gyda phlannu ychwanegol a chynllun ffordd newydd, ond mae'r peirianwaith hefyd yn sicrhau nad yw'r ffordd yn gorlifo mewn tywydd gwael ac y bydd y gyfnewidfa fysiau newydd yn gallu gweithredu'n effeithlon, gan sicrhau bod bysiau'n cael blaenoriaeth dros draffig cyffredinol."