Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 08 Awst 2023

Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

  • Manylion y Grantiau Ysgogwyr Newid Ifanc gwerth hyd at £1,000 - dyddiad cau am geisiadau, 22 Medi
  • Dyfarnu contract i adeiladu amddiffynfeydd llifogydd arfordirol Caerdydd - y cynllun ar flaendraeth Ffordd Rover a glannau Afon Rhymni
  • Mae ein Gwasanaeth Cerdd yn newid gyda lansiad ‘Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro' - yn dod â brand a gwefan newydd, gan wneud y gwasanaeth yn ehangach ac yn fwy hawdd ei ddefnyddio i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion.

 

Byddwch yn Ysgogwr Newid a helpu i wneud Caerdydd yn ddinas fwy cyfartal

Ydych chi eisiau creu byd tecach i bob plentyn? Ydych chi'n angerddol am gydraddoldeb i ferched a menywod ifanc? Oes gennych chi gynllun i roi eich delfrydiaeth ar waith?

Mae Caerdydd sy'n Dda i Blant, sy'n gyrru uchelgais y ddinas i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF, wedi ymuno â Plan UK (Cymru) i ariannu prosiectau newydd sydd â'r nod o wneud hynny.

Mae'r Grantiau Ysgogwr Newid Ifanc werth hyd at £1,000 ac maen nhw'n cael eu cynnig i bobl ifanc 13-24 oed a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc.

Nod grantiau newydd Caerdydd yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc:

  • Fagu hyder, profiad mewn rheoli prosiectau a chyllidebau, a'r gallu i ddylanwadu ar eraill mewn amgylchedd diogel
  • Derbyn hyfforddiant a chymorth i ddatblygu sgiliau cynllunio, cyllid a gweithredu cymdeithasol
  • Dweud eu dweud a gweld eu hunain yn cael eu cydnabod fel cyfryngau newid cadarnhaol, a
  • Sicrhau newid cadarnhaol iddyn nhw eu hunain ac ym mywydau merched yng Nghymru ynghylch materion sy'n cyfyngu ar eu hawliau.

O ymchwil a wnaed gan Plan UK yng Nghymru, mae'n amlwg bod merched yma yn teimlo nad yw eu hawliau'n cael eu parchu. Maen nhw:

  • Wedi cael llond bol ac yn rhwystredig gyda geiriau gwag fel 'grymuso menywod'
  • Yn poeni'n fawr am faterion gwleidyddol, ond yn sôn am deimlo'n anweledig mewn gwleidyddiaeth a chael eu bwlio am uniaethu fel ffeministiaid
  • Yn teimlo bod rhywiaeth ac aflonyddu yn yr ysgol yn rhemp
  • Ddim yn teimlo'n ddiogel yn gyhoeddus.

Dywedodd Leah, 17, mewn adroddiad sy'n deillio o'r ymchwil: "Pan fydd merch yn dioddef o aflonyddu neu ymosodiad rhywiol, does neb yn gofyn iddi ‘Sut wyt ti?' Mae pobl yn gofyn beth roedd hi'n gwisgo, ac mae mor amharchus oherwydd does dim ots beth oedden ni'n ei wisgo."

Ledled Cymru, mae grantiau Ysgogwr Newid Ifanc eisoes yn cael effaith. Yn Abertawe, defnyddiodd grŵp o bobl ifanc eu grant i recriwtio mwy o ferched i brosiect parc sglefrio; yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae wedi helpu i ariannu prosiect 'Mannau Diogel' i addysgu bechgyn ac eraill am brofiad merched o aflonyddu ar y stryd a mathau eraill o gamdriniaeth; ac yng Nghasnewydd, mae wedi helpu bachgen 16 oed i gyhoeddi casgliad o gerddi byrion wedi'u hysbrydoli gan y bwlio a'r casineb y mae'n eu gweld yn erbyn menywod a merched ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Caerdydd sy'n Dda i Blant: "Gwyddom fod merched a phobl ifanc yn wynebu nifer o heriau a all eu dal yn ôl yn yr ysgol, yn eu gyrfaoedd, yn eu bywydau bob dydd, a'u hatal rhag bod yn nhw eu hunain.

"Rydyn ni eisiau i bob person ifanc gyflawni ei botensial ond rydyn ni'n gwybod y gall pobl ifanc - merched yn arbennig - wynebu llawer o heriau yn eu bywydau sy'n atal hynny. Rwy'n gyffrous iawn y byddwn ni, gyda Plan, yn gwrando ar syniadau'r bobl ifanc eu hunain ar sut i wneud gwahaniaeth."

Dywedodd ei chydweithiwr, y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Fynd i'r Afael â Chydraddoldeb:  "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod hawliau merched yn cael eu cynnal a bod lleisiau pobl ifanc a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw wrth wraidd penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

"Mae ymuno â Plan UK (Cymru) i gynnig y grantiau hyn yn golygu y bydd merched a phobl ifanc yn gallu rhoi eu syniadau ar waith a gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu brwydr dros gydraddoldeb."

Sut i wneud cais am grant

Mae gan Plan UK (Cymru) a Chaerdydd sy'n Dda i Blant ddiddordeb arbennig mewn syniadau sy'n:

  • Grymuso pobl ifanc i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhywedd yng Nghaerdydd
  • Codi ymwybyddiaeth o broblemau a wynebir gan ferched a menywod ifanc yng Nghaerdydd
  • Dod gan bobl ifanc sy'n uniaethu'n rhan o gymunedau LHDTCRh+, BAME, Sipsiwn Roma, sy'n ofalwyr ifanc, yn bobl ifanc anabl, yn oroeswyr, neu unrhyw grwpiau eraill sy'n profi gorthrwm.

Mae'n rhaid i chi hefyd:

  • Fod rhwng 13 a 24 oed
  • Cael oedolyn cyfrifol ar y prosiect os ydych o dan 16 oed
  • Bod yn brosiect a arweinir gan bobl ifanc (mae croeso i sefydliadau wneud cais fel ffynhonnell o gymorth i'r bobl ifanc sy'n arwain y prosiect)
  • Sicrhau bod y prosiect o fudd i Gaerdydd
  • Ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2024 fan bellaf.

I wneud cais, ewch i wefan Caerdydd sy'n Dda i Blant yma:

https://www.childfriendlycardiff.co.uk/2023/07/plan-uk-young-changemaker-grant/

Gallwch naill ai gwblhau'r cais ysgrifenedig ar ffurflen ar-lein neu recordio eich hun yn ateb y cwestiynau a'i anfon atlizzy.brothers@plan-uk.org 

Y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yw Dydd Gwener, 22 Medi.

 

Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer system amddiffyn rhag llifogydd newydd

Mae Knights Brown wedi derbyn y contract i adeiladu system amddiffyn rhag llifogydd arfordirol newydd Caerdydd yn ne-ddwyrain Caerdydd.

Mae'r cynllun, ar flaendraeth Rover Way a glannau Afon Rhymni, wedi'i gynllunio i ddiogelu eiddo rhag effaith tywydd eithafol, a rhag lefelau'r môr yn codi am y 100 mlynedd nesaf.

Mae'r cynllun yn cadw at gynllun rheoli traethlin mabwysiedig Cyngor Caerdydd sef "hold the line" ac mae wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru drwy'r rhaglen rheoli risg arfordirol.

Nawr bod y broses hon wedi'i chwblhau gyda'r contract wedi'i ddyfarnu, mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle yn ddiweddarach eleni a bydd yn cymryd tua 3 blynedd i'w gwblhau. Disgwylir i gyfanswm cost y prosiect fod oddeutu £35 miliwn, gyda'r rhan fwyaf o'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

Ar ôl ei adeiladu, bydd y cynllun yn darparu:

  • Rhwystr creigiog 150,000 o dunelli ar hyd yr arfordir i reoli erydiad a llanw uchel
  • Gosod pyst seiliau ar hyd cylchfan Ffordd Lamby
  • Argloddiau pridd wedi'u cynnal, ac
  • Amddiffyniad creigiog i Bont Ffordd Lamby

A bydd:

  • Yn rheoli'r risg o lifogydd i 1,116 eiddo preswyl a 72 eiddo amhreswyl, ynghyd â safle Sipsiwn a Theithwyr Ffordd Rover.
  • Darparu amddiffyniad yn erbyn digwyddiad o dywydd garw un mewn 200 mlynedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bydd y cynllun yn darparu amddiffyniad effeithiol rhag llifogydd tra'n lleihau'r effaith ar fywyd gwyllt ac yn gwella'r llwybr cerdded sy'n ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru, sy'n cysylltu â hawliau tramwy cyhoeddus presennol.

Mae'r Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet y Cyngor dros Newid yn yr Hinsawdd wedi croesawu cynnydd y cynllun, a dywedodd: "Mae Caerdydd eisoes yn dechrau teimlo effeithiau ein hinsawdd sy'n newid ac fel dinas arfordirol mae llifogydd wedi dod yn risg gynyddol sylweddol wrth i lefelau'r môr godi a thywydd eithafol ddigwydd yn fwy aml.

"Mae gwella ein hamddiffynfeydd llifogydd arfordirol yn flaenoriaeth allweddol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae eiddo preswyl o bosibl mewn perygl.

"Drwy ein strategaeth Caerdydd Un Blaned, rydym yn gwneud cynnydd da ar leihau allyriadau carbon y Cyngor ei hun, gan sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan yn cyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd byd-eang, ond mae camau rhagweithiol fel y cynllun hwn ar y blaendraeth ac Afon Rhymni, hefyd yn hanfodol os ydym am sicrhau bod Caerdydd yn ddigon gwydn i ymdopi yn y blynyddoedd i ddod."

Mae strategaeth Caerdydd Un Blaned yn nodi amrywiaeth o ffyrdd lle mae Caerdydd yn symud tuag at fod yn garbon niwtral, gan gynnwys: lleihau'r defnydd o ynni ac effeithlonrwydd ynni yn adeiladau'r cyngor, cynyddu'r cyflenwad ynni adnewyddadwy, symud i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy ac actif, lleihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr o nwyddau a gwasanaethau a brynir, gwneud dewisiadau doethach i wastraffu llai ac ailgylchu mwy, a chynyddu cyfleoedd i amsugno allyriadau trwy seilwaith gwyrdd a phlannu coed.

 

Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg yn newid, gyda lansiad ‘Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro'

Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg yn newid i'Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro'.Mae'r gwasanaeth wedi cael ei adnewyddu, gydag edrychiad gwahanol, gan gynnwys logo a gwefan newydd, sy'n gwneud y gwasanaeth yn ehangach a haws ei ddefnyddio i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion.

Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn mynd o nerth i nerth yn dilyn lansio'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth fis Medi diwethaf, ac er mwyn ymateb i'w rôl hollbwysig newydd fel y sefydliad arweiniol lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, datblygwyd enw, brand, gwefan a phorthol rhieni ac ysgolion newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae cerddoriaeth nawr yn chwarae rhan bwysig ym maes Celfyddydau Mynegiannol y Cwricwlwm i Gymru ac mae lansio'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yn cyd-fynd â gweithrediad y cwricwlwm o fis Medi 2022, wedi sicrhau bod y ddwy elfen yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ysgolion ac athrawon yn ogystal â darparu cyfleoedd cyffrous i blant a phobl ifanc brofi'r llawenydd a ddaw gyda chreu cerddoriaeth.

Bydd y wefan newydd a'r porthol rhieni yn gwella cyfathrebu rhwng tiwtoriaid, rhieni a gofalwyr diolch i system negeseuo integredig. Mae opsiynau talu hefyd yn newid fel y call cost hyfforddiant gael ei lledaenu dros gyfnod hirach, i roi amrywiaeth o opsiynau sy'n fforddiadwy i bawb.

Mae'r logo newydd ar gyfer y gwasanaeth, CerddCF, yn cyfleu hunaniaeth ddaearyddol gref sy'n gysylltiedig â'r cod post ar gyfer yr ardal ranbarthol leol ac ehangach, mae amlygrwydd 'addysg' wrth wraidd y cynnig ac mae'r newid yn mynd i'r afael ag unrhyw ddryswch posibl gyda gwasanaethau cerdd lleol eraill.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Nod y gwasanaeth, ar ei newydd wedd, yw uno pob partner addysg gerdd, lleoliad a sefydliad perfformio ar draws y rhanbarth, gyda chefnogaeth i bob ysgol a lleoliad yn genhadaeth iddo.

"Mae'n newyddion gwych i bobl ifanc yng Nghaerdydd a'r Fro. Byddant yn cael gwasanaeth symlach gyda'r un gwersi o safon a mwy o gyfleoedd i dalent ac i ddisgyblion lwyddo yn y dyfodol."

Bydd ysgolion, rhieni a gofalwyr sydd â disgyblion sydd eisoes yn cael gwersi cerdd gyda'r gwasanaeth yn cael e-bost yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud i ddechrau'r tymor newydd ym mis Medi.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig eang gan Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro, ewch i:

https://www.cfmusiceducation.co.uk/cy/

Neu dilynwch @cerddcf ar y cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy.