Back
Fflyd o gerbydau ailgylchu newydd wedi’i chytuno i helpu i gynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas

14/07/23

Mae treial ailgylchu - sydd wedi arwain at 10,000 o gartrefi ledled Caerdydd yn gwahanu eu gwastraff ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd - wedi bod mor effeithiol nes bod y Cyngor yn bwriadu prynu 9 o dryciau sydd wedi'u cynllunio'n arbennig i gasglu gwydr ar wahân fel y gellir cyflwyno'r cynllun ar draws y ddinas. 

Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno CCGau dwy adran er mwyn gallu casglu ffrydiau ailgylchu ar wahân, gan ddisodli'r cerbydau un adran presennol.

Cafodd preswylwyr a gymerodd ran yn y treial ailgylchu sachau coch a glas amldro i wahanu eu hailgylchu, gyda phlastig, tun a metelau yn mynd i mewn i sachau coch, a phapur a chardfwrdd  i sachau glas. Roedd preswylwyr yn ardaloedd y treial eisoes yn defnyddio cynhwysydd ar wahân ar gyfer jariau a photeli gwydr.

Roedd y canlyniadau, o'u cymharu â gweddill y ddinas lle rhoddodd trigolion yr holl ddeunyddiau ailgylchu mewn bagiau plastig gwyrdd, yn syfrdanol. Gostyngodd y gyfradd halogi - eitemau sy'n cael eu rhoi allan i'w hailgylchu ond na ellir eu hailgylchu - o 30% i oddeutu 6%.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid yn yr Hinsawdd: "Mae gofyn i breswylwyr wahanu eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd wedi'i brofi'n ffordd hynod effeithiol o leihau halogi a chynhyrchu deunydd ailgylchadwy o ansawdd gwell. Mewn rhannau o'r ddinas lle mae pobl yn rhoi eu holl ailgylchu mewn bagiau plastig gwyrdd, rydyn ni'n dod o hyd i lawer o bethau na ellir eu hailgylchu fel gwastraff bwyd a chewynnau. Eitemau sy'n effeithio ar ansawdd y deunyddiau ailgylchu rydym yn eu casglu.

"Mae'r cynllun treialu wedi gwneud yn wych wrth ddileu llawer o'r materion hyn i'r fath raddau ein bod yn ystyried cyflwyno'r cynllun ar draws y ddinas ac o fis Tachwedd ymlaen byddwn yn ceisio dod â 40,000 o gartrefi eraill i'r cynllun, sy'n wych oherwydd ein bod yn gwybod bod pobl yn poeni am yr amgylchedd ac eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud gwahaniaeth. Bydd y ffordd newydd hon o baratoi deunyddiau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân i'w casglu yn helpu i wneud gwahaniaeth i dargedau ailgylchu'r ddinas hefyd, gan ein gwthio'n agosach at darged Llywodraeth Cymru lle bydd modd ailgylchu 70% o'n holl wastraff a gesglir wrth ymyl y ffordd erbyn 2025. Po fwyaf o waith rydyn ni'n ei wneud gyda'n gilydd ar hyn, y mwyaf o wastraff y byddwn yn ei arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu."

Nawr bod Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo'r broses gaffael yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, bydd y cyngor yn dechrau'r broses dendro i fuddsoddi £9.7m o gyllid cyfalaf fel rhan o'i raglen newid fflyd. Yna, dros gyfnod o 3 blynedd, bydd y system newydd o gasglu tri bag ailgylchu yn cael ei chyflwyno i breswylwyr ar draws y ddinas.

Cafodd y fflyd bresennol o gerbydau ailgylchu y mae'r cyngor yn eu defnyddio eu caffael drwy gytundeb llogi contract yn 2013/14 a daeth y cytundeb i ben yn 2019. Ers hynny, yn 2021/22, disodlodd y cyngor rai cerbydau sy'n casglu gwastraff gardd a gwastraff cyffredinol (bag du) ond gohiriwyd y broses caffael cerbydau i gasglu gwastraff bwyd a gwydr nes i Strategaeth Gwastraff newydd Caerdydd gael ei chymeradwyo.

Cynigir y fanyleb ganlynol o gerbydau ar gyfer y fflyd newydd:

1)     CCG â chefn rhanedig ar gyfer 'tuniau a phlastigau' a 'phapur a cherdyn'. Cerbyd casglu gwastraff yw hwn sydd â dwy siambr gasglu yng nghefn y cerbyd ar gyfer y gwastraff ailgylchu hwn.

2)     Cerbydau llwytho o'r top ar gyfer gwydr sydd â tu mewn i leihau lefel y sŵn pan fydd y gwydr yn cael ei roi i mewn i frig y cerbyd.

3)     Cerbydau llwytho o'r top gyda thu mewn plastig ar gyfer casglu gwastraff bwyd.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i drosglwyddo at fflyd lân a lleihau'r ddibyniaeth ar gerbydau disel. Bydd y Cyngor yn edrych ar gaffael 20 o gerbydau cludo arwyneb gwastad trydan ychwanegol ar gyfer gweithrediadau glanhau y flwyddyn nesaf, wrth i ni barhau i weithredu'r fflyd fwyaf o CCGau trydan yng Nghymru, a bydd datblygu seilwaith gwefru ymhellach yn ein galluogi i ehangu ein fflyd fwy fyth yn y dyfodol.

Er mwyn sicrhau bod hyblygrwydd yn y caffaeliad, bydd rhai cerbydau'n cael eu prynu, a bydd rhai yn cael eu prydlesu. Bydd hyn yn caniatáu i'r Cyngor fod â'r hyblygrwydd i symud i ffwrdd o injan diesel pan fydd amodau'n caniatáu hynny.

Bydd gan bob un o'r cerbydau a brynir yr injan Diesel Euro V1 diweddaraf, gan leihau lefelau gronynnau ac allyriadau Nitrogen Deuocsid yn sylweddol o'i gymharu â'r fflyd gyfredol.