Back
Gallai gwaith ar arena dan do newydd Caerdydd ddechrau erbyn diwedd eleni

14.07/23


Disgwylir i waith ar safle arena dan do newydd Caerdydd, â lle i 15,000 o bobl, ddechrau erbyn diwedd eleni.

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi trafod cynnydd y prosiect a chymeradwyo'r argymhellion i lofnodi ystod o gytundebau cyfreithiol yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, fel y gall yr arena dan do ac adfywio safle Glanfa'r Iwerydd gymryd cam pellach ymlaen.

Mae adroddiad y Cabinet wedi argymell bod safle adfywio Glanfa'r Iwerydd yn cael ei rhannu'n ddwy ardal benodol, gydag un ardal yn cael ei rhoi allan i dendr i ddarparu datblygiad penodol a'r llall i fynd drwy ymarferiad profi'r farchnad pellach i ddenu diddordeb buddsoddi i'r prosiect. Dyma'r ardaloedd hynny:

  • Safle A: Safle Neuadd y Sir. Mae hyn yn cynnwys Neuadd y Sir ac ardaloedd o'r maes parcio nad ydynt yn rhan o ôl troed yr Arena. Y cynnig yw tendro'r tir hwn i gyflawni datblygiad penodol, a allai gynnwys gofod cynhyrchu creadigol newydd ar gyfer y sector creadigol ynghyd â swyddfeydd newydd, oll yn rhannu cyntedd.
  • Safle B: Safle Glanfa'r Iwerydd - sy'n cynnwys Canolfan y Ddraig Goch, y maes parcio a Hemmingway Road - bwriedir i hwn fynd drwy ymarferiad profi'r farchnad pellach, i ddenu rhagor o ddiddordeb buddsoddi gan y sector preifat. 

Bydd canlyniadau'r ymarfer tendro a phrofi'r farchnad yn cael eu hadrodd yn ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd yn y dyfodol, i gael penderfyniad ar fwrw ymlaen.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i drawsnewid y rhan hanesyddol hon o Gaerdydd yn gyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth, gan greu swyddi a chyfleoedd i bobl leol. Bydd yr Arena Dan Do yn cynyddu'n sylweddol nifer yr ymwelwyr ym Mae Caerdydd, a fydd o fudd i'r holl leoliadau lletygarwch presennol yn ogystal â'r datblygiadau newydd a fydd yn cael eu hadeiladu fel rhan o'r cynllun adfywio hwn.

"Does dim dwywaith amdani bod yr hinsawdd ariannol wedi newid ers i'r pandemig ddod i ben ac wedi dod yn fwy heriol gyda chynnydd yng nghost deunyddiau adeiladu a chyfraddau llog cynyddol. O ystyried hyn, bu rhaid i'r prosiect addasu i sicrhau y gellir ei gyflawni a'i fod yn fforddiadwy, felly nawr bod y cytundebau cyfreithiol wedi eu cytuno, gall y prosiect fynd rhagddo'n gyflym, gan ddisgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle ddiwedd eleni.

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo'r canlynol:

  • Cwblhau a chytuno ar Gytundeb y Gronfa Ddatblygu (CGDd) rhwng y Cyngor a Live Nation
  • Cytuno i ymestyn y Cytundeb Gwasanaeth Cyn Contract (CGCC) rhwng y Cyngor a Live Nation
  • Llunio achos busnes terfynol ar gyfer Stiwdio Cynhyrchu Capella, mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru
  • Cytuno i'r broses dendro fynd rhagddo ar gyfer Safle A ac ar gyfer yr ymarferiad i brofi'r farchnad ar gyfer Safle B.