Back
Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd yn cymryd cam arall ymlaen

12/09/23


Bydd Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd yn cymryd cam arall ymlaen ddydd Mercher, 13 Medi, pan fydd y Cyngor yn cyflwyno'r cyfle ailddatblygu i'r farchnad. Mae'r cyfle adfywio yn cwmpasu tua 30 erw ac mae'n cynnwys yr Arena Dan Do arfaethedig a safle presennol Neuadd y Sir a Chanolfan Red Dragon.   

Er mwyn cyflymu'r gwaith o ailddatblygu'r safle, mae'r Cyngor wedi penderfynu rhannu'r ardal yn ddwy ran.  

Bydd tua 7 erw o dir i'r gogledd o Hemmingway Road, sy'n cynnwys safle presennol Neuadd y Sir, yn destun proses gaffael, gan fod y Cyngor yn dymuno dynodi defnydd penodol i rai elfennau o'r ailddatblygiad gan gynnwys darparu swyddfeydd a stiwdio gynhyrchu i'r diwydiannau creadigol. Bydd y broses gaffael yn dechrau gyda Holiadur Cyn-Gymhwyso fydd yn rhoi pedair wythnos i ddatblygwyr ddatgan eu diddordeb. Yna bydd hyd at 3 chynigiwr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ac yn destun proses dendro fanwl, y mae'r Cyngor yn gobeithio ei chwblhau erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf. Disgwylir i'r Cyngor ddiffinio ei ofynion ar gyfer y swyddfeydd craidd erbyn diwedd y flwyddyn cyn cwblhau'r achos busnes erbyn y gwanwyn, cyn i'r cynnig ailddatblygu terfynol gael ei ddewis.

Bydd yr 11.3 erw o dir sy'n weddill i'r de o Heol Hemingway, sy'n cynnwys Canolfan Red Dragon a thir cyfagos, yn cael eu marchnata fel trafodiad tir, gan nad yw'r Cyngor yn dymuno nodi unrhyw ofynion penodol. Bydd y broses farchnata yn para wyth wythnos a bydd yn ceisio sicrhau datblygwr i ymrwymo i 'Gytundeb Opsiwn' i gyflwyno datblygiad defnydd cymysg fesul cam gan gynnwys adleoli tenantiaid Canolfan Red Dragon i ofod pwrpasol newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ym mis Gorffennaf, mae'r Cyngor bellach yn barod i ymgysylltu â'r sector preifat i gyflwyno cynigion a fydd yn trawsnewid y rhan hanesyddol hon o Gaerdydd yn gyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth.

"Bydd marchnata'r safle yn darparu'r cyfleusterau ategol ar gyfer yr Arena Dan Do, yn ogystal â swyddfeydd modern a stiwdio gynhyrchu, a fydd yn creu swyddi a buddsoddiad pellach yn y rhan hon o Fae Caerdydd. Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd heriol, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i drawsnewid y rhan hon o Fae Caerdydd a fydd o fudd i bobl leol drwy greu swyddi a chyfleoedd mawr eu hangen i bobl leol."