Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Awst 2023

Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

  • Cymorth i Glwb Ifor Bach - mae prydles tir Cyngor Caerdydd yn ceisio helpu cynlluniau i ehangu'r lleoliad eiconig.
  • Cyfleoedd i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol - ein cynllun sy'n darparu hyfforddiant a chymorth cyflogaeth.
  • Arddangosfa blodau gwenynen brysur - wedi'i chynllunio gan un o'n prentisiaid garddwriaethol ail flwyddyn i ddathlu peillwyr.

 

Ailddatblygiad Clwb Ifor Bach gam yn nes yn sgil cefnogaeth y Cyngor

Mae'r gwaith arfaethedig o ailddatblygu Clwb Ifor Bach gam yn nes ar ôl i Gyngor Caerdydd   ymgymryd â lesddaliad hirdymor ar 9 Stryd Womanby, yr eiddo gerllaw'r lleoliad hirsefydlog.

Mae'r cytundeb, sydd â'r nod o helpu i sicrhau dyfodol tymor hir y lleoliad cerddoriaeth annibynnol eiconig, yn rhoi'r amser a'r sicrwydd i Glwb Ifor godi'r arian sydd ei angen i ehangu ac uwchraddio ei safle presennol. Mae hefyd wedi galluogi'r lleoliad i symud ymlaen gyda chais cynllunio ar gyfer yr ailddatblygu.

Os caiff y cais cynllunio ei gymeradwyo, a bod cyllid yn cael ei sicrhau, bydd y Clwb wedyn yn ymgymryd â phrydles gefn-wrth-gefn am 125 mlynedd i ddefnyddio'r eiddo yn 9 Stryd Womanby fel lleoliad cerddoriaeth fyw a chanolfan ddiwylliannol, a bydd y safle'n cael ei drawsnewid yn lleoliad aml-ystafell cyfoes, cwbl hygyrch.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, "Mae Clwb Ifor Bach wedi bod yn rhan o wead sîn gerddoriaeth llawr gwlad Caerdydd ers 1983, gan roi llwyfan hanfodol i lawer o gerddorion a bandiau Cymreig ar ddechrau eu gyrfaoedd, denu ymwelwyr i'r ddinas, a chyfrannu'n sylweddol at arlwy creadigol a diwylliannol Caerdydd.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni ein Strategaeth Gerddorol a sicrhau bod cerddoriaeth a diwylliant yn parhau i ffynnu yng Nghaerdydd.  Bydd ymrwymo i'r cytundeb hwn yn helpu i sicrhau lle Clwb Ifor wrth galon y sîn gerddoriaeth fyw am o leiaf 125 mlynedd arall, ac yn nodi dechrau'r hyn sy'n argoeli i fod yn gyfnod cyffrous i gerddoriaeth yng Nghaerdydd."

Dywedodd Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach:  "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd ers nifer o flynyddoedd i sicrhau dyfodol Clwb Ifor Bach, a nawr, gyda'r opsiwn i ymgymryd â'r brydles hirdymor yn ei lle, mae ein gweledigaeth o ailddatblygu'r ddau eiddo yn ofod newydd aml-leoliad a gwirioneddol hygyrch, wedi cymryd cam enfawr ymlaen.

"Byddwn nawr yn cyflwyno'r cais cynllunio sy'n amlinellu ein cynlluniau ac yn dechrau'r gwaith i godi'r arian sydd ei angen i wireddu ein huchelgais.  Rydym hefyd yn dathlu ein 40fed pen-blwydd eleni, ac mae hyn yn teimlo fel dechrau pennod newydd i ni fel lleoliad ac yn un a fydd yn sicrhau ein hetifeddiaeth am flynyddoedd lawer i ddod. 

"Hoffem ddiolch i Huw Thomas a'i dîm am eu hymrwymiad i'r sector cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd, a'r gwaith a wnaed i'n helpu ni a lleoliadau eraill yn y ddinas i oroesi heriau'r blynyddoedd diwethaf."

 

Cyfleoedd cyflogaeth i rymuso pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae cynllun sy'n rhoi'r cymorth a'r hyfforddiant angenrheidiol i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) er mwyn iddynt allu cael cyflogaeth yn llwyddiannus wedi dechrau'n llwyddiannus.

Mae'r Llwybr Cyflogaeth â Chymorth Hyblyg yn gynllun gan Gyngor Caerdydd a ddarperir gan Addewid Caerdydd mewn partneriaeth â Thîm ADY ôl-16 yr Awdurdod Lleol a Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd, fel y partner cyflogaeth.

Mae'r cynllun yn cynnig hyfforddiant a lleoliadau profiad gwaith am 12 mis i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu awtistiaeth, a'i nod yw eu paratoi a'u cefnogi wrth iddynt bontio o'r ysgol i gyflogaeth amser llawn.

Ers ei lansio ym mis Mai, mae pedwar disgybl 16-18 oed o'r Canolfannau Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Uwchradd Cantonian a Llanisien wedi ennill profiad ymarferol mewn cegin fasnachol ac wedi cael hyfforddiant sgiliau gwaith, gan gynnwys y Cymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2.

Byddan nhw bellach yn cael mynediad i gyfle unigryw, ac yn pontio i gyflogaeth â thâl drwy'r fenter Bwyd a Hwyl, rhaglen cyfoethogi gwyliau'r ysgol arobryn Caerdydd sy'n cynnig darpariaeth iechyd a lles i blant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Yn ogystal â'r manteision a welir gan y dysgwyr dan sylw, mae'r cynllun hefyd yn galluogi'r Gwasanaeth Arlwyo Addysg i gael mynediad at weithlu nad oedd yn cael ei gydnabod o'r blaen, gan hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn eu staff.

Ar ddiwedd gwyliau'r haf, bydd y bobl ifanc yn cael cymorth i wneud cais am swyddi gwag o fewn y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion a thu hwnt.

Darllenwch fwy yma

 

Ruby yn arwain prentisiaid mewn haid o weithgaredd

Mae ymwelwyr â Chastell Caerdydd wedi bod yn edmygu'r dyluniad blodau diweddaraf sy'n cwmpasu'r tir y tu allan i dirnod poblogaidd y ddinas.

Gwaith Ruby Mason, prentis garddwriaethol yn ei hail flwyddyn gyda thîm parciau'r Cyngor yw'r Badge Bed Bee.

"Dewisais y cynllun hwn i ddathlu peillwyr ac i godi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd," meddai Ruby, 24. "Mae colli cynefinoedd a newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â defnyddio plaladdwyr, yn bygwth y boblogaeth frodorol o wenyn, ac mae angen i bob un ohonom ni chwarae ein rhan i'w diogelu nhw a'r amgylchedd.

"Mae tua 75% o'n cnydau yn cael eu peillio gan wenyn, felly y peth lleiaf y gallwn ni ei wneud yw rhoi help llaw iddyn nhw yn y gwaith maen nhw'n ei wneud.

"Yn y gaeaf, mae'r frenhines yn gadael y cwch ac wrth i'r gweithwyr aeafgysgu, mae hi'n dod o hyd i le ar wahân i gysgu. Os gwnewch chi bentwr coed, gadael sbwriel dail ar y ddaear a chreu ardal wyllt yn llawn mwsogl glaswellt a'i orchuddio bydd yn rhoi cartref diogel iddi.

"Ac os ydych chi'n arddwr, mae tyfu blodau porffor, glas, gwyn a melyn yn helpu oherwydd gall gwenyn eu gweld yn well."

Darllenwch fwy yma