Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 04 Awst 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Atebion arloesol i fynd i'r afael â phrinder tai yn cyrraedd ar y safle; Dewch ar Lwybr Stori hudol a chrwydro Caerdydd mewn ffordd hollol newydd; a Disgyblion Caerdydd yn tanio at ddyfodol disglair.

 

Atebion arloesol i fynd i'r afael â phrinder tai yn cyrraedd ar y safle

Mae'r unedau modiwlaidd cyntaf, sy'n rhan o gynllun peilot arloesol i helpu i fynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy enbyd yng Nghaerdydd, wedi cyrraedd y safle yn Grangetown.

Mae'r ddwy uned fodiwlaidd yn rhan o'r cam cychwynnol a fydd yn cael ei osod ar hen safle'r Gwaith Nwy yn Heol y Fferi i greu 155 eiddo parod, hynod ynni-effeithlon, i helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau digartrefedd ac argaeledd llety dros dro yn y ddinas.

Gyda chefnogaeth ariannol gan Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru, mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r partner datblygu Wates i ddarparu'r cartrefi newydd, a fydd yn cynnig tai dros dro o ansawdd da i deuluoedd yn agos at ganolfan digartrefedd teuluol y cyngor, Yr Hafan, a adeiladwyd hefyd gan ddefnyddio unedau modiwlaidd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae ein gwasanaethau digartrefedd a thai yn parhau i weld galw eithriadol o uchel am gymorth. Mae'r ateb arloesol hwn i'r pwysau sy'n ein hwynebu yn ein galluogi i roi hwb cyflym i'n cyflenwad o lety, mewn llawer llai o amser na thrwy ddulliau adeiladu traddodiadol.

"Mae'n braf iawn gweld yr unedau cyntaf yn cyrraedd y safle.  Bydd y datblygiad yn cyflymu dros yr wythnosau nesaf ac rydym yn disgwyl i drigolion symud i mewn tua dechrau mis Hydref."

Darllenwch fwy yma

 

 

Dewch ar Lwybr Stori hudol a chrwydro Caerdydd mewn ffordd hollol newydd

Maen nhw'n dweud bod gan bawb stori i'w dweud. Wel, mae tîm Dinas sy'n Dda i Blant Cyngor Caerdydd wedi creu naw llwybr sy'n profi bod gan rai o ardaloedd mwyaf diddorol y ddinas eu straeon anhygoel eu hunain.

Mae pob un o'r llwybrau stori yn antur unigryw ac yn cynnig ffordd gyffrous, llawn hwyl i deuluoedd ddarganfod ein dinas hardd.

O fae prysur hanesyddol Caerdydd i lonyddwch Parc Bute, o Fferm y Fforest â'i gwyrddni i gaer hynafol a hudol Caerau, a hyd yn oed mwy o leoliadau rhyfeddol ar hyd y ffordd!

Mae pob llwybr yn bennod mewn stori gyfareddol wedi'i hysbrydoli gan lên gwerin Cymru, wedi'i hysgrifennu gan storïwyr lleol, ac wedi'i siapio gan feddyliau creadigol ein plant ysgol sy'n byw o amgylch pob un o'r llwybrau. Mae'r llwybrau'n annog chwarae, hwyl, a diddordeb go iawn yn y stori - dod o hyd i'r lleoliad nesaf, ymgysylltu'n ymarferol â'r awyr agored, megis rhwbio rhisgl/creu rhywbeth o frigau, a darganfod mannau cudd yn nhirnodau enwog Caerdydd.

Os ydych chi'n barod i droedio'r llwybrau hyn, gwisgwch eich gwisg antur orau a dilynwch y ddolen i'r dudalen Llwybrau Stori i gychwyn ar eich taith:

Llwybrau Stori : Caerdydd sy'n Dda i Blant

 

Am fwy o wybodaeth am sut i ddarganfod y straeon anhygoel sydd gan Gaerdydd i'w cynnig, cliciwch yma:

Caerdydd sy'n Dda i Blant.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau, Digwyddiadau a Lleoliadau:  "Mae'r llwybrau stori gwych hyn yn ddelfrydol i'r teulu cyfan gymryd rhan ynddynt yn ystod gwyliau hir yr ysgol ac yn cyd-fynd yn berffaith â gwaith y Cyngor tuag at gyflawni statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF.

"Wrth iddyn nhw archwilio, chwarae a dysgu, mae plant hefyd yn arfer eu hawliau fel plant - yr hawl i ymlacio, chwarae ac ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a hamdden eraill."

Darllenwch fwy yma

 

Disgyblion Caerdydd yn tanio at ddyfodol disglair

Mae ysgolion uwchradd o bob rhan o Gaerdydd yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio'r heriau a fyddai'n cael eu hwynebu yn ystod taith i'r blaned Mawrth i ddatblygu anheddiad newydd sy'n gallu cynnal bywyd dynol.

Mae Academi Ofod 2023 yn rhaglen addysg wythnos o hyd i helpu pobl ifanc 13 a 14 oed i ddysgu mwy am ymdrechion byd-eang o ran teithio yn y gofod a gwladychu'r blaned Mawrth. Mae hwn yn gynllun a grëwyd i blant o ysgolion uwchradd ar draws y ddinas, ac yn enwedig y rhai mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i'w hysbrydoli gyda gyrfaoedd STEM yn y diwydiant gofod - sector twf yn y ddinas a'r brifddinas-ranbarth. (STEM = Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)

Mae chwe ysgol uwchradd o bob rhan o'r ddinas yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio'r heriau a fyddai'n cael eu hwynebu yn ystod taith i'r blaned Mawrth i ddatblygu anheddiad newydd sy'n gallu cynnal bywyd dynol. Gwahoddir disgyblion o'r ysgolion sy'n cymryd rhan i ymgysylltu â chyfres o heriau'n ymwneud â theithiau i'r blaned Mawrth.

Bydd digwyddiadau tîm yn gofyn i ddisgyblion weithio gyda'i gilydd i gynhyrchu cynigion ar gyfer adeiladu canolfan i gartrefu trefedigaeth ddynol ar y blaned Mawrth. Bydd y gyfres o heriau'n gofyn i ddisgyblion weithio'n greadigol i gynhyrchu dyluniad ar gyfer lansio roced a roboteg Lego i archwilio'r tir a'r bywyd ar y blaned Mawrth gan ddefnyddio'r dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf.

Bydd disgyblion yn cael cyfleoedd i weithio gydag ymchwilwyr blaenllaw o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ac Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â chyflogwyr lleol blaenllaw o'r sector awyrofod gan gynnwys Space Forge a Small Spark Space Systems, ac amrywiaeth o arbenigwyr allanol eraill. Trwy gymryd rhan yn y profiadau dysgu amrywiol hyn, byddant yn gallu cymhwyso ac ehangu eu gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg yn ogystal â sgiliau annatod eraill sy'n bileri i'r cwricwlwm newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae Academi Ofod Caerdydd yn helpu i godi dyheadau ac ysbrydoli mwy o blant ysgol yng Nghaerdydd i ystyried gwneud pynciau STEM ac agor eu llygaid i gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant gofod yn y dyfodol.

"Yn enghraifft ardderchog o waith partneriaeth, mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo. Maen nhw'n cael profiadau, gwybodaeth a chyngor ar y cyfleoedd gyrfaol cyffrous sydd gan Gaerdydd i'w cynnig, sy'n helpu cyflogwyr i gael mynediad at genhedlaeth o bobl ifanc sy'n wybodus, yn frwdfrydig ac yn awyddus i weithio yng Nghaerdydd, gan helpu i dyfu sectorau yn y Brifddinas-Ranbarth."