Back
Y Cyngor yn datgelu diffyg ariannol yn y rhagolwg cyllideb diweddaraf

05/07/23
Mae pwysau gan gynnwys chwyddiant cynyddol, galw cynyddol am wasanaethau a dyfarniadau cyflog staff disgwyliedig wedi arwain Cyngor Caerdydd i ragweld bwlch o £36.8m yn ei gyllideb ar gyfer 2024-25, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) diweddaraf y Cyngor, a fydd yn cael ei adolygu gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, yn amlinellu'n fanwl y gost a ragwelir o ddarparu ei wasanaethau’r flwyddyn nesaf, gan gynnwys cynnal ysgolion, gofalu am bobl agored i niwed a gweithredu llyfrgelloedd a lleoliadau.

Mae hefyd yn amcangyfrif faint o gyllid y bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Ar gyfer 2024-25, mae'r cyngor yn amcangyfrif costau ychwanegol o £53.6m. Wedi'i osod yn erbyn cyllid ychwanegol o £16.8m, mae'r bwlch yn y gyllideb nawr yn £36.8m.

Mae'r adroddiad yn esbonio sut mae'r costau ychwanegol wedi codi:

  • Amcangyfrif o chwyddiant prisiau (£9.7m)
  • Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn y pris y mae'r Cyngor yn ei dalu am sicrhau gofal i blant ac oedolion agored i niwed yn ogystal ag ardollau y mae'n eu talu i sefydliadau fel y gwasanaeth tân;
  • Cynnydd yn y Galw am Wasanaethau (£7.6m)
  • Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth y Cyngor, yn enwedig ar gyfer gofal, yn ogystal â chostau addysg, gan gynnwys trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol;
  • Dyfarniadau cyflog amcangyfrifedig (£21.5m)
  • Mae chwyddiant hefyd yn effeithio ar gostau'r gweithlu drwy ddyfarniadau cyflog i athrawon a staff eraill y cyngor, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, casglwyr sbwriel a staff swyddfa. Nid yw dyfarniadau cyflog ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol wedi'u cwblhau eto ac maent yn ychwanegu ansicrwydd i'r broses gynllunio;
  • Pwysau eraill (£14.8m)

Mae hyn yn cynnwys symiau sy'n adlewyrchu pwysau sy'n dod i'r amlwg mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, digartrefedd, arlwyo ysgolion a chasglu gwastraff. Mae hefyd yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig ag ariannu rhaglen gyfalaf y Cyngor (adeiladu ysgolion newydd ac ati), a chynnal asedau presennol.

 Mae gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i gyflawni cyllideb gytbwys ac mae'r adroddiad yn nodi y bydd y cyngor yn cyflawni hyn yn bennaf drwy raglen fydd yn:

  • Lleihau gwariant
  • Cynyddu incwm
  • Defnyddio'r holl ffynonellau cyllid sydd ar gael, gan gynnwys ystyried yn ofalus lefelau'r Dreth Gyngor yn y dyfodol

Lle bo'n bosibl, mae'r cyngor yn bwriadu cyfyngu ar yr effaith ar breswylwyr a chwsmeriaid, ond bydd yn ymgynghori'n llawn â grwpiau yr effeithir arnynt a'r cyhoedd os bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau a safonau.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am gyllid, y byddai'r bwlch yn y gyllideb yn cael ei adolygu'n agos. "Byddwn yn parhau i weithio ar wneud arbedion a chynhyrchu incwm dros yr haf," ychwanegodd. "Yn achos arbedion effeithlonrwydd, byddwn yn gweithredu'r rhain cyn gynted â phosibl a byddwn yn cychwyn ar raglen o ymgynghori ag undebau, cyflogeion, grwpiau trydydd sector a'r cyhoedd i asesu beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer eu cymunedau."

Caiff y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ei drafod ym Mhwyllgor Chraffu Adolygu Polisi a Pherfformiad y Cyngor ddydd Mercher nesaf am 4:30pm. I weld yr adroddiad llawn, agenda’r cyfarfod a gweddarllediad byw o’r cyfarfod, dilynwch y ddolen hon Agenda Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Chraffu Perfformiad ar Dydd Mercher, 12fed Gorffennaf, 2023, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk). Yna, bydd yr adroddiad yn mynd am gymeradwyaeth i’r Cabinet o 2pm ddydd Iau, 13 Gorffennaf. Bydd ffrwd fyw o’r cyfarfod hwnnw ar gael i’w gwylio yma Agenda Cabinet ar Dydd Iau, 13eg Gorffennaf, 2023, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk).