Back
Ymgynghoriad Cymunedol Canolfan Hamdden Pentwyn

14/07/23 

Bydd dwy sesiwn ‘galw heibio' cymunedol yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf, yn cynnig cyfle i drigolion lleol weld a rhoi sylwadau ar gynlluniau i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn. 

Canolfan Hamdden Pentwyn

Bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn ddydd Mercher 19 Gorffennaf (10am-7pm) a Chanolfan Gymunedol y Pwerdy ddydd Iau 20 Gorffennaf (10am-6pm).

I'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu sesiwn galw heibio, bydd dewis arall i roi sylwadau ar-lein yn cael ei hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd o 19 Gorffennaf ymlaen.Bydd yr adborth ar-lein yn parhau ar agor tan ddiwedd y mis.

Mae'r cynlluniau a ddatgelwyd yn ddiweddar ar gyfer y ganolfan yn cynnwys:

  • Pwll newydd 20m x 8m, wedi'i gynhesu gan bwmp gwres o'r ddaear.
  • Ffreutur newydd.
  • Campfa ffitrwydd newydd ar y llawr gwaelod.
  • Cae 3G maint llawn a chae bach newydd.
  • Cyfleuster newid i deuluoedd, wedi'i adnewyddu.
  • Neuadd a gofod allanol newydd y gellid eu prydlesu i drydydd partner - o bosib i greu ardal ar gyfer tennis padel ar y safle. 
  • Paneli solar ar y to.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae cyfleusterau hamdden lleol yn golygu llawer i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a bydd y sesiynau galw heibio hyn yn rhoi cyfle i'r gymuned wneud sylwadau ar ein cynlluniau i uwchraddio'r cyfleuster, cyn i'r dyluniad manwl gael ei gwblhau."

"Er gwaetha'rpwysau o ran costau sy'n cael eu teimlo drwy'r diwydiant adeiladu a biliau ynni cynyddol, mae'r Cyngor bob amser wedi bod yn ymrwymedig i'r prosiect.Bu'n rhaid ail-lunio ein cynlluniau cychwynnol yng ngoleuni'r ffactorau hynny, ond yn fwyaf pwysig, credwn ein bod wedi dod o hyd i ffordd ymlaen a fydd yn gweld Canolfan Hamdden Pentwyn yn elwa o adnewyddiad mawr.  Mae'r cynlluniau'n sicrhau y bydd nofio yn parhau i fod yn opsiwn yn y ganolfan o fewn model gweithredu mwy cynaliadwy a fforddiadwy."