Back
“Mae'r hyfforddiant sydd ar gael yn ardderchog ac mae'r gefnogaeth gan fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych."


10/08/23 

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Caerdydd yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

 

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

 

Mae'r newidiadau hyn yn blaenoriaethu gwasanaethau lleol, sydd wedi'u cynllunio'n lleol, wedi'u dylunio'n lleol, ac yn atebol yn lleol.

 

 

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal.' Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni'r newidiadau hyn, mae Maethu CymruCaerdydd- y rhwydwaith sy'n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru - yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy'n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i'w tîm awdurdod lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Cymru sy'n arwain y ffordd ar newidiadau hirhoedlog a chadarnhaol i ofal pobl ifanc yng Nghymru - er budd pobl ifanc sy'n derbyn gofal heddiw, ac yn y dyfodol.

"Mae maethu gyda Maethu Cymru Caerdydd, eich cyngor lleol, yn cynnig llawer o fanteision - o gefnogaeth, hyfforddiant a chymuned leol o ofalwyr maeth - ond yn bwysicaf oll, yr opsiwn i bobl ifanc aros yn lleol. 

 

"Pan ddaw plentyn i ofal, mae angen i ni gael opsiynau iddo aros mor agos at adref â phosibl ac mae ein cymunedau lleol yn allweddol i wneud i'r newid hwn ddigwydd. Felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â ni heddiw."

 

Mae 79% o blant sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i'w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o'r rhai sy'n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i'w cartref, i'r ysgol, i deulu a ffrindiau.

 

Eglurodd y gofalwr maeth Becky, a wnaeth y newid o asiantaeth annibynnol i Faethu Cymru Caerdydd, ei daith - a'r gwahaniaeth y mae wedi'i weld wrth faethu gyda'r awdurdod lleol:

 

"Rydym wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Caerdydd ers bron i ddwy flynedd bellach. Fe wnes i faethu gydag Asiantaeth Faethu Annibynnol am dair blynedd ynghynt, ond doeddwn i ddim yn hoffi'r syniad ei fod er elw felly fe wnes i symud, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gwneud hynny. Roedd y pontio yn ddidrafferth, roedd yn rhaid i mi fynd drwy'r asesiad eto, ond roedd y cyfan yn iawn ac roeddwn yn cael gwybod am bob datblygiad. Mae'r hyfforddiant sydd ar gael yn ardderchog ac mae'r gefnogaeth gan fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych. Symud oedd y penderfyniad gorau i ni ei wneud erioed."

 

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i:https://caerdydd.maethucymru.llyw.cymru/neu ffoniwch02920 873797.