Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 21 Gorffennaf 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Dyddiau Da o Haf! Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn lansio rhaglen ddigwyddiadau 2023; Dadorchuddio Cerflun o Dorwyr Cod y Byd Rygbi; Ysgol Gynradd Adamsdown yn derbyn adroddiad Estyn rhagorol; a Baneri Gwyrdd Newydd ar gyfer mannau gwyrdd yng Nghaerdydd.

 

Dyddiau Da o Haf! Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn lansio rhaglen ddigwyddiadau 2023

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi lansio Dyddiau Da o Haf, rhaglen weithgareddau a digwyddiadau ledled y ddinas wedi'i hanelu at bobl ifanc 11-25 oed.

Wedi'i chyflwyno trwy glybiau ieuenctid, darpariaeth ieuenctid stryd, prosiectau ar-lein ac wedi'u targedu ledled Caerdydd, mae'r rhestr yn cynnwys ystod o weithgareddau fel teithiau dydd, sesiynau blasu mewn crochenwaith, adeiladu, cerddoriaeth a harddwch, cynnal cyfnewidfeydd ieuenctid, rhaglen Esports a  Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn meddiannu'r Parc Aqua a Chanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.

Yn ogystal ag amrywiaeth o chwaraeon, grwpiau lles a gweithgarwch creadigol, mae Creawdwyr Cynnwys Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc 11-17 oed gymryd rhan mewn gwersyll haf digidol ac mae Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms yn darparu cyfres o brofiadau awyr agored.

Bydd clybiau ieuenctid hefyd ar agor ar draws y gwasanaeth gan gynnig lle diogel a chefnogaeth i bobl ifanc gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau fel coginio, celf a chrefft, gemau a chwaraeon. 

Bydd llu o ddigwyddiadau i helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf yn dilyn arholiadau hefyd yn cael eu cynnal, yn ogystal â sesiynau mentora sy'n rhoi cymorth i gyflogaeth, addysg, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Bydd rhaglen Dyddiau Da o Haf yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar-lein. I ddarganfod mwy, gallwch ymweld â  https://www.cardiffyouthservices.wales/index.php/cy/digwyddiadau  neu ymuno â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol #HafGic

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd, dilynwch eu sianeli cyfryngau cymdeithasol Instagram a Facebook @cardifffyouthservice

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cynghorydd Peter Bradbury; "Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd 3500 o aelodau o'r Gwasanaeth Ieuenctid ac mae'n gwneud dros 40,000 o gysylltiadau â phobl ifanc bob blwyddyn.  Mae'r ffigurau arwyddocaol hyn yn dangos pa mor bwysig yw'r ddarpariaeth a pha mor helaeth mae'n cael ei defnyddio, gan gynnig achubiaeth i lawer o bobl ifanc, a rhoi lle iddynt fynd a rhywun i siarad â nhw.

"Bydd rhaglen digwyddiadau'r haf eleni yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth a chyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau anffurfiol yn seiliedig ar eu hanghenion. Yn ogystal â hyn, rwy'n croesawu cyllid ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda thrigolion lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu cynllun cymunedol ar lawr gwlad ar gyfer Caerau a Threlái, gan helpu i ddiwallu anghenion a dyheadau pobl leol gyda ffocws cryf ar gefnogi plant a phobl ifanc.  Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio rhaglenni ymgysylltu ehangach ledled Caerdydd a gweddill Cymru."

Darllenwch fwy yma

 

Dadorchuddio Cerflun o Dorwyr Cod y Byd Rygbi

Mae cerflun sy'n dathlu tri o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi' Caerdydd wedi cael ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd heddiw. Hwn yw'r cerflun cyntaf erioed yng Nghymru i gynnwys dynion du wedi'u henwi heb fod yn rhai ffuglen.

Wedi'i ddylunio gan y cerflunydd Steve Winterburn, sy'n enwog am waith realistig llawn cymeriad, mae'r cerflun yn y Sgwâr Tir a Môr yn anfarwoli tri o arwyr chwaraeon mwyaf Cymru, a ddewiswyd gan bleidlais gyhoeddus: Billy Boston, Clive Sullivan a Gus Risman.

Cafodd y prosiect ‘Un Tîm. Un Ddynoliaeth:  Anrhydeddu Torwyr Cod Byd Rygbi Bae Caerdydd' y tu ôl i'r cerflun ei sefydlu yn 2020, wedi'i ysbrydoli gan alwadau gan gymunedau Butetown a Bae Caerdydd ehangach am deyrnged briodol i'r chwaraewyr a wnaeth gymaint i wella cysylltiadau hiliol ledled Prydain. 

Dywedodd Cadeirydd y prosiect Un Tîm. Un Ddynoliaeth: Anrhydeddu Torwyr Cod Rygbi Bae Caerdydd, y dyn busnes a'r dyngarwr Syr Stanley Thomas OBE, a ddechreuodd y gwaith codi arian ar gyfer y cerflun gyda rhodd bersonol sylweddol:  "Rwyf wrth fy modd, ar ôl dim ond dwy flynedd o ymgyrchu a chodi arian, ein bod ni fel pwyllgor wedi cyrraedd ein targed codi arian a'n bod ni i gyd yma heddiw gyda Billy, teuluoedd yr holl chwaraewyr, rhoddwyr a'r gymuned leol yn dadorchuddio'r darn godidog hwn o gelf gan Steve Winterburn sy'n cydnabod yr arwyr chwaraeon hyn yn eu dinas enedigol, Caerdydd.

"Hoffwn ddiolch yn bersonol i Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Y Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol, Teulu Peterson, Ymddiriedolaeth Cyfleusterau Rygbi'r Gynghrair, Coleg Caerdydd a'r Fro a'r Sefydliad Broceriaid Cychod am eu rhoddion caredig, ac i  Capital Law, Verde Finance, Azets a Rio am eu sgiliau proffesiynol a'u hamser wrth gyflawni'r prosiect hwn."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Bydd cael cerflun o'r chwaraewyr anhygoel hyn yng nghanol Bae Caerdydd, wrth ymyl y cymunedau amlddiwylliannol balch lle cawsant eu magu, yn ffynhonnell ysbrydoliaeth am genedlaethau i ddod. Mae eu cyflawniadau wedi cael eu hanwybyddu am rhy hir, ac rwyf wrth fy modd eu bod nhw heddiw, o'r diwedd, yn cael eu hanrhydeddu a'u dathlu yn y ddinas lle cawson nhw eu geni.  Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosib."

Dywedodd Cadeirydd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol, Gaynor Legall: "Cefais fy magu yn yr un gymuned â'r chwaraewyr hyn.  Roedden nhw'n arwyr i ni bryd hynny oherwydd eu cyflawniadau ac maent yn dal i fod. Mae'n wych bod yma heddiw gydag aelodau o'r gymuned leol i weld y cerflun gwych hwn yn cael ei ddadorchuddio a'u gweithredoedd gwych yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, fel y gallant fod yn ffynhonnell gyson o anogaeth ac ysbrydoliaeth."

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Adamsdown yn derbyn adroddiad Estyn rhagorol

Mae gan Ysgol Gynradd Adamsdown ddull meddylgar o ddiwallu anghenion disgyblion unigol sy'n gwella eu cyfleoedd mewn bywyd ac yn codi eu dyheadau, meddai Estyn.

Yn ystod arolygiad diweddar, canfu'r Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru fod yr ysgol yn creu amgylchedd cynnes a chroesawgar lle mae ei chymuned ysgol amrywiol yn ffynnu.

Nododd arolygwyr fod disgyblion yn uchelgeisiol, yn barchus ac yn hapus iawn.  Maent yn ymgartrefu yn gyflym yn yr ysgol, yn caru dysgu ac yn elwa'n fawr ar ddull hynod effeithiol yr ysgol o gaffael iaith. 

Gyda chyfran sylweddol o ddisgyblion yn dod o wledydd yr effeithir arnynt gan wrthdaro, mae statws Ysgol Noddfa yr ysgol yn gadarn wrth wraidd ei gwaith.  Mae athrawon, arweinwyr, staff cymorth a llywodraethwyr wedi ymrwymo i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar bob disgybl i gael mynediad i'r cwricwlwm, gan ddechrau gyda lles a chefnogaeth emosiynol. 

Yn ei adroddiad, dywedodd arolygwyr fod y bartneriaeth gref gyda rhieni ac ethos meithringar yr ysgol yn sicrhau bod pob disgybl yn teimlo'n ddiogel ac yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn. Mae partneriaethau effeithiol yr ysgol gyda'i chymuned hefyd yn cyfrannu at ei llwyddiant wrth gefnogi lles disgyblion ac wrth ddarparu cwricwlwm deniadol. 

Wrth adlewyrchu ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Emma Thomas:  "Rwy'n falch iawn o'r adroddiad sy'n disgrifio safonau uchel ar draws pob maes o'n darpariaeth ysgol.  Mae cymuned yr ysgol gyfan yn ymroddedig i roi'r addysg a'r profiadau i'n disgyblion y maent yn eu haeddu, ac mae'n wych bod yr adroddiad yn adlewyrchu hyn.

"Datblygwyd ein dulliau unigryw dros nifer o flynyddoedd, ac ynghyd â'r cwricwlwm pwrpasol yr ydym yn ei gynnig, rydym yn falch bod ein darpariaeth yn gwella cyfleoedd bywyd ein disgyblion." 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae Ysgol Gynradd Adamsdown yn gwneud gwaith rhagorol ac mae'n braf gweld bod hyn yn cael ei gydnabod gan Estyn.

"Roedd natur gynhwysol yr ysgol a'r dull o ymdrin â sut mae anghenion unigolion yn cael eu diwallu yn arbennig o ddiddorol.  Gwelais hefyd fod y gwaith ar hawliau dynol a pherthnasoedd sy'n rhoi dealltwriaeth i ddisgyblion o degwch, cyfiawnder ac empathi yn rhagorol.

"Hoffwn longyfarch y Pennaeth, y staff a'r llywodraethwyr a diolch iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad." 

Darllenwch fwy yma

 

Baneri Gwyrdd Newydd ar gyfer mannau gwyrdd yng Nghaerdydd

Bydd 'Baner Werdd' yn hedfan uwchben dau fan gwyrdd arall a reolir gan Gyngor Caerdydd eleni, ar ôl i Barc Tredelerch yn Nhredelerch, a Mynwent y Gorllewin yn Nhrelái, ennill y marc ansawdd rhyngwladol uchel ei fri am y tro cyntaf.

Cadwodd un ar bymtheg o safleoedd eraill a reolir gan Gyngor Caerdydd eu gwobrau Baner Werdd llawn, sy'n golygu bod gan y ddinas bellach ddeunaw o barciau a mannau gwyrdd safonol y Faner Werdd. Mae gwobrau Cadwch Gymru'n Daclus yn cael eu barnu'n annibynnol yn erbyn ystod o feini prawf caeth, gan gynnwys bioamrywiaeth, cyfranogiad cymunedol, glendid a rheolaeth amgylcheddol.

Y safleoedd a reolir gan Gyngor Caerdydd i dderbyn Baner Werdd lawn eleni yw:

Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Fferm y Fforest, Gerddi'r Faenor, Parc Hailey, Parc y Mynydd Bychan, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig, Parc Fictoria, Gerddi Waterloo a Mynwent y Gorllewin.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Baneri Gwyrdd yw'r meincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd felly mae cael deunaw o'n safleoedd yn meddu gwobrau'r Faner Werdd lawn yn wych".

"Mae'n dyst i'r timau ymroddedig sy'n gweithio i Gaerdydd gynnal a gwella ei mannau gwyrdd, gyda chefnogaeth Grwpiau Cyfeillion a gwirfoddolwyr, bod barnwyr annibynnol, a 'siopwyr dirgel' wedi eu canfod yn cyrraedd y safonau uchaf, ac ymhlith y gorau yn y DU."

"Hoffwn longyfarch yr holl grwpiau cymunedol ledled Caerdydd hefyd, y mae eu hymrwymiad i'w mannau gwyrdd lleol wedi gweld 22 o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd yn cael eu gwneud yn y ddinas eleni."

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:   "Mae mynwentydd yn darparu mannau pwysig i fyfyrio'n bwyllog, ac rwyf wrth fy modd bod ansawdd y tiroedd ym Mynwent y Gorllewin yn Nhrelái wedi cael eu cydnabod am y tro cyntaf eleni, ochr yn ochr â Mynwentydd Cathays a Draenen Pen-y-graig.

"Mae'r gwobrau yn gydnabyddiaeth haeddiannol am yr holl waith caled, gofal a sylw sy'n mynd i gadw'r mannau agored hyn ar eu gorau i breswylwyr ac ymwelwyr."

Darllenwch fwy yma