Back
This Must Be The Place – y llyfr newydd gan y dyn a helpodd i lunio Strategaeth Gerdd Caerdydd

Yn ôl yn 2019 lansiwyd cynllun i ddatgloi potensial llawn sector cerddoriaeth Caerdydd trwy ymgorffori cerddoriaeth ym mhenderfyniadau a llunio polisi'r ddinas. Bedair blynedd a phandemig yn ddiweddarach, mae'r dyn a helpodd i lunio strategaeth gerddoriaeth Caerdydd, yr arbenigwr enwog ar gerddoriaeth a pholisi diwylliannol a sylfaenydd Sound Diplomacy, Dr Shain Shapiro wedi ysgrifennu ei lyfr cyntaf.

MaeThis Must Be The Place: How Music Can Make Your City Betterwedicael ei alw'n"llyfr chwarae i arweinwyr dinesig, cerddorion, artistiaid, actifyddion a dinasyddion i ddefnyddio cerddoriaeth i wneud eu cymdogaethau'n gryfach, yn fwy bywiog a chynhwysol," gan Richard Florida sy'n arbenigwr ar fywyd dinesig. Ac fe'i disgrifiwyd gan gyn-Gadeirydd Stax Records a Phrif Swyddog Gweithredol Motown Records, Al Bell, fel "Llyfr arloesol gan feddyliwr arloesol."

A person wearing glasses and a black shirtDescription automatically generated

Dr Shain Shapiro

Wedi'i hadrodd mewn ffordd hygyrch trwy straeon personol o ddinasoedd ledled y byd, maeThis Must Be the Placeyn archwilio sut y gall cerddoriaeth wneud dinasoedd yn well trwy gyflwyno ac archwilio perthynas cerddoriaeth â dinasoedd, a'r effaith bwerus y gall cerddoriaeth ei chael ar sut mae dinasoedd yn cael eu datblygu, eu hadeiladu, eu rheoli a'u llywodraethu. 

Cyn cyhoeddi'r llyfr, bydd Waterstones Caerdydd yn cynnal digwyddiad arbennig a gefnogir gan Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ar Fedi 11fedlle bydd Dr Shapiro yn sgwrsio gyda'r newyddiadurwr cerddoriaeth a'r aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, Gavin Allen.

Wrth siarad cyn iddo ddychwelyd i Gaerdydd, dywedodd Shain:  "Mae'n bleser lansio fy nhaith lyfrau fyd-eang yng Nghaerdydd, un o ddinasoedd cerddorol gorau'r DU. Rwy'n falch fy mod wedi gweithio gyda'r ddinas ar ei strategaeth ychydig flynyddoedd yn ôl a hyd yn oed yn fwy balch o'r gwaith y mae'r ddinas - a'i phartneriaid - wedi'i wneud ers hynny i ganoli cerddoriaeth fel maes polisi craidd mewn llywodraeth leol.  Mae'r llyfr yn dathlu'r math hwn o waith, felly mae dod ag ef i Gaerdydd yn hynod ystyrlon i mi."

Un o'r datblygiadau allweddol yng Nghaerdydd o ganlyniad i waith Dr Shapiro oedd sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, oedd â'r dasg o yrru strategaeth gerddoriaeth Caerdydd ymlaen.  

Er gwaethaf effaith Covid-19, a welodd newid ffocws gan Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd i sicrhau bod sector cerddoriaeth y ddinas yn derbyn y gefnogaeth yr oedd ei hangen arno i oroesi'r pandemig, mae gwaith y bwrdd dros y pedair blynedd diwethaf wedi arwain at rai newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae Caerdydd yn gweithredu fel dinas, a nifer o straeon o lwyddiant i gerddoriaeth yng Nghaerdydd.

Mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd:

  • yn cael gwybod nawr am yr holl geisiadau cynllunio perthnasol fel y gallant wneud sylwadau, os oes angen; 
  • yn ymgynghorai ffurfiol ar Gynllun Datblygu Lleol newydd Caerdydd, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd;
  • wedi cael mewnbwn i strategaeth fysgio newydd Caerdydd;
  • wedi cynnal cyfres o nosweithiau o gerddoriaeth fyw i gefnogi lleoliadau lleol ar lawr gwlad yn sgil y pandemig;
  • wedi helpu i sicrhau'rŴyl Cerdd Danti Gaerdydd am y tro cyntaf.
  • wedi gweithio gyda'r lleoliad cerddoriaeth leol, Porter's i sicrhau prydles 20 mlynedd mewn lleoliad newydd.
  • wedi cynnal trafodaethau gyda Live Nation am yr arena newydd, gyda'r bwriad o adnabod cyfleoedd a chysylltu'r arena â'r sector cerddoriaeth ar lawr gwlad.
  • wedi sicrhau cyllid ar gyfer rôl Swyddog Cerdd llawn amser i gefnogi ei waith.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Cerddoriaeth ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae'r gwaith wnaeth Shain yng Nghaerdydd wedi newid meddylfryd y ddinas ar gerddoriaeth ac ry'n ni'n falch iawn o'i groesawu yn ôl." 

"Mae'n deg dweud, yn dilyn cyfarfod cyntaf Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn 2020, ddau fis yn unig cyn i'r pandemig daro, nad ydym wedi gwneud cymaint o gynnydd ag y byddem wedi hoffi ei wneud tuag at weithredu'r syniadau a archwiliwyd yn llyfr Shain, ac yn ein Strategaeth Gerdd, ond rydym yn dal i fod yn benderfynol mai Caerdydd yw'r lle, ac wedi ymrwymo i'r syniad y gall cerddoriaeth wella ein dinas.

"Pan ddechreuon ni ar y ffordd newydd hon o edrych ar gerddoriaeth, roedden ni eisiau i Gaerdydd ddod yn arweinydd byd-eang yn y Mudiad Dinasoedd Cerdd. Dydyn ni ddim yna eto, ond nawr, gyda'r pandemig y tu ôl i ni, mae'r gwaith go iawn newydd ddechrau."

Mae tocynnau ar gyfer lansiad y llyfr, yn Waterstones Caerdydd ar Fedi 11 ar gael yma:  https://www.waterstones.com/events/book-launch-this-must-be-the-place-how-music-can-make-your-city-better/cardiff