Back
Her bwyd cynaliadwy ar agor ar gyfer ceisiadau

29.8.23

Mae her bwyd cynaliadwy, sy'n chwilio am atebion arloesol a allai gynyddu cynhyrchiant bwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi agor ar gyfer ceisiadau.

 

A close-up of a white backgroundDescription automatically generated

 

Nod yr Her, sy'n bartneriaeth rhwng Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth MYBB (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yw dod o hyd i fusnesau a sefydliadau eraill sydd â syniadau sy'n canolbwyntio ar un o'r meysydd canlynol:

Her 1- Dulliau o annog a gwella gwybodaeth mewn ysgolion am y manteision iechyd o gael bwyd o gadwyni cyflenwi bwyd lleol.

Her 2- Offer masnachu integredig deinamig sy'n optimeiddio'r broses o gyflenwi a dosbarthu cyflenwadau bwyd lleol.

Her 3 -Sicrhau'r cynhyrchiant ynni adnewyddadwy mwyaf posibl a defnydd lleol o asedau fferm (a thyfu) tra'n cynnal cynnyrch amaethyddol.

Her 4 -Arferion ffermio arloesol i leihau allyriadau carbon a chynyddu'r cnwd.

Cynhelir yr her, sy'n agor ar gyfer ceisiadau heddiw (Awst 29 2023), mewn dau gam. Bydd cam un yn gam 'arddangos' lle bydd hyd at £800,000 fesul prosiect ar gael i sefydliadau llwyddiannus i'w galluogi i ddangos bod eu syniad yn gweithio ac yn ymarferol. Anogir ymgeiswyr i ystyried prosiectau ar amrywiaeth o opsiynau cyflenwi a chyllidebau hyd at y ffigur uchaf hwn.

Bydd cam dau yn gam 'uwchraddio', lle gall y syniadau cryfaf gael hyd at £1 miliwn fesul prosiect. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i ddangos y gellir gweithredu eu datrysiadau yn llwyddiannus ar raddfa sylweddol.

Gall sefydliadau sydd â diddordeb nawr gofrestru ar gyfer digwyddiad briffio ar-lein, yma:https://www.eventbrite.com/e/the-sustainable-production-and-supply-of-food-challenge-tickets-695930997347 

A dysgwch fwy am sut mae'r her yn gweithio, a'r hyn sydd ei angen, yma: https://sdi.click/sbrifoodchallenge 

Dywedodd Gareth Browning, Pennaeth Heriau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, "Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda'n Hawdurdodau Lleol partner, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth MYBB ar y genhadaeth gyffrous hon tuag at ddiwydiant bwyd cynaliadwy ffyniannus yng Nghymru. Mae'r Her yn cynnig cyfle gwych i fusnesau lleol ennill contractau graddio arloesedd proffidiol."

Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb:  "Mae mynediad at fwyd lleol, iach a fforddiadwy yn hanfodol i fynd i'r afael â salwch sy'n gysylltiedig â deiet, yr argyfwng costau byw, newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

"Mae'r her newydd hon yn gyfle gwych i sefydliadau lleol, gyda'r syniadau a'r gallu i wneud pethau'n wahanol, helpu'r rhanbarth i fynd i'r afael â rhai o'r heriau allweddol sy'n wynebu ein cymunedau heddiw."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Economi Gynaliadwy Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Paul Griffiths: "Mae'r prosiect hwn yn gyfle cyffrous iawn i ffermwyr arloesol a sefydliadau eraill yn y sector bwyd gyflwyno prosiectau a fydd yn sicrhau cyflenwad o fwyd cynaliadwy a dyfir yn lleol am genedlaethau i ddod.

"Wrth i'r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar deuluoedd, mae diogelwch bwyd yn dod yn fwyfwy pwysig.  Felly, mae angen i ni fanteisio ar bob cyfle i hwyluso'r broses o bontio i system fwyd a all ddarparu bwyd fforddiadwy ac iach ar yr un pryd â lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol".

Bydd ceisiadau i'r her yn cau am 10am ar 9 Hydref2023.