Back
Y newyddion gennym ni - 24/07/23

Image

20/07/23 - Crochan Ceridwen sy'n byrlymu i gelf stryd newydd ysgol yng Nghaerdydd

Mae delweddau o hen fytholeg Cymru wedi cael triniaeth yr 21ain ganrif ac erbyn hyn yn addurno waliau ysgol uwchradd yn y ddinas, o ganlyniad i gydweithrediad rhwng tîm gwaredu graffiti'r Cyngor, disgyblion ac artistiaid lleol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/07/23 - Dadorchuddio Cerflun o Dorwyr Cod y Byd Rygbi

Mae cerflun sy'n dathlu tri o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi' Caerdydd wedi cael ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd heddiw. Hwn yw'r cerflun cyntaf erioed yng Nghymru i gynnwys dynion du wedi'u henwi heb fod yn rhai ffuglen.

Darllenwch fwy yma

 

Image

19/07/23 - Disgyblion Caerdydd yn tanio at ddyfodol disglair

Mae ysgolion uwchradd o bob rhan o Gaerdydd yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio'r heriau a fyddai'n cael eu hwynebu yn ystod taith i'r blaned Mawrth i ddatblygu anheddiad newydd sy'n gallu cynnal bywyd dynol.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/07/23 - Cyngor Caerdydd yn croesawu adroddiad rhanbarthol allweddol

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gymeradwyo adroddiad eang sy'n nodi cynlluniau i ddatblygu gofal cymdeithasol y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/07/23 - Ysgol Gynradd Adamsdown yn derbyn adroddiad Estyn rhagorol

Mae gan Ysgol Gynradd Adamsdown ddull meddylgar o ddiwallu anghenion disgyblion unigol sy'n gwella eu cyfleoedd mewn bywyd ac yn codi eu dyheadau, meddai Estyn.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/07/23 - Bydd Ysgol y Court yn cael ei hailenwi wrth i gynlluniau i ddatblygu'r ysgol gael eu cymeradwyo

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i Ysgol y Court. Mae penderfyniad i ailenwi'r ysgol yn 'Ysgol Cynefin' hefyd wedi'i gytuno.

Darllenwch fwy yma

 

Image

18/07/23 - Baneri Gwyrdd Newydd ar gyfer mannau gwyrdd yng Nghaerdydd

Bydd 'Baner Werdd' yn hedfan uwchben dau fan gwyrdd arall a reolir gan Gyngor Caerdydd eleni, ar ôl i Barc Tredelerch yn Nhredelerch, a Mynwent y Gorllewin yn Nhrelái, ennill y marc ansawdd rhyngwladol uchel ei fri am y tro cyntaf.

Darllenwch fwy yma