Back
Diweddariad ar Ddatblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

13.7.23

Mae cynlluniau i gyflymu'r gwaith o gwblhau'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wedi cymryd cam ymlaen ar ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd gyfarfod ar 13 Gorffennaf.  

Yn dilyn caffael yr holl dir heb ei ddatblygu ar benrhyn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, cytunodd y Cabinet mewn egwyddor i lunio cytundeb opsiwn gyda Cardiff Peninsula Consortium Ltd fis Rhagfyr diwethaf. Mae gwaith i ddatblygu'r cytundebau cyfreithiol bellach wedi'i gwblhau ac mae'r Cabinet bellach wedi eu cymeradwyo.

Roedd adroddiad a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod hefyd yn datgelu manylion pellach am y strategaeth ynni ar gyfer y safle, a allai, yn amodol ar geisiadau cyllid llwyddiannus, weld cyfnewidfa wres garbon isel yn cael ei datblygu i gysylltu'r Pwll Rhyngwladol a'r Arena Iâ, gyda'r pyllau nofio yn cael eu gwresogi gan ddefnyddio gwres a grëwyd yn y broses o greu iâ ar gyfer yr arena. Gallai'r strategaeth hefyd weld paneli solar yn cael eu gosod ar gyfleusterau presennol gan gynnwys yr Arena Iâ, y Pwll Rhyngwladol, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, a hen adeilad Toys R Us.

Roedd y Cyngor wedi gobeithio cyflwyno cynlluniau i orffen yr atyniad chwaraeon a hamdden ond mae angen rhagor o waith i gwblhau'r achos busnes o ystyried y cynnydd mewn prisiau sy'n deillio o'r amodau economaidd presennol.  Mae disgwyl i'r achos busnes gael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn 2023.

Roedd yr adroddiad yn nodi cyfres o 'gamau nesaf' i ddatblygu datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, gan gynnwys:

  • Cwblhau cytundeb gyda'r datblygwr cymeradwy yr haf hwn i alluogi gwaith i ddechrau ar geisiadau cynllunio.
  • Cadarnhau'r strategaeth hirdymor ar gyfer parcio ceir ar y safle.
  • Parhau i ddatblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer yr atyniad chwaraeon / hamdden sy'n fforddiadwy.
  • Cwblhau Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y Strategaeth Ynni.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Bydd symud ymlaen gyda'n strategaeth gwaredu tir yn caniatáu magu rhywfaint o fomentwm ar ôl cwblhau'r lleiniau preswyl a masnachol yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Mae'r Pentref yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac, er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil y cyfraddau llog a'r chwyddiant uwch sydd i'w teimlo ar draws economïau gwledydd Prydain ar hyn o bryd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n huchelgais o sefydlu'r ardal fel y gyrchfan chwaraeon a hamdden gorau yn y gwledydd hyn."

Mae'r strategaeth gwaredu tir yn caniatáu i'r cyngor gadw perchnogaeth ar y tir drwy gydol y camau datblygu, yn hytrach na gwaredu'r safle cyfan ar unwaith. Mae hyn yn osgoi'r posibilrwydd o 'fancio tir', lle mae datblygwr yn caffael darn o dir fel buddsoddiad, gan ei ddal at ddefnydd yn y dyfodol, ac nad yw'n gwneud unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer ei ddatblygu.   

Mae'r strategaeth hefyd yn ceisio osgoi cyfnodau o anweithgarwch trwy ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr alw lleiniau datblygu i lawr yn erbyn rhaglen fuddsoddi ddiffiniedig, gyda'r llain gyntaf i gael ei alw i lawr o fewn 12 mis i ymrwymo i'r cytundeb. Mae'r rhaglen hefyd yn caniatáu amser i'r datblygwr sicrhau caniatâd cynllunio fesul llain, cyn eu caffael.

Cyn cyfarfod y Cabinet, fe wnaeth Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant graffu ar y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.  Mae recordiad o we-ddarllediad y cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=8180&LLL=1

Mae Adroddiad y Cabinet ar gael yma, ynghyd â recordiad o we-ddarllediad cyfarfod y Cabinet: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8208&LLL=1