Back
Camau olaf at ddyfodol cynaliadwy i Neuadd Dewi Sant

13.7.23

Mae dyfodol cynaliadwy i Neuadd Dewi Sant gam yn nes gyda phenderfyniad a wnaed y dylai Cyngor Caerdydd ddiogelu'r lleoliad eiconig trwy fynd i brydles 45 mlynedd gyda'r Academy Music group (AMG).

Byddai'r brydles yn gweld AMG yn derbyn cyfrifoldeb llawn am yr adeilad, gan ei weithredu fel menter fasnachol annibynnol a dileu'r angen am unrhyw gyfraniad ariannol gan y Cyngor tuag at ei gynnal, ei ddiweddaru na'i weithredu. 

Yn rhan o'r cytundeb hefyd byddai AMG yn ymrwymo i ddyfodol hirdymor i'r Neuadd, gan neilltuo o leiaf 60 diwrnod yn y calendr prif ddigwyddiadau ar gyfer digwyddiadau clasurol allweddol ac 20 diwrnod ychwanegol y tu allan i'r dyddiadau brig, gydag ymrwymiad pellach o 10 diwrnod ychwanegol bob yn ail flwyddyn ar gyfer digwyddiad BBC Canwr y Byd Caerdydd.  Ochr yn ochr â hyn, bydd AMG hefyd yn ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda rhanddeiliaid clasurol allweddol i ddatblygu rhaglen glasurol a chymunedol gorau posibl, yn ogystal ag ymrwymo i gynnal offerynnau cerddorol allweddol y lleoliad, gan gynnwys pianos Steinway ac organ Neuadd Dewi Sant.  Bydd gweithwyr Cyngor sy'n gweithio yn Neuadd Dewi Sant ar hyn o bryd yn trosglwyddo i AMG ar delerau presennol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Byddai ymrwymo i gytundeb prydles gydag AMG yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, yn amddiffyn ei darpariaeth gerddoriaeth glasurol annwyl ac yn sicrhau ei bod yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru."

Wedi'i sefydlu ym 1982, mae Neuadd Dewi Sant á chapasiti o 2,000 wedi cynnal ystod amrywiol o ddigwyddiadau a pherfformiadau dros y blynyddoedd, o berfformiadau cerddorfaol symffonig i gyngherddau roc a phop, sioeau comedi a pherfformiadau dawns, gan fod yn llwyfan ar gyfer profiadau artistig o'r radd flaenaf. Ar ben hynny, mae ei safon acwstig yn sgil dylunio ar y cyd â'r acwstegwr enwog Sandy Brown, wedi ennill enw da iddo fel un o ddeg neuadd gyngerdd orau'r byd ac un o brif leoliadau cerddoriaeth glasurol y DU.

Fodd bynnag, mae Neuadd Dewi Sant wedi bod yn wynebu heriau sylweddol.  Mae diffyg cyllid cenedlaethol wedi gadael y Cyngor gyda'r cyfrifoldeb o gynnal yr adeilad a chefnogi'r rhaglen glasurol. 

Dywedodd y Cynghorydd Burke:   "Nid yw'n gyfrinach, yn dilyn degawd o gyni, bod cyllidebau'r sector cyhoeddus dan bwysau sylweddol ac er gwaethaf cyfraniadau ariannol parhaus a sylweddol y Cyngor i Neuadd Dewi Sant dros y 40 mlynedd diwethaf, mae'r cyllid sydd ei angen i fynd i'r afael â'r gwaith atgyweirio byrdymor, yr ôl-groniad cynnal a chadw tymor hwy, ac ariannu'r moderneiddio cyffredinol sydd ei angen wrth i'r adeilad heneiddio,  yn ogystal â darparu'r £1 miliwn o gymorth ariannol sydd ei angen ar y lleoliad bob blwyddyn, nid yw ar gael o fewn adnoddau presennol y Cyngor."

Yn 2016 y cychwynnodd Cyngor Caerdydd ar broses i nodi ffyrdd o leihau'r baich ar bwrs y cyhoedd, yng ngoleuni'r heriau hyn.  Er i'r broses ennyn diddordeb y farchnad, roedd yn amlwg bod y diddordeb yn amodol ar y Cyngor yn cadw cyfrifoldeb llawn am gynnal Neuadd Dewi Sant.

Yn fwy diweddar, ym mis Mai 2023, cynhaliodd y Cyngor ymarfer marchnad pellach a hwyluswyd gan gynghorwyr annibynnol a wahoddodd bartïon â diddordeb i gyflwyno cynigion am y cyfle i gaffael Neuadd Dewi Sant.  Ni dderbyniwyd unrhyw gynigion ffurfiol.

Cyn cyfarfod y Cabinet, fe wnaeth Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant graffu ar yr adroddiad ar Neuadd Dewi Sant.  Mae recordiad o we-ddarllediad y cyfarfod ar gael yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=8180&LLL=1

Mae Adroddiad y Cabinet, ynghyd â recordiad o we-ddarllediad cyfarfod y Cabinet ar gael yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8208&LLL=1