Back
Neuadd y Ddinas i gau yn y gaeaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw

23.08.23
Bydd Neuadd y Ddinas eiconig Caerdydd yn cau dros dro y gaeaf hwn er mwyn galluogi gwaith seilwaith hanfodol ar yr adeilad rhestredig Gradd I a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Wedi'i adeiladu o garreg Portland a'i agor yn 1906, yr adeilad hwn oedd pencadlys cyntaf y cyngor i gael ei adnabod fel Neuadd y Ddinas – yn dilyn dyrchafiad Caerdydd i statws dinas yn 1905 – ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfa gofrestru ac ar gyfer dathliadau priodas a digwyddiadau preifat eraill. Mae disgwyl i lawer o'r isadeiledd yn yr adeilad hanesyddol gael ei uwchraddio, ac fel rhan o’r gwaith dros y gaeaf bydd system wresogi ac awyru newydd yn cael ei gosod.

Pan fydd ar gau, a disgwylir iddo fod ar gau tan Gwanwyn 2024, bydd priodasau'r Swyddfa Gofrestru yn cael eu cynnal yng Nghwrt Insole, sydd yr un mor hanesyddol, tra bydd holl ddigwyddiadau eraill y swyddfa gofrestru yn cael eu cynnal yn adeilad Archifau Morgannwg ger Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd trefnwyr digwyddiadau'n cael cynnig lleoliadau amgen ar gyfer eu digwyddiadau, a chynhelir cyfarfodydd misol y cyngor llawn, sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn Siambr Neuadd y Ddinas, yn Neuadd y Sir. Bydd staff yn swyddfeydd Neuadd y Ddinas hefyd yn cael eu hadleoli dros dro.

Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ym mis Mehefin, cymeradwywyd achos busnes amlinellol sy'n edrych ar ddyfodol swyddfeydd craidd yr awdurdod lleol - Neuadd y Sir, Neuadd y Ddinas a Thŷ Willcox.

Yn siarad ar y pryd, dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu:  “Fel perchennog Neuadd y Ddinas, mae gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd i fuddsoddi yng ngwead yr adeilad, yn ogystal ag adnewyddu ei fecanwaith a’i waith trydanol, fel gwresogi ac awyru, fel ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben fel lleoliad treftadaeth o arwyddocâd hanesyddol, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.