Back
Ar yr ochr olau: Swyddogaeth goleuadau stryd newydd ar yr ap Cardiff Gov


12/7/23

Gall trigolion sydd wedi lawrlwytho'r ap Cardiff Gov ar eu dyfeisiau symudol nawr roi gwybod am broblemau goleuadau stryd yn y ddinas.

 

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r ap, sydd ar gael i'w lawrlwytho ar Google Play Store neu App Store Apple, yn caniatáu i drigolion roi gwybod i'r Cyngor yn gyflym ac yn gyfleus am nam ar olau stryd, gan nodi ei union leoliad ar fap yr ap.

 

Y swyddogaeth newydd yw'r diweddaraf i'w hychwanegu at yr ap, sydd bellach wedi'i lawrlwytho bron i 77,000 o weithiau ers ei lansio, gyda bron i 1,400 o lawrlwythiadau y mis diwethaf yn unig.

 

Mae'r adroddiadau goleuadau stryd yn ymuno â llu o swyddogaethau eraill ar yr ap, gan gynnwys gwirio eich diwrnod casglu gwastraff, rhoi gwybod am barcio problematig parhaus, rhoi gwybod am faw cŵn a hyd yn oed reoli eich cyfrif treth gyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae'r cyngor yn edrych yn gyson ar ffyrdd o'i gwneud hi mor hawdd â phosibl i drigolion ymgysylltu â ni, o roi gwybod am broblemau fel tipio anghyfreithlon i ddod o hyd i oriau agor ein canolfannau ailgylchu.

 

"Yr adroddiadau namau goleuadau stryd ar y fersiwn ddiweddaraf o'r ap yw ein ffordd ddiweddaraf o'i gwneud hi'n haws i gwsmeriaid gysylltu â ni, ar adeg sy'n addas iddyn nhw. Byddwn yn annog unrhyw un sydd heb lawrlwytho'r ap i wneud hynny nawr. Mae'n ddefnyddiol iawn ac rydyn ni'n ychwanegu gwasanaethau i'r ap trwy'r amser."

 

Gyda'r ap Cardiff Gov, mae adroddiadau'n cael eu cyfeirio at y tîm cywir yn y Cyngor yn awtomatig, gan ein galluogi i'w datrys mor gyflym â phosibl. Mae'r ap yn un o'r ffyrdd digidol y gall preswylwyr a chwsmeriaid gysylltu â'r Cyngor.

 

Deliodd sgyrsfot y Cyngor, BOBi, â chyfanswm o 5,194 o sgyrsiau ym mis Mai, yn gofyn yn bennaf am wybodaeth am y Dreth Gyngor, canolfannau ailgylchu a chasgliadau a gollwyd. Mae swyddogaethau newydd, sy'n galluogi BOBi i ateb ystod ehangach o ymholiadau ar wahanol wasanaethau'r cyngor, yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd a bydd gwelliannau i wybodaeth am dai a ffyrdd sydd ar gau ar gael yn fuan.

 

Ym mis Mai, ymwelodd 244,000 o bobl â www.caerdydd.gov.uk gan weld 531,000 o dudalennau, gyda 71.4% o'r ymweliadau'n cael eu gwneud ar ddyfais symudol. Cwblhawyd 100% o'r adroddiadau graffiti a dderbyniwyd gan y Cyngor ar-lein y mis diwethaf a gwnaed 98.9% (23,000) o'r archebion canolfannau ailgylchu ar-lein.

 

Derbyniwyd cyfanswm o 24,000 o daliadau ar-lein drwy'r wefan, yn dod i gyfanswm o £3.3 miliwn. Cafodd 7,500 o ffurflenni ar-lein eu cyflwyno drwy'r wefan, sy'n gynnydd o 1,400 o gymharu â mis Mai y llynedd.

 

Er bod tueddiadau'n dangos bod mwy a mwy o gwsmeriaid yn dewis cysylltu â'r Cyngor yn ddigidol, atebodd canolfan gyswllt y cyngor, Cysylltu â Chaerdydd (C2C), bron i 23,000 o alwadau fis diwethaf, gan gynnwys naw miliwnfed galwad y ganolfan ers iddi agor yn 2001.