Back
Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer digwyddiad 10k Caerdydd, Ddydd Sul 3 Medi

25.08.23
Mae disgwyl i filoedd o redwyr droedio ar hyd strydoedd y brifddinas Ddydd Sul, 3 Medi, gydag atgyfodi ras 10k poblogaidd Caerdydd.

Mae'r ras, sydd wedi'i hychwanegu at bortffolio Run 4 Wales o ddigwyddiadau cyfranogiad torfol o'r radd flaenaf, yn denu’r athletwyr gorau, yn ogystal â rhedwyr parciau a rhai sy’n loncian elusen, gan fydn â’r rhedwyr ar lwybr heibio rhai o olygfeydd mwyaf poblogaidd Caerdydd.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, Afon Taf, Gerddi Sophia, y Ganolfan Ddinesig fawreddog a pharcdir gwych Caeau Llandaf a Phontcanna.

Er mwyn helpu'r ras i redeg yn esmwyth, mae rhaglen o gau ffyrdd treigl i'w gweithredu ar hyd y llwybr o 9am tan ddim hwyrach na 1pm:

  •  Heol y Gogledd o’r gyffordd â Heol Colum i’r gyffordd â Boulevard de Nantes  Bydd mynediad i’r Gored Ddu drwy Plas-y-Parc/Heol Corbett a mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol Colum/Heol Corbett a gellir dod allan drwy Heol Corbett ar i Heol Colum
  • Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
  • Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin
  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â'r A1461 i’r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a Stryd y Castell ar eu hyd
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan
  • Boulevard De Nantes o’r gyffordd â Phlas-y-Parc/Stuttgarter Strasse i’r gyffordd â Heol y Gogledd
  • Y Brodordy a Gerddi’r Brodordy, Heol y Porth, Stryd Wood, Y Gwter, Plas y Neuadd, Stryd y Cei, Sgwâr Canolog, Heol Scott, Stryd Havelock, Stryd y Parc
  • Heol Eglwys Fair o’r gyffordd â Lôn y Felin drwodd i Blas y Neuadd
  • Y Stryd Fawr o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Phlas y Neuadd
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road
  • Arglawdd Fitzhamon, Stryd Despenser, Despenser Lane, Despenser Place, Plantagenet Street, Beauchamp Street, Stryd Clare, Heol Isaf y Gadeirlan, Brook Street, Mark Street, Green Street, Teras Coldsteam
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Stryd Neville/Stryd Wellington
  • Stryd Neville o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Isaf y Gadeirlan
  • Stryd Wellington o’r gyffordd â heol Lecwydd (tuag at ganol y ddinas)
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Brenin
  • Heol y Gadeirlan o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Penhill
  • Pob ffordd ochr sy’n dod allan ar Heol y Gadeirlan
  • Hamilton Street, Talbot Street, Clos Sophia, Sophia Walk, Ffordd Feingefn yng Ngerddi Sophia, Plasturton Place, Dyfrig Street, Kyveilog Street, Sneyd Street, Dogo Street, Berthwin Street, Teilo Street, Gileston Road, Meldwin Street, Fairleigh Road, Fields Park Road, Denbeigh Street, Fairleigh Court a Heol Wilf Wooler.
  • Heol Penhill o’r gyffordd â Heol Llandaf/Caerdydd (tuag at ganol y ddinas yn unig)
  • Bydd lôn ar gau ar Rodfa’r Gorllewin o’r gyffordd â Heol Excelsior hyd at y gyffordd â Lôn y Felin.

SYLWER: Bydd y troi i’r dde gwaharddedig o Heol Colum i Heol Corbett yn cael ei ddirymu i hwyluso mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn unig. Bydd hyn yn cael ei reoli gan stiwardiaid rheoli traffig.

Tarfu ar drenau

Mae streic drenau wedi'i chynllunio ar gyfer Dydd Sadwrn 2 Medi ac mae cwmnïau rheilffyrdd yn argymell gwirio'ch taith cyn i chi ddechrau gan y gallai rhai newidiadau fod a rhai gwasanaethau wedi eu canslo Ddydd Sul.

Sylwch y bydd cynllunwyr teithiau ar-lein yn cael eu diweddaru tua saith diwrnod cyn teithio. Ewch i wefannau'r cwmnïau trên priodol i gael y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys www.gwr.com/strike

Nid oes unrhyw wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) gydol y dydd rhwng Treherbert a Phontypridd oherwydd gwaith peirianyddol ar gyfer Metro De Cymru. Bydd gweddill amserlen TrC yn gweithredu fel arfer ond disgwylir i drenau rhwng Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe fod yn brysurach nag arfer yn sgil y gweithredu diwydiannol sy’n digwydd gyda gweithredwyr eraill.

Mae TrC yn cynghori i bobl deithio ar y rheilffyrdd dim ond os yw eu taith yn hanfodol ar brif linell de Cymru rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd a rhwng Caerdydd a Lydney. Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch yr amseroedd yn llawn ar wefan TrC a chynllunwyr teithiau ar-lein eraill cyn i chi deithio. Lle bydd gwasanaethau yn rhedeg, mae’n bosib y byddant yn destun newidiadau funud olaf.

Bws

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau. Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:   Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/ 

Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.   

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd seiclo neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.   Mae hwn yn bellter y gellir ei seiclo’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arno.Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud seiclo yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Ni fydd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i siop House of Fraser).