Back
Adroddiad newydd yn mesur 'lles' Caerdydd

11.07.23
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei Adroddiad Lles blynyddol – hunanasesiad cynhwysfawr o ba mor dda y mae'n darparu gwasanaethau ac yn bodloni amcanion a nodir yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-25.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar saith prif thema:

  •  Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu;
  • Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu’n hŷn;
  • Cefnogi pobl allan o dlodi;
  • Cymunedau diogel, hyderus a grymus;
  • Prifddinas sy’n gweithio dros Gymru;
  • Mae Caerdydd yn tyfu mewn ffordd gadarn, a
  • Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus.

I lunio'r adroddiad, mae'r cyngor yn cynnal asesiad rheolaidd o'i berfformiad.  Mae'r broses hon yn cynnwys adolygu'r cynnydd a wnaed yn erbyn y dangosyddion llwyddiant allweddol a gynhwysir yn y Cynllun Corfforaethol, yn ogystal â mesurau perfformiad eraill fel monitro cyllid, canfyddiadau arolygiadau archwilio, canlyniadau'r arolwg a'r ganmoliaeth a'r cwynion a wneir gan aelodau'r cyhoedd.

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, fod llawer o bethau cadarnhaol i'w dysgu ohono. "Mae hyn yn dangos pa mor effeithiol mae'r ddinas yn gofalu am ei dinasyddion, beth bynnag fo'u hoedran a ble bynnag maen nhw'n byw.

"Yn amlwg, mae llawer i'w wneud o hyd ac rydym yn dal i deimlo effeithiau'r pandemig, yn enwedig mewn ysgolion lle mae presenoldeb yn parhau i fod yn bryder.  Ond mewn llawer o feysydd eraill, rydym wedi dychwelyd i’r lefelau perfformiad blaenorol cyn y pandemig ac, mewn rhai meysydd, wedi rhagori arnynt.

"Y casgliad pendant yw bod Caerdydd yn parhau i fod yn lle gwych i fyw, i dyfu'n hŷn ac i ffynnu. Byddwn yn dal ati i weithio i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn wir am flynyddoedd lawer i ddod."

UCHAFBWYNTIAU’R ADRODDIAD

  • Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu
  • Bu 'gwelliant parhaus' yn ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaeth addysg y ddinas, gyda chanlyniadau arolygon ysgolion yn gadarnhaol yn bennaf a chanlyniadau TGAU ar gyfer 2022 yn uwch na'r flwyddyn gymharol flaenorol, 2019.

Serch hynny, mae heriau'n parhau, gyda phedair ysgol mewn categori 'camau dilynol' ac un angen gwelliant sylweddol. Mae lefelau presenoldeb hefyd yn bryder, ynghyd â chynnydd yn nifer y gwaharddiadau parhaol ers y pandemig. Fodd bynnag, mae nifer y gwaharddiadau parhaol 15% yn is yn y flwyddyn academaidd bresennol, o gymharu â'r llynedd.

Mae yna alw uchel a chynyddol am wasanaethau plant a phrinder lleoliadau, ynghyd â 'heriau' wrth recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Yn ogystal, yr her fwyaf a wynebwyd yn ystod y flwyddyn yn y maes hwn oedd y diffyg lleoliadau i blant sy'n derbyn gofal. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd nifer y plant sy'n derbyn gofal gan ofalwyr maeth yr awdurdod lleol ar ei uchaf erioed ar 129, tra bod y nifer sy'n derbyn gofal gan ofalwyr maeth allanol yn 308, y nifer isaf erioed - symudiad cadarnhaol i ffwrdd o ddibynnu ar ofalwyr maeth allanol.

Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu’n hŷn

Mae nifer y bobl yng Nghaerdydd sy'n 65 oed a throsodd wedi cynyddu 16% dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae pobl hŷn ar gyfartaledd yn nodi lefelau lles gwell na grwpiau eraill yn y ddinas. Fodd bynnag, mae yna brinder gweithwyr gofal ac mae recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol yn parhau i fod yn 'broblem sylweddol'.

Fel rhan o ymgyrch y Cyngor i ddod yn 'Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn' swyddogol, mae wedi lansio nifer o fentrau gan gynnwys galluogi pobl hŷn i gysylltu'n ddigidol a chadw'n actif yn y gymuned, Rhaglen Gwirfoddolwyr sy'n Deall Dementia ac ehangu rhaglen gweithgareddau canolfan ddydd y ddinas.

Mae'r cyngor hefyd wedi ymrwymo i ddarparu tai pobl hŷn modern sy'n cefnogi byw'n annibynnol, gan gynnwys 44 o fflatiau gofal-barod yn Nhredelerch.

Cefnogi pobl allan o dlodi

Y llynedd, cafodd cyfanswm o 65,989 o bobl gymorth gyda chefnogaeth ariannol yn ymwneud â Covid a Chredyd Cynhwysol ond mae nifer y bobl sy'n dod yn ddigartref wedi cynyddu'n sylweddol, meddai'r adroddiad.

Mae tua 8,000 o bobl ar restr aros tai’r cyngor ond mae'r angen i ymestyn mynediad i dai yn gyflym yn flaenoriaeth gorfforaethol.

Gyda statws y cyngor fel Dinas Cyflog Byw yn ddiogel am dair blynedd arall, mae helpu pobl i gael gwaith hefyd yn flaenoriaeth, ac mae 4,227 o swyddi'r Cyngor wedi'u llenwi trwy leoliadau gwaith drwy Caerdydd ar Waith, asiantaeth recriwtio fewnol y Cyngor, gyda 1,115 o gleientiaid pellach yn cael eu cefnogi i mewn i gyflogaeth drwy’r fenter Porth Cyflogaeth.

Ers yr adroddiad diwethaf, mae'r Cyngor wedi dod yn un o'r 100 cyflogwr gorau yn arolwg Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall – yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau yn gyffredinol – ac mae wedi cadw ei wobr Aur. Yn ogystal, mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol wedi cwblhau ei adolygiad o weithrediadau'r cyngor ac mae pob un o'i argymhellion wedi'u derbyn.

Mae'r meysydd o gynnydd uniongyrchol yn cynnwys tîm Gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor yn gwella eu gwaith allgymorth i gefnogi grwpiau lleiafrifoedd ethnig i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, lansio rhaglen datblygu arweinwyr beilot i gynyddu amrywiaeth rheolwyr y dyfodol a chynyddu gwelededd modelau rôl Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) drwy noddi Darlith Goffa flynyddol Betty Campbell.

Cymunedau diogel, hyderus a grymus

Er bod Caerdydd yn ddinas ddiogel, mae gwahaniaethau ym marn pobl o'r ddinas yn dibynnu ar le maen nhw'n byw, gyda'r rhai yn ardaloedd mwy cefnog y ddinas ddwywaith yn fwy tebygol o ddisgrifio eu hunain fel 'bodlon iawn' na'r rhai yn y maestrefi mwyaf difreintiedig.

Ond mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ei holl gymunedau, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig - mae eisoes wedi adeiladu dros 800 o gartrefi newydd fforddiadwy, gyda tharged o 4,000 i gyd.

Yn ystod 2022-23, ymwelodd mwy na 4.5 miliwn o bobl â Hybiau a llyfrgelloedd y Cyngor a chytunodd 97% drwy arolwg Holi Caerdydd fod eu gofynion wedi'u bodloni. Adroddodd yr un arolwg hefyd fod mwy na 74% o bobl yn fodlon â'r parciau a'r mannau agored yn eu cymdogaethau.

Prifddinas sy’n gweithio dros Gymru

Economi Caerdydd yw sbardun twf cyflogaeth Cymru ac mae'r ddinas yn dychwelyd yn raddol i’w lefelau gweithgarwch cyn y pandemig, gyda 43 miliwn o ymwelwyr y llynedd wrth i ddigwyddiadau byw a diwylliannol ddychwelyd, er bod adfer incwm yn lleoliadau’r Cyngor yn parhau i fod yn her.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar raglen Metro Central a fydd yn creu cysylltiad rhwng canol y ddinas a'r Bae.  Mae tua £100m wedi'i sicrhau i ddarparu prosiect Cledrau Croesi Caerdydd tra bod mentrau eraill, gan gynnwys agor y gamlas ar Ffordd Churchill, yr Arena Dan Do Amlbwrpas, a cham nesaf y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, hefyd yn symud yn eu blaenau.

Mewn perthynas â digwyddiadau, mae'r Cyngor yn datblygu cais i fod yn un o’r dinasoedd a fydd yn cynnal Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop 2028 a fydd yn gyfle sylweddol i roi Caerdydd ar lwyfan chwaraeon byd-eang.

Mae Caerdydd yn tyfu mewn ffordd gadarn

Caerdydd sydd â'r ail lefel uchaf o allyriadau CO2 y pen o blith holl ddinasoedd craidd y DU ond mae'r Cyngor yn bwrw ymlaen â chyfres o brosiectau trafnidiaeth, ynni adnewyddadwy, ôl-ffitio tai a lliniaru llifogydd sydd wedi gwneud cynnydd da dros y flwyddyn.

Ar lefel Cyngor, bu gostyngiad o 13% mewn allyriadau CO2 gweithredol uniongyrchol rhwng 2019-20 a 2021-22, yn bennaf oherwydd llai o ddefnydd o drydan, tra bod gwelliannau o ran ansawdd aer ar draws y ddinas wedi'u gweld.

Mae ailgylchu'n dangos cynnydd cadarnhaol ac mae strategaeth ailgylchu newydd wedi'i chymeradwyo a fydd yn helpu'r Cyngor i gyrraedd targedau statudol wrth symud ymlaen.

Er mwyn gwella glendid strydoedd Caerdydd, mae timau 'Blitz' Carwch Eich Cartref wedi bod yn gweithio ar draws y ddinas gan dargedu ardaloedd problemus, gan gynnwys Cathays, Plasnewydd, y Sblot a'r arc deheuol. Mae hyn wedi arwain at safonau uchel o lendid a gostyngiad mewn cwynion yn yr ardaloedd hyn.

Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus

Yn unol â busnesau a'r cyhoedd, mae'r cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol oherwydd prisiau ynni, pwysau cyflog a ffactorau eraill. Er mwyn sicrhau ei wydnwch, mae'r cyngor wedi mabwysiadu dull rhagweithiol tuag at wneud arbedion.

Mae'r gallu i ddinasyddion gael mynediad i wasanaethau'r Cyngor ar-lein wedi parhau i ehangu ac mae niferoedd cynyddol o bobl - 74,000 ar hyn o bryd - wedi cofrestru ar yr ap CardiffGov.

Mae gweithio gyda chyflenwyr hefyd wedi arwain at fanteision ehangach i'r gymuned, ac ar hyn o bryd mae yna 33 o gontractau 'byw' sy'n cynnwys ymrwymiadau gwerth cymdeithasol a fydd yn sicrhau £7.6m o fuddion cymdeithasol.