Back
Ysgol Arbennig Greenhill yn dathlu adroddiad Estyn rhagorol

5/7/2023

Mae Ysgol Arbennig Greenhill yn Rhiwbeina, wedi cael ei chydnabod gan Estyn am ei hymrwymiad diwyro i feithrin awyrgylch gefnogol sy'n cyfrannu'n sylweddol at les, datblygiad personol a chyflawniadau pob dysgwr. 

Yn ystod eu hymweliad diweddar, canfu arolygwyr Arolygiaeth Addysg Cymru fod yr ysgol yn ymfalchïo mewn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu, gyda ffocws cryf ar addysg awyr agored.  Mae'r cwricwlwm a gynlluniwyd yn feddylgar yn cyd-fynd â diddordebau a galluoedd myfyrwyr, gan sicrhau profiad addysgol diddorol a phersonol.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r perthnasoedd cadarnhaol a ffurfiwyd a'r ymddiriedaeth rhwng y staff, y disgyblion a'u teuluoedd ac mae ymroddiad yr ysgol i gynnig ystod o ymyriadau buddiol sy'n darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol myfyrwyr hefyd yn cael ei gymeradwyo.

Mynegodd Shane Mock, Pennaeth yr ysgol, ei werthfawrogiad dwfn o'r tîm cyfan yn Ysgol Arbennig Greenhill, gan gydnabod eu hymdrechion eithriadol cyn, yn ystod, ac wedi'r arolygiad. "Mae eu hymroddiad diflino wedi rhoi cyfleoedd rhagorol i bob myfyriwr ac mae'r staff yn rhannu fy malchder aruthrol yng nghanfyddiadau'r adroddiad. Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r Tîm Arolygu am eu proffesiynoldeb a'u cwrteisi trwy gydol y broses arolygu.

Dwedodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, y Cynghorydd Jayne Cowan: "Dylid canmol y Pennaeth, y tîm arweinyddiaeth a'r staff am eu hymrwymiad eithriadol i'r ysgol.  Roedd y myfyrwyr eu hunain wedi disgleirio'n llachar, gan ddangos rhagoriaeth Ysgol Arbennig Greenhill, tra bod y llywodraethwyr brwdfrydig ac ymroddedig yn dangos rhinweddau eithriadol y ddarpariaeth addysg ymhellach."

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'r gymeradwyaeth gadarnhaol a roddwyd yn adroddiad Estyn yn ailddatgan ymroddiad diwyro Ysgol Arbennig Greenhill i gynnig addysg a chymorth eithriadol i'w myfyrwyr.

"Mae'n brawf o ymdrechion ar y cyd y staff, y disgyblion a'r corff llywodraethu wrth sefydlu amgylchedd dysgu rhagorol."