Back
Sêr Criced yn tanio brwdfrydedd am fenter chwaraeon cymunedol newydd

22.08.23
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan gyfres ddiweddar y Lludw ac eisiau rhoi cynnig ar griced - neu’n syml ailddarganfod eich cariad at ein chwaraeon haf cenedlaethol - yna mae gan Gyngor Caerdydd newyddion cyffrous i chi.

Gyda chefnogaeth KP Snacks, mae'r Cyngor wedi cefnogi gosod pum cae cymunedol pob tywydd newydd ledled y ddinas, gyda mwy i ddod dros y ddwy flynedd nesaf.

Yn lansiad swyddogol y fenter, ar Gaeau Llandaf, roedd sêr o dîm Cant y Tân Cymreig wrth law i helpu pobl i fynd i'r afael â'r gêm a phrofi bod criced i bawb.

Ymunodd Alex Hartley, sy'n rhan o dîm Lloegr a enillodd Gwpan y Byd 2017 ac sydd bellach yn serennu i’r Tân Cymreig yn y Cant, â’i gyd-aelodau yn y tîm, Steve Eskinazi, Alex Griffiths a Tom Abell i arddangos y cae newydd. "Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i griced llawr gwlad ledled Caerdydd," meddai.  "Gall cael cyfleusterau o'r radd flaenaf fel hyn ysgogi mwy o bobl i roi cynnig ar griced a bod yn egnïol yn y broses."

Mae'r fenter yn rhan o ymgyrch 'Pawb i Mewn' KP Snacks sy'n ceisio hyrwyddo ffyrdd cytbwys o fyw  drwy ysbrydoli a galluogi mwy o bobl i fod yn egnïol a chymryd rhan mewn criced.  Mae'r cwmni hefyd yn bartner tîm swyddogol Y Cant.

Yn ogystal â datblygiad Caeau Llandaf, mae wedi ariannu pedwar cae arall sy’n newydd neu wedi'u hadnewyddu ledled Caerdydd a fydd yn cael eu cynnal a'u rhedeg gan Gyngor Caerdydd:

  •  Caeau’r Gored Ddu, oddi ar Ffordd y Gogledd
  • Caeau Pontcanna
  • Parc y Tan yn Grangetown, a
  • Parc y Mynydd Bychan/Ysgol Uwchradd Cathays 

Mae safleoedd wedi'u dewis i'w gwneud yn hygyrch i'r nifer fwyaf o bobl ac i ddod â chriced i bobl nad ydynt efallai wedi cael mynediad o'r blaen, neu yr oedd eu cyfleusterau wedi dirywio dros amser.  Bydd mwy yn cael eu gosod dros y ddwy flynedd nesaf mewn cydweithrediad â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Criced Cymru a Chyngor Caerdydd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn dod â chymaint o fanteision i iechyd a lles unigolion a chymunedau, a bydd y buddsoddiad yn y caeau di-laswellt newydd hyn yn ein helpu i gael hyd yn oed mwy o bobl i chwarae criced ym mharciau Caerdydd, hyd yn oed pan nad yw'r tywydd yn ffafriol."

Dywedodd Kevin McNair o KP Snacks:  "Ein nod yw helpu miloedd o deuluoedd ledled Caerdydd i ddod yn fwy actif ac rydym yn adeiladu ar hyn gyda'n menter caeau cymunedol newydd sy'n buddsoddi mewn cymunedau lleol ac yn gwella mynediad at griced ar draws y rhanbarth."

Mae'r fenter griced yn dilyn penderfyniad gan y Cyngor ym mis Mehefin i wneud buddsoddiad sylweddol ledled Caerdydd a allai weld y Gymdeithas Tennis Lawnt yn adnewyddu 29 cwrt mewn chwe pharc yn y ddinas. Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31684.html