Back
Yr Arglwydd Faer yn gwirio cynnydd diweddaraf HMS Cardiff

11.08.23
Fel porthladd hanesyddol, mae Caerdydd wedi bod â chysylltiadau arbennig â'r Llynges Frenhinol ers amser maith ac mae llongau mawr eu bri wedi cario enw'r ddinas ledled y byd ers dros 400 mlynedd.

Nawr mae'r pedwerydd HMS Cardiff wedi cymryd cam sylweddol tuag at ei chwblhau, wrth i griw o bwysigion o'r ddinas ei gwylio.

Ddiwedd mis Gorffennaf, derbyniodd yr Arglwydd Faer y Cynghorydd Bablin Molik, Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg a'r Capten Anrhydeddus Raj Aggarwal, Conswl Anrhydeddus India yng Nghymru, wahoddiad gan BAE Systems ynghyd â'r Brigadydd Jock Fraser, Cadlywydd Rhanbarthol y Llynges dros Gymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel, i ymweld â'r iard longau yn Glasgow i weld sut mae HMS Cardiff yn siapio.

Cwblhaodd gweithwyr yno y cam o asio dwy ran y llong ynghyd, cam allweddol yn y broses o’i hadeiladu. Nawr, bydd rhagor o waith strwythurol yn mynd rhagddo yn Govan cyn iddi gael ei rholio ymlaen ar i fad, yn barod i gael ei harnofio a'i throsglwyddo i Scotstoun i gwblhau’r gwaith arni. Yno, bydd yn ymuno â'i chwaer long, HMS Glasgow, sydd wrthi'n cael ei chwblhau.

Erbyn 2028, pan ddisgwylir i HMS Cardiff fod yn barod ar gyfer dyletswyddau gweithredol, y ffrigad Math 26 fydd yr ail o genhedlaeth nesaf helwyr llongau tanfor y Llynges Frenhinol. Yn ogystal â'r dyletswyddau hyn, bydd hi hefyd yn gallu amddiffyn rhag ymosodiadau o’r awyr â thaflegrau Sea Ceptor, taro targedau ar y lan gyda gwn newydd pum modfedd, cynnal cyrchoedd cynorthwyo mewn trychinebau a chynnal gweithrediadau drôn, hela ffrwydron môr a chyrchoedd gyda’r Morlu Brenhinol.

Dwedodd y Cynghorydd Molik: "Roedd gan ein dinas gysylltiadau cryf a chyfeillgarwch parhaol gyda'r HMS Cardiff blaenorol ac rydym yn hynod falch y bydd un o genhedlaeth nesaf helwyr llongau tanfor y Llynges Frenhinol hefyd yn dwyn enw'r brifddinas.

"Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau cysylltiadau Caerdydd gyda'r Llynges Frenhinol a'r HMS Cardiff newydd mewn blynyddoedd i ddod."

Rhagflaenwyr blaenorol HMS Cardiff:

  •  Llong 34 gwn a gipiwyd oddi ar yr Iseldirwyr yn 1652 oedd yr HMS Cardiff gyntaf. Fe'i gwerthwyd chwe blynedd yn ddiweddarach.
  • Ym 1917, rhoddwyd yr enw ar long ysgafn dosbarth C a ymladdodd yn Ail Frwydr Heligoland Blight yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei datgymalu yn 1946 ar ôl gwasanaethu fel llong hyfforddi yn yr Ail Ryfel Byd.
  • Lansiwyd y trydydd HMS Cardiff ym 1974 a chwaraeodd ran ym Mrwydr y Falklands a Rhyfeloedd y Gwlff. Cafodd ei dadgomisiynu yn 2005
  • Arwyddair y llong yw Agris yn Cardine rerum' - 'Awyddus mewn argyfwng'