Back
Darpariaeth Dysgu Oedolion yn cael ei chanmol gan arolygwyr addysg

21.08.23
Mae darpariaeth dysgu oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cael ei galw'n "hynod effeithiol" ar ôl arolwg swyddogol.

Roedd yr arolwg gan Estyn yn archwilio’r gwasanaeth a ddarperir gan Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd a'r Fro, grŵp sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro, Cyngor Bro Morgannwg ac Addysg Oedolion Cymru.

Gyda'i gilydd, mae ei 193 aelod o staff addysgu rhan amser a 43 llawn amser yn cynnig cyrsiau i bron i 6,000 o ddysgwyr.

Mewn adroddiad cadarnhaol, dywedodd arolygwyr Estyn fod gan y bartneriaeth "weledigaeth glir ar gyfer ei diben, ei chyfeiriad a'i darpariaeth", gan ychwanegu:  "Mae'r weledigaeth wedi'i gwreiddio yn ei hymrwymiad i wella cyfleoedd bywyd dysgwyr sy'n oedolion yn ei chymunedau amrywiol."

Mae'r adroddiad yn ei wneud yn glir bod y Bartneriaeth yn cynnig llawer mwy nag addysg.  Mae dysgwyr yn adrodd bod dysgu yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau, drwy eu helpu i gael gwaith, dysgu sgil newydd, cefnogi bywydau eu plant neu gyfoethogi eu bywydau eu hunain trwy weithgareddau artistig a chymdeithasol.  Dyfynnwyd yn yr adroddiad un dysgwr yn dweud bod y cwrs wedi helpu i roi mwy o hyder a hunan-barch iddi, yn ogystal â rhoi'r cyfle i gwrdd â phobl newydd.  Mae hi nawr yn mwynhau gweithio fel cynorthwy-ydd addysgu yn ysgol ei phlant.

Mae'r cyrsiau hefyd yn aml yn borth i gyfleoedd addysg bellach gyda llawer yn awyddus i symud ymlaen i weithgareddau dysgu, cyflogaeth neu wirfoddoli pellach.

Nodwyd yn yr adroddiad fod "mwynhad a chwerthin a chyd-gefnogaeth yn amlwg ym mhob dosbarth bron a bod.  Mae ethos ar draws y bartneriaeth bod dysgu'n hwyl ac mae pwyslais ar ei bwysigrwydd o ran cynyddu cyfleoedd bywyd, gwella iechyd meddwl a lles a chreu cymunedau cynhwysol a ffyniannus."

Un o gryfderau'r Bartneriaeth, meddai’r adroddiad, oedd ei gallu i addasu darpariaeth cyrsiau i anghenion newidiol marchnad lafur Cymru ac i weithio'n effeithiol gyda phartneriaid eraill os oes materion penodol.  "Mae gan y bartneriaeth ffocws cryf ar helpu dysgwyr i wella eu sgiliau i gael gwaith. Mae'n gwneud hyn trwy ystod o weithgareddau a allai ddechrau gyda pharu dysgwr gyda mentor cyflogaeth, y dysgwr yn symud i gwrs rhagarweiniol heb ei achredu ac yna i ddarpariaeth achrededig yn un o 'academïau galwedigaethol' y bartneriaeth, sy'n canolbwyntio'n glir ar y blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer gwaith."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, fod yr adroddiad yn dangos pa mor galed yr oedd staff y Bartneriaeth wedi gweithio a dangos ei bod yn darparu gwasanaeth gwych i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y rhanbarth.

"Ar lawer o'r cyrsiau, mae pobl yn caffael sgiliau newydd sydd nid yn unig yn eu helpu i gael gwaith neu symud ymlaen i astudio ymhellach ond sydd hefyd yn datblygu eu sgiliau personol i gefnogi eu plant neu aelodau eraill o'r teulu."

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cyng Rhiannon Birch:  "Rydym wrth ein bodd gyda chynnwys yr adroddiad arolygu hwn, sy'n deyrnged i ymdrechion staff ac yn enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth.

"Dylai pawb sy'n cymryd rhan fod yn falch iawn o gynnwys yr adroddiad, sy'n dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y mae'r gwasanaeth hwn yn ei wneud i fywydau pobl. Mae'n tynnu sylw at weledigaeth a chyfeiriad clir y bartneriaeth, gan ganmol hefyd y gwaith a wneir i helpu dysgwyr o gymunedau amrywiol.

"Hoffwn ymuno â'r rhestr hir o bobl i fynegi eu gwerthfawrogiad diffuant am bopeth y mae'r bartneriaeth yn ei wneud yn ein cymunedau."

I weld yr adroddiad llawn, dilynwch y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Partneriaeth DysguOedolion yn y Gymuned Caerdydd ar Fro 2023 (llyw.cymru) Am fwy o wybodaeth am addysg oedolion yng Nghaerdydd a'r Fro, ffoniwch 029 20871071, e-bostiwch Dysguioedolioncaerdydd@caerdydd.gov.uk neu dilynwch y ddolen hon Dysgu Oedolion Caerdydd - Adult Learning Cardiff