Back
Mae 1.6 tunnell o bodiau coffi wedi cael eu hailgylchu yng Nghaerdydd ers mis Ebrill eleni

14.07/23


Mae 1.6 tunnell o bodiau coffi wedi cael eu hailgylchu o dros 2,600 o eiddo yng Nghaerdydd ers mis Ebrill eleni. 

Mae'r cynllun newydd yn caniatáu i aelwydydd gofrestru ar gyfer y cynllun gyda Podback, fel y gall y cyngor gasglu podiau coffi o gartrefi preswylwyr heb unrhyw gost i'r trethdalwr i barhau i gynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid yn yr Hinsawdd: "Fel cyngor does gennym ni ddim pŵer na dylanwad dros y mathau o ddeunydd pacio a gwastraff sy'n cael eu cynhyrchu gan gwmnïau sy'n gwerthu cynhyrchion a deunyddiau.  Ein rôl ni yw ailgylchu cymaint ohono â phosibl, tra'n sicrhau bod unrhyw wastraff na ellir ei ailddefnyddio na'i ailgylchu'n cael ei drin a'i waredu'n ddiogel. Mae'r cynllun Podback yn enghraifft wych o 'gyfrifoldeb cynhyrchwr', lle mae'r gwneuthurwyr yn cymryd yr awenau i ailgylchu'r gwastraff y maent yn ei gynhyrchu.

"Mae unrhyw aelwydydd sy'n defnyddio'r peiriannau coffi hyn ond sydd heb gofrestru ar gyfer y cynllun eto yn cael eu hannog i wneud hynny, gan ei fod yn gyflym ac yn hawdd i'w wneud, ac mae'r cyngor yn awyddus i ehangu'r cynllun cymaint â phosibl.

"Mae'r cyngor yn parhau i weithio gyda gweithgynhyrchwyr gwastraff i geisio ailgylchu hyd yn oed mwy o gynhyrchion drwy wasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd Caerdydd, fel y gallwn barhau i gynyddu cyfradd ailgylchu a chompostio'r ddinas a chyrraedd y targedau heriol sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru."

Bydd podiau a gesglir drwy'r gwasanaeth newydd yn cael eu hailgylchu yn y DU, gyda phlastig ac alwminiwm yn cael eu defnyddio i wneud cynhyrchion newydd, gan gynnwys deunydd pecynnu a chydrannau ceir, a'r mâl coffi yn cael ei ddefnyddio i greu ynni adnewyddadwy a gwella pridd.

Mae'r system gasglu ar alw newydd yn ei gwneud yn ofynnol i drigolion gofrestru i'r cynllun drwy wefan Podback - https://www.podback.org/a bydd rholyn o 13 bag yn cael ei anfon i'r eiddo gan Podback gyda chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r cynllun.

Pan fo bag yn llawn, gofynnir i drigolion drefnu casgliad wrth ymyl y ffordd drwy fynd i:www.caerdydd.gov.uk/podback.

I gael gwybod mwy am gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Podback newydd a pha bodiau coffi y gellir eu hailgylchu, ewch i: www.podback.org