Back
Yr ysgol gynradd iaith ddeuol gyntaf yng Nghaerdydd yn agor i ddisgyblion

7/9/2023 

Mae un o ysgolion cynradd mwyaf newydd Caerdydd wedi agor ei drysau am y tro cyntaf yr wythnos hon, wrth i staff a disgyblion gyrraedd ar gyfer dechrau'r tymor yn yrYsgol Gynradd Groes-wen newydd sbon ym Mhlasdŵr.

Yr ysgol gynradd gwerth £9 miliwn yw'r gyntaf o'i bath i Gaerdydd ac i Gymru, gan gynnig ffrwd iaith ddeuol a ffrwd Gymraeg.  Bydd y ffrwd iaith ddeuol yn cynnwys 50% o Gymraeg a 50% o Saesneg, a elwir yn raniad 50/50.  Yn ogystal, mae darpariaeth feithrin ran-amser â 96 lle sy'n cael ei chefnogi gan Gylch Meithrin i gynnig darpariaeth gofleidiol. Bydd y Cylch hefyd yn gweithredu clwb ar ôl ysgol i ddisgyblion.

Wedi'i lleoli yn natblygiad Plasdŵr Caerdydd yng ngogledd orllewin y ddinas, ar dir i'r de o Heol Llantrisant, mae Ysgol Gynradd Groes-wen, a adeiladwyd gan Andrew Scott Ltd, yn un o ddwy ysgol newydd i agor yr wythnos hon, fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, mewn partneriaeth â Redrow.

Yr ysgol newydd sbon arall sydd bellach wedi agor ei drysau i ddisgyblion, yw Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg gwerth £6 miliwn, sydd wedi'i lleoli yn natblygiad St Edeyrns.,sydd wedi adleoli o'i hen safle yn Llanrhymni. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma: Cartref Newydd i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg - Ar agor i ddisgyblion (newyddioncaerdydd.co.uk)

Mae Ysgol Gynradd Groes-wen yn ddau ddosbarth mynediad ac yn cynnig cyfanswm o 420 o leoedd a fydd yn gwasanaethu ardaloedd yng ngogledd-orllewin Caerdydd ac sy'n cynnwys pensaernïaeth gyfoes ac ystod o amwynderau hygyrch i'r cyhoedd, gan gynnig cyfleoedd i ddod â phreswylwyr a theuluoedd newydd ynghyd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hon yn garreg filltir gyffrous i'r ardal leol a Chaerdydd gyfan.  Mae Ysgol Gynradd Groes-wen yn amrywiad arloesol ar yr ysgol gynradd draddodiadol, a fydd yn cyflwyno cyfleoedd newydd a chyffrous drwy gyflwyno'r model iaith ddeuol sy'n ceisio cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg mewn modd strategol.

"Gan gefnogi dyhead Caerdydd i dyfu'r Gymraeg fel y nodir yn ein strategaeth ddwyieithog, bydd yr ysgol newydd yn helpu i ddatblygu dwyieithrwydd, mewn amgylchedd dysgu modern newydd, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael yr addysg orau bosibl."

"Mae Plasdŵr eisoes yn boblogaidd iawn, gan greu cynnydd sylweddol yn y galw am leoedd ysgol yn yr ardal. Bydd gan yr ysgol newydd ffocws cymunedol sy'n rhoi cyfleoedd i bobl leol ddefnyddio'r cyfleusterau yn ogystal â sicrhau bod lleoedd ysgol ar gael."

Richard Carbis, Pennaeth:  "Mae agor ysgol newydd wastad yn fraint ond mae agor un mewn ardal newydd o Gaerdydd gyda chyfle i ddod yn ganolbwynt i'r gymuned yn unigryw.   Wrth wraidd ein gwaith bydd yr iaith Gymraeg wrth i ni ddatblygu siaradwyr Cymraeg i rannu eu sgiliau ar draws Plasdŵr. Bydd y ffrwd Gymraeg yn rhoi cyfle trochol llawn i ddatblygu sgiliau iaith y disgyblion. Mae ein model iaith ddeuol wedi'i greu trwy ymchwil ac edrychwn ymlaen at fod yr ysgol gyntaf i gael y cyfle i gynnig dewis newydd i rieni. Nodwedd newydd arall, yw'r cyfle i unrhyw blentyn drosglwyddo i'r ffrwd Gymraeg os mai dyna ddymuniad y rhieni a'r disgybl.

"Yn y pen draw, rydym am roi ein gweledigaeth ar waith, drwy ddarparu cymuned gynnes a chroesawgar sy'n datblygu ieithyddion mentrus mewn amgylchedd cynhwysol a chynaliadwy.

"Mae'r staff i gyd yn gyffrous i agor y drysau am y tro cyntaf i ddisgyblion ac i ddweud gyda gwên a chynhesrwydd yn ein calonnau, CROESO I YSGOL GYNRADD GROES-WEN!" 

Mae Plasdŵr yn ddatblygiad o hyd at 7,000 o gartrefi a gaiff eu codi ar y safle sy'n ffinio â Radur, y Tyllgoed, Pentre-baen a Sain Ffagan ynghyd â siopau, caffis, bwytai a swyddfeydd.  Mae'r uwchgynllun ar gyfer Plasdŵr yn cynnwys tair ysgol gynradd newydd arall ac un ysgol uwchradd, i'w cyflwyno wrth i'r datblygiad ymffurfio dros y blynyddoedd nesaf.

Wayne Rees yw Cyfarwyddwr Prosiect Plasdŵr:   Meddai: "Mae'n wych gweld yr ysgol gynradd gyntaf ym Mhlasdŵr yn agor ei drysau am y tro cyntaf.  Mae hon yn foment hynod arwyddocaol yn natblygiad Plasdŵr, a hoffem estyn croeso cynnes i'r holl ddisgyblion, rhieni ac athrawon newydd sy'n dechrau yma heddiw. 

"Ein gweledigaeth ar gyfer Plasdŵr yw creu cymuned fywiog a chynaliadwy lle gall pobl fyw, dysgu, gweithio a chwarae.  Mae dysgu yn biler canolog ym Mhlasdŵr, ac Ysgol Gynradd Groes-wen yw'r gyntaf o sawl ysgol newydd sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y datblygiad, gan gynnig addysg o ansawdd uchel i breswylwyr a'r rhai sy'n byw mewn cymunedau cyfagos o fewn pellter teithio hawdd i'w cartrefi.  Hwn hefyd yw'r gofod cymunedol cyntaf i gael ei gwblhau ym Mhlasdŵr, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn dod yn ganolbwynt canolog wrth galon y gymuned newydd hon."


Mae'r ysgol wedi cael ei hadeiladu gan brif ddatblygwr Plasdŵr, Redrow, o dan gytundeb Adran 106, ac mae'n ychwanegol at yr ysgolion newydd a'r rhai sy'n cael eu hehangu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru dan ei raglen Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu sydd werth £284m.