Back
Canlyniadau Arholiadau TGAU yng Nghaerdydd yn uwch na chyfartaledd Cymru

24/8/2023

Yn seiliedig ar y canlyniadau dros dro a gyhoeddwyd heddiw, mae 29.3% o ganlyniadau TGAU ar gyfer 2023 wedi'u graddio A* i A yn arholiadau CBAC, o'i gymharu â ffigur Cymru o 21.7%.

70.9% yw canran y cofrestriadau TGAU sy'n arwain at raddau C, sy'n uwch na ffigwr Cymru o 64.9%.

Ar gyfer ceisiadau sydd wedi ennill graddau A* i G, ffigur 2023 ar gyfer Caerdydd yw 97%, o'i gymharu â ffigur Cymru o 96.9%. Gwelodd Caerdydd dros 33,000 yn cynnig ar gyfer TGAU CBAC eleni.

Y darlun cenedlaethol ar draws Cymru yw bod y canlyniadau yn disgyn yn fras hanner ffordd rhwng y rhai a ddyfarnwyd yn 2019 a 2022.  Mae hyn yn golygu, ar gyfer pob pwnc, bod canlyniadau ar lefel genedlaethol yn uwch nag yr oeddent yn 2019, ac yn is nag yr oeddent yn 2022 lle rhoddwyd mesurau ychwanegol ar waith. Ni ellir cymharu canlyniadau â blynyddoedd blaenorol.

Eleni yw'r ail flwyddyn i ddysgwyr gwblhau arholiadau ac asesiadau ffurfiol ers 2019, gan symud tuag at ddychwelyd i drefniadau arholiadau cyn y pandemig. Mae CBAC wedi ystyried y tarfu y mae dysgwyr wedi'i brofi wrth benderfynu ffiniau graddau ac mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau dull cenedlaethol o ymdrin â chanlyniadau yn hytrach na phenodol i ysgol.

Dwedodd Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd:  "Hoffwn longyfarch holl ddisgyblion Caerdydd sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw.

"Wrth i Gaerdydd a gweddill Cymru bontio'n raddol yn ôl i raddio cyn y pandemig, dyma'r ail flwyddyn yn unig y mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol wedi dychwelyd ers y pandemig, mae'n bwysig cydnabod y garfan hon am y ffordd y gwnaethant barhau i addasu, gan ddangos gwytnwch a phenderfyniad er gwaetha'r heriau a'r tarfu y gallent fod wedi'u hwynebu yn ystod blynyddoedd diwethaf eu haddysg yn yr ysgol.

"Mae'n wych gweld bod graddau cyffredinol Caerdydd yn uwch na chyfartaledd Cymru a chlywed cymaint o straeon am lwyddiant o bob rhan o'r ddinas.  Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn garreg filltir wirioneddol i'n pobl ifanc ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol."

Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau'r arholiadau yr wythnos hon.

Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i'r dyfodol.

Mae'r llwyfan wedi'i lansio a'i ddatblygu gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor i ddwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg, i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael mewn addysg, hyfforddiant abydgwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg, y brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd. Am fwy o wybodaeth ewch i:www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf