Back
Yr ysgol Saesneg gyntaf i berfformio yn Tafwyl

13.7.23

Mae caneuon Cymraeg traddodiadol yn atseinio o amgylch coridorau Ysgol Gynradd Parc Ninian yr wythnos hon, cyn perfformiad arbennig a fydd yn golygu mai nhw fydd yr ysgol Saesneg gyntaf i berfformio yn Tafwyl.

Bydd 'Côr Tafwyl' yr ysgol, sy'n cynnwys 30 o ddisgyblion o'r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6, yn camu i'r llwyfan ar ddiwrnod olaf y dathliad blynyddol o Gelfyddydau a Diwylliant Cymru.

Daw'r perfformiad am 2pm ddydd Sul 16 Gorffennaf, ar ôl i'r ysgol yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd, ddod y cyntaf yn y ddinas i gyflawnigwobr Aur 'Siarter Iaith y Campws Cymraeg'sy'n cydnabod sut mae'r Gymraeg yn cael ei hintegreiddio ym mywyd bob dydd yr ysgol.

Dywedodd Jenny Scott, y Pennaeth:  "Mae'n anrhydedd mawr i ni gael gwahoddiad i gymryd rhan yn Tafwyl, ochr yn ochr ag ysgolion cynradd Cymraeg y ddinas. Mae'r disgyblion ym Mharc Ninian yn dod o ystod eang o ddiwylliannau a chefndiroedd ond yn ystyried Caerdydd a Chymru fel eu cartref.   O'r herwydd, maen nhw'n awyddus i ddysgu'r Gymraeg, ac am draddodiadau a diwylliant Cymru."

Mae Logan, sy'n saith oed, yn un o'r côr sydd wedi bod yn gweithio'n galed cyn y diwrnod mawr.  Dywedodd: "Dwi'n teimlo ychydig yn nerfus am Tafwyl achos mi fydd 'na lot o bobl yna.  Rwyf wedi bod yn ymarfer yn galed iawn gartref ac yn yr ysgol ac rwy'n gyffrous oherwydd efallai bydd rhai o aelodau o fy nheulu yn dod i wylio. Mae'n braf dysgu caneuon yn Gymraeg. Mae'n fy annog i ddysgu geiriau newydd."

Mae Emmi, sy'n 11 oed hefyd yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn Tafwyl am y tro cyntaf.  "Mae dysgu caneuon Cymraeg yn hwyl ac mae bod yng Nghôr Tafwyl wedi bod yn gyffrous.  Mae rhai o'r caneuon wedi bod yn her i gael yr ynganiad yn iawn, ond rwyf wedi mwynhau hynny.  Mae Tafwyl yn bwysig achos mae'n codi ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg a Chymru."

Mae Siarter Iaith yn brosiect gan Gynulliad Cymraeg, sy'n agored i bob ysgol yng Nghymru i hyrwyddo'r Gymraeg, datblygu ethos Cymraeg ac annog disgyblion i wella eu sgiliau Cymraeg.  Mae'r Siarter yn darparu fframwaith i ysgolion ei dilyn er mwyn ennill gwobrau efydd, arian ac aur, gyda thargedau'n cynnwys cyfleoedd dwyieithog yn y rhan fwyaf o gynlluniau gwersi, gwahodd siaradwyr Cymraeg i'r ysgol yn rheolaidd; gwasanaethau wythnosol Cymraeg; sefydlu 'Criw Cymraeg' gweithredol sy'n arwain ar ddatblygu'r Gymraeg yn yr ysgol; defnyddio mentrau 'Helpwr Heddiw'; arwyddion ac arddangosiadau dwyieithog; a'r defnydd o Gymraeg achlysurol yn yr ysgol a'r cyffiniau.

Esboniodd Jess Lewis, Cydlynydd y Gymraeg ym Mharc Ninian, "Ers 2017 mae Parc Ninian wedi bod yn defnyddio'r cynllun Campws Cymraeg i helpu i ddatblygu ein hunaniaeth Gymreig fel ysgol. Mae hefyd wedi codi safonau yn y defnydd o'r Gymraeg y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth. Dyfarnwyd statws Aur i ni yn Haf 2022 ac mae ein cymuned ysgol  gyfan yn hynod falch o'r cyflawniad hwn." 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r Gymraeg i bawb ac mae'n wych gweld llawer o ysgolion Saesneg Caerdydd yn manteisio ar ddwyieithrwydd ac yn gweithio tuag at wobrau Siarter Iaith, gyda Ninian Park yn arwain y ffordd."

Cynhelir Tafwyl ym Mharc Bute ddydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Gorffennaf.  Mae mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau'r penwythnos yma:  https://tafwyl.org/

Bydd holl ysgolion Caerdydd yn cael eu cynrychioli ar stondin, gyda swyddogion Addysg yn bresennol ar ddau ddiwrnod y digwyddiad, yn barod i ateb cwestiynau am addysg Gymraeg neu ddwyieithog. Beth am alw draw a darganfod sut y gallwch chi a'ch teulu fod yn rhan o'r daith ddwyieithog?