Back
Dweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau digidol y Cyngor

11.08.23
Diolch i'r chwyldro mewn cyfathrebu digidol a’r lluaws o ffonau clyfar a dyfeisiau llechen, ni fu erioed yn haws cadw mewn cysylltiad â'n gilydd.

Ac, fel pob awdurdod lleol ledled y gwledydd hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu'r dechnoleg i alluogi preswylwyr i gael gafael ar wasanaethau a chysylltu â'r cyngor ar-lein ar gyffyrddiad botwm neu ddau.

Ap Gov Caerdydd yw un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd y bydd trigolion Caerdydd yn cysylltu â'r Cyngor. Ers ei lansio yn 2018, mae wedi'i lawrlwytho fwy na 79,000 o weithiau ac mae'n galluogi defnyddwyr i weld eu hymholiadau yn mynd at y tîm cywir ar draws ystod o wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys:

  •  Gwirio dyddiadau eich casgliadau ailgylchu a gwastraff a gosod negeseuon atgoffa.
  • Gwirio eich cyfrif Treth Gyngor.
  • Trefnu casgliad gwastraff swmpus
  • Rhoi gwybod am broblem glanhau strydoedd megis sbwriela neu faw cŵn.
  • Adrodd am dipio anghyfreithlon yn uniongyrchol o'r lleoliad
  • Rhoi gwybod am broblem ar y ffordd neu'r palmant fel tyllau neu graffiti

 Mae sgyrsbot 24 awr dwyieithog y Cyngor BOBi eisoes wedi trawsnewid y ffordd y mae preswylwyr yn cyrchu gwasanaethau yn sylweddol. Mae ei brif wasanaethau'n cynnwys:

  •  Ailgylchu a gwastraff
  • Ysgolion – gwybodaeth am ddyddiadau'r tymhorau, derbyniadau a dalgylchoedd ac ati.
  • Treth Gyngor a budd-daliadau – gwybodaeth am newid cyfeiriad ac ati.
  • Dirwyon – sut i dalu a sut i apelio
  • Graffiti – adrodd am ddigwyddiadau a lleoliadau.

Wedi'i lansio yn 2020, mae BOBi yn sgwrsio tua 5,000 o weithiau bob mis ar gyfartaledd, gyda 1,000 o'r sgyrsiau hynny y tu allan i oriau swyddfa. Mae adborth yn awgrymu bod 80% o ddefnyddwyr yn ei gael yn iawn, yn dda neu'n dda iawn.

Nawr, wrth i fwy a mwy o bobl ryngweithio'n ddigidol gyda'r cyngor - a mwy o wasanaethau yn dod yn hygyrch - mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i glywed gan y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau ar-lein am eu profiadau ac yn eu hannog i gymryd rhan mewn arolwg ledled y ddinas.

Dwedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, fod gwasanaethau digidol yr awdurdod eisoes wedi trawsnewid y ffordd y mae’r Cyngor yn rhyngweithio â'r cyhoedd.

"Rydym am i'n gwasanaethau digidol ddod hyd yn oed yn fwy hygyrch a chynnig y gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i'n trigolion. Rydym yn gwybod y bydd angen i rai preswylwyr allu cysylltu â'r Cyngor yn bersonol neu dros y ffôn, ond trwy ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ddefnyddio ein sianeli digidol, gallwn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau mewn ffyrdd sy'n addas i bawb."

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor yma - ArolwgGwasanaethau Digidol (caerdydd.gov.uk) neu ewch yn syth i'r arolwg - ArolwgGwasanaethau Digidol 2023 (snapsurveys.com)  

Yn ogystal â Saesneg a Chymraeg, mae'r arolwg hefyd ar gael mewn Pwyleg ac Arabeg ac mae copïau papur i'w gweld mewn Hybiau a llyfrgelloedd ar draws Caerdydd.  Gellir dychwelyd y rhain gan ddefnyddio'r blwch glas yn yr Hybiau neu ddefnyddio'r amlen Rhadbost barod.

  • Mae’r arolwg yn cau ar-lein am 11.30pm Ddydd Sul 17 Medi.