Back
Newidiadau posib i gasgliadau gwastraff cartref Caerdydd oherwydd Gweithredu Diwydiannol

31/08/23

4 Medi i 18 Medi 

Mae gweithredu diwydiannol, dros ddyfarniadau cyflog sy'n cael eu trafod yn genedlaethol, yn cael eu cynllunio ledled y DU ym mis Medi gan Undeb Unite. 

Mae Cyngor Caerdydd yn disgwyl i hyn effeithio ar rai o'i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu rhwng dydd Llun 4 Medi a dydd Gwener 15 Medi, ond rydym am i chi wybod ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau unrhyw effaith arnoch chi. 

Er mwyn sicrhau y gall y cyngor barhau i gasglu'r rhan fwyaf o'ch biniau du a'ch bagiau du, gwastraff bwyd, ac ailgylchu, mae trefniadau casglu newydd yn cael eu paratoi rhag ofn y bydd eu hangen yn ystod y streic. 

Mae hefyd yn bosibl y bydd yn rhaid cyhoeddi newidiadau eraill yn ystod y gweithredu diwydiannol oherwydd aflonyddwch annisgwyl pellach. 

Oherwydd hyn, ac oherwydd y gallai'r sefyllfa newid yn ddyddiol, gofynnwn i chi anwybyddu unrhyw hysbysiadau casglu yr ydych wedi cofrestru â nhw rhwng dydd Llun, 4 Medi, hyd at a gan gynnwys dydd Gwener, 15 Medi. 

Yn lle hynny, ar ddiwrnod eich casgliad, gwiriwch y calendr casglu naill ai ar ein gwefan yma  Gwiriwch fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk),  neu drwy Ap Caerdydd Gov, neu drwy ddefnyddio Bobi, ein SgyrsBot. Byddwn hefyd yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol.  Rhannwch y newyddion gyda'ch teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n byw ar eich stryd.

Efallai y bydd yn rhaid gwneud y newidiadau canlynol i gasgliadau. 

 

Casgliadau Gwastraff Biniau Du neu Fagiau Du Cyffredinol - Heb eu Newid

Mae disgwyl i gasgliadau ar gyfer gwastraff cyffredinol barhau fel arfer.  Rhowch eich bin du neu fagiau du allan i'w casglu ar eich diwrnod casglu bob pythefnos arferol.

 

Casgliadau Gwastraff Bwyd - Heb eu Newid

Mae disgwyl i gasgliadau gwastraff bwyd barhau fel arfer.  Rhowch eich cadi wrth ymyl y ffordd allan i'w gasglu ar eich diwrnod casglu wythnosol arferol.

 

Casgliadau Gwastraff yr Ardd - Newid posib i'r casgliadau

Mae'n bosibl y bydd yn rhaid canslocasgliadau gwastraff gardd rhwng dydd Llun 4 Medi a dydd Gwener 15 Medi er mwyn sicrhau nad yw'r gwasanaethau uchod yn cael eu heffeithio.

Gwiriwch yma  Gwiriwch fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk)  am ddiweddariadau dyddiol ar unrhyw newidiadau. Os caiff eich casgliad gwastraff gardd ei atal bydd yn cael ei gasglu ar eich dyddiad casglu nesaf (pythefnos yn ddiweddarach) 

 

Casgliadau Gwastraff Hylendid - Newid posib i'r casgliadau

Efallai y bydd yn rhaid atal casglu gwastraff hylendid rhwng dydd Llun 4 Medi a dydd Gwener 15 Medi. Os caiff ei atal dros dro yn ystod y streic gellir rhoi unrhyw wastraff hylendid, na ellir ei storio, ochr yn ochr â'ch bin du neu fagiau du ar eich diwrnod casglu a drefnwyd bob pythefnos.

Gwiriwch yma  Gwiriwch fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk)  am ddiweddariadau dyddiol ar unrhyw newidiadau.

 

Casgliadau Ailgylchu Bagiau Gwyrdd bob pythefnos - Newid posibl i'r casgliadau

Efallai y bydd angen canslo casgliadau ailgylchu bagiau gwyrdd wythnosol ar gyfer rhai ardaloedd.  Os bydd hyn yn digwydd, cadwch eich deunyddiau ailgylchu a'u rhoi allan yr wythnos ganlynol ar y diwrnod arferol ar gyfer casgliadau bagiau gwyrdd. 

Gwiriwch yma  Gwiriwch fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk)  am ddiweddariadau dyddiol ar unrhyw newidiadau.

 

Casgliadau Ailgylchu Sach a Chadi Gwydr - Heb eu Newid

Os ydych yn byw yn un o'r ardaloedd gan ddefnyddio sachau a chadis gwydr, mae disgwyl i'ch casgliadau ailgylchu aros heb eu newid. Parhewch i roi eich ailgylchu allan yn ôl yr arfer.

 

Casgliadau biniau ailgylchu fflatiau - Heb eu Newid

Mae disgwyl i gasgliadau ailgylchu o flociau o fflatiau barhau fel arfer.  Bydd eich bin ailgylchu cymunedol yn cael ei gasglu o'ch man casglu.

 

Casgliad Gwastraff Swmpus Newydd - Archebion wedi'u hatal

Nid yw'r Cyngor yn gallu cymryd archebion newydd i gasglu gwastraff swmpus yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.  Bydd unrhyw archebion a wnaed eisoes, a oedd i'w casglu rhwng 4 Medi a 15 Medi, yn cael eu casglu.

 

Gwasanaethau Canolfan Ailgylchu Clos Bessemer a Ffordd Lamby - Heb eu Newid

Does dim disgwyl unrhyw newidiadau i'r gwasanaethau yng Nghanolfan Ailgylchu Clos Bessemer a Ffordd Lamby yn ystod y gweithredu diwydiannol. Bydd y system archebu yn gweithredu fel arfer.


Hoffai'r Cyngor achub ar y cyfle hwn i ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a diolch i drigolion am eu hamynedd.  Byddwn yn gwneud ein gorau glas i leihau effaith y streic, a bydd y camau hyn - os oes angen - yn ein helpu i gynnal y gwasanaeth casglu gwastraff craidd yn ystod y streic.


Cofiwch i wirio ein gwefan  Gwiriwch fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk)  i gael diweddariadau dyddiol ar unrhyw newidiadau neu drwy Ap Gov Caerdydd, neu drwy ddefnyddio Bobi, ein SgyrsBot. Byddwn hefyd yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol.  Rhannwch y newyddion gyda'ch teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n byw ar eich stryd.