Back
Peidiwch â cholli'ch pleidlais - anogir trigolion yng Nghaerdydd i wirio’u manylion cofrestru i bleidleisio


 12/7/23

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i wirio eu manylion cofrestru etholiadol er mwyn sicrhau bod ganddynt lais yn etholiadau'r dyfodol. 

 

Mae'r canfasiad blynyddol yn caniatáu i'r Cyngor gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i nodi pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau, a'u hannog i gofrestru cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

 

Gall mwy o bobl bleidleisio yn etholiadau Cymru nag erioed o'r blaen, felly mae hwn yn gyfle pwysig i ddiweddaru'r gofrestr etholiadol.  Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ac yn etholiad Senedd Cymru, ni waeth ble y cawsant eu geni a gall unrhyw un 14 oed a hŷn gofrestru.

 

Dywedodd Davina Fiore, Dirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Caerdydd: "Dylai trigolion gadw llygad am ddiweddariadau gan y Cyngor dros yr wythnosau nesaf.  Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol am bob cyfeiriad yn y ddinas yn gywir ac yn gyfredol. 

 

"Er mwyn sicrhau nad ydych chi'n colli'ch llais mewn etholiadau sydd i ddod, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch. Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw'n ymddangos yn y negeseuon a anfonwn.  Os ydych chi am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

 

Anogir pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar i wirio eu manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod pobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar lawer yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheini sydd wedi bod yn byw yn yr un cyfeiriad ers tro byd.  Yng Nghymru, bydd 91% o'r rhai sydd wedi byw yn eu cartref ers 16 mlynedd wedi eu cofrestru, o'i gymharu â 30% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn. 

 

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru:   "Does dim ots lle cawsoch eich geni, os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, gallwch bleidleisio yn etholiadau Cymru - ond dim ond os ydych chi'n cofrestru i bleidleisio gyntaf.

 

"Mae'n bwysig iawn bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny.   Rydym yn annog pobl i wirio am ddiweddariadau gan eu cyngor lleol ar y canfasiad eleni. Mae'n bosib y bydd y Cyngor yn cysylltu â phreswylwyr drwy'r post neu drwy e-bost. 

 

"Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'ch cyngor lleol pan ofynnir i chi a chofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio."

 

Mae gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol yma: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/cofrestru-i-bleidleisio-a-diweddaru-manylion

 

Gall preswylwyr sydd â chwestiynau am eu statws cofrestru gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol eu cyngor lleol drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk