Back
Byddwch yn Ysgogwr Newid a helpu i wneud Caerdydd yn ddinas fwy cyfartal

03.08.23
Ydych chi eisiau creu byd tecach i bob plentyn? Ydych chi'n angerddol am gydraddoldeb i ferched a menywod ifanc? Oes gennych chi gynllun i roi eich delfrydiaeth ar waith?

Mae Caerdydd sy'n Dda i Blant, sy'n gyrru uchelgais y ddinas i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF, wedi ymuno â Plan UK (Cymru) i ariannu prosiectau newydd sydd â'r nod o wneud hynny.

Mae'r Grantiau Ysgogwr Newid Ifanc werth hyd at £1,000 ac maen nhw’n cael eu cynnig i bobl ifanc 13-24 oed a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc.

Nod grantiau newydd Caerdydd yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc:

  •  Fagu hyder, profiad mewn rheoli prosiectau a chyllidebau, a'r gallu i ddylanwadu ar eraill mewn amgylchedd diogel
  • Derbyn hyfforddiant a chymorth i ddatblygu sgiliau cynllunio, cyllid a gweithredu cymdeithasol
  • Dweud eu dweud a gweld eu hunain yn cael eu cydnabod fel cyfryngau newid cadarnhaol, a
  • Sicrhau newid cadarnhaol iddyn nhw eu hunain ac ym mywydau merched yng Nghymru ynghylch materion sy'n cyfyngu ar eu hawliau.

 O ymchwil a wnaed gan Plan UK yng Nghymru, mae'n amlwg bod merched yma yn teimlo nad yw eu hawliau'n cael eu parchu. Maen nhw:

  • Wedi cael llond bol ac yn rhwystredig gyda geiriau gwag fel 'grymuso menywod'
  • Yn poeni’n fawr am faterion gwleidyddol, ond yn sôn am deimlo'n anweledig mewn gwleidyddiaeth a chael eu bwlio am uniaethu fel ffeministiaid
  • Yn teimlo bod rhywiaeth ac aflonyddu yn yr ysgol yn rhemp
  • Ddim yn teimlo'n ddiogel yn gyhoeddus.

Dywedodd Leah, 17, mewn adroddiad sy'n deillio o'r ymchwil: “Pan fydd merch yn dioddef o aflonyddu neu ymosodiad rhywiol, does neb yn gofyn iddi ‘Sut wyt ti?' Mae pobl yn gofyn beth roedd hi’n gwisgo, ac mae mor amharchus oherwydd does dim ots beth oedden ni’n ei wisgo."

Ledled Cymru, mae grantiau Ysgogwr Newid Ifanc eisoes yn cael effaith. Yn Abertawe, defnyddiodd grŵp o bobl ifanc eu grant i recriwtio mwy o ferched i brosiect parc sglefrio; yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae wedi helpu i ariannu prosiect 'Mannau Diogel' i addysgu bechgyn ac eraill am brofiad merched o aflonyddu ar y stryd a mathau eraill o gamdriniaeth; ac yng Nghasnewydd, mae wedi helpu bachgen 16 oed i gyhoeddi casgliad o gerddi byrion wedi'u hysbrydoli gan y bwlio a'r casineb y mae'n eu gweld yn erbyn menywod a merched ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Caerdydd sy’n Dda i Blant: “Gwyddom fod merched a phobl ifanc yn wynebu nifer o heriau a all eu dal yn ôl yn yr ysgol, yn eu gyrfaoedd, yn eu bywydau bob dydd, a'u hatal rhag bod yn nhw eu hunain.

"Rydyn ni eisiau i bob person ifanc gyflawni ei botensial ond rydyn ni'n gwybod y gall pobl ifanc - merched yn arbennig - wynebu llawer o heriau yn eu bywydau sy'n atal hynny. Rwy'n gyffrous iawn y byddwn ni, gyda Plan, yn gwrando ar syniadau’r bobl ifanc eu hunain ar sut i wneud gwahaniaeth."

Dywedodd ei chydweithiwr, y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Fynd i'r Afael â Chydraddoldeb:  “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod hawliau merched yn cael eu cynnal a bod lleisiau pobl ifanc a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw wrth wraidd penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

"Mae ymuno â Plan UK (Cymru) i gynnig y grantiau hyn yn golygu y bydd merched a phobl ifanc yn gallu rhoi eu syniadau ar waith a gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu brwydr dros gydraddoldeb."

Sut i wneud cais am grant

Mae gan Plan UK (Cymru) a Chaerdydd sy'n Dda i Blant ddiddordeb arbennig mewn syniadau sy’n:

  • Grymuso pobl ifanc i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhywedd yng Nghaerdydd
  • Codi ymwybyddiaeth o broblemau a wynebir gan ferched a menywod ifanc yng Nghaerdydd
  • Dod gan bobl ifanc sy'n uniaethu’n rhan o gymunedau LHDTCRh+, BAME, Sipsiwn Roma, sy’n ofalwyr ifanc, yn bobl ifanc anabl, yn oroeswyr, neu unrhyw grwpiau eraill sy'n profi gorthrwm.

Mae’n rhaid i chi hefyd:

  • Fod rhwng 13 a 24 oed
  • Cael oedolyn cyfrifol ar y prosiect os ydych o dan 16 oed
  • Bod yn brosiect a arweinir gan bobl ifanc (mae croeso i sefydliadau wneud cais fel ffynhonnell o gymorth i'r bobl ifanc sy'n arwain y prosiect)
  • Sicrhau bod y prosiect o fudd i Gaerdydd
  • Ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2024 fan bellaf.

I wneud cais, ewch i wefan Caerdydd sy'n Dda i Blant yma https://www.childfriendlycardiff.co.uk/2023/07/plan-uk-young-changemaker-grant/ a gallwch naill ai gwblhau'r cais ysgrifenedig ar ffurflen ar-lein neu recordio eich hun yn ateb y cwestiynau a'i anfon at lizzy.brothers@plan-uk.org 

Y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yw Dydd Gwener, 22 Medi.