Back
Gweithredu Diwydiannol cenedlaethol wedi’i ymestyn: 25 Medi i 16 Hydref

 12/09/23


Mae gweithredu diwydiannol Undeb Unite dros ddyfarniadau cyflog a drafodir yn genedlaethol bellach wedi'i ymestyn tan 16 Hydref.

Dechreuodd Unite streic ledled y DU ar 4 Medi ac roedd i fod i ddod i ben ar 18 Medi. Nawr mae'r undeb wedi cynghori y bydd yn ymestyn ei streic tan 16 Hydref - er gyda seibiant o wythnos rhwng Medi 18 a Medi 25.

Oherwydd y streic estynedig, efallai y bydd gwasanaethau eraill y cyngor yn cael eu heffeithio gan weithredu diwydiannol. Byddwn yn rhoi gwybod i breswylwyr pa wasanaethau sy'n cael eu heffeithio cyn gynted ag y gallwn ni os bydd hyn yn digwydd.  Gwiriwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol bob dydd am ddiweddariadau.

Fel y gwyddoch, mae'r streic eisoes wedi effeithio ar rai ffrydiau gwastraff ac rydym yn disgwyl i'r gwasanaethau hyn barhau i gael eu heffeithio rhwng nawr ac 16 Hydref- ond rydym am i chi wybod ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau unrhyw effaith arnoch chi.

Os na chaiff unrhyw wastraff ei gasglu ar y diwrnod casglu a drefnwyd, gofynnwn i breswylwyr symud eu gwastraff yn ôl o fewn i ffiniau eu heiddo a'i roi allan ar y diwrnod casglu nesaf.

Er mwyn sicrhau y gall y cyngor barhau i gasglu'r rhan fwyaf o'ch biniau du a'ch bagiau du, gwastraff bwyd, ac ailgylchu, mae trefniadau casglu newydd yn cael eu paratoi rhag ofn y bydd eu hangen yn ystod y streic.

Mae hefyd yn bosibl y bydd yn rhaid cyhoeddi newidiadau eraill yn ystod y gweithredu diwydiannol oherwydd aflonyddwch annisgwyl pellach.

Oherwydd hyn, ac oherwydd y gallai'r sefyllfa newid yn ddyddiol, gofynnwn i chi anwybyddu unrhyw hysbysiadau casglu yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer tan fod y streic yn dod i ben.

Yn lle hynny, ar ddiwrnod eich casgliad, gwiriwch y calendr casglu naill ai ar ein gwefan ymaGwirio fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk), neu drwy'r Ap Cardiff Gov, neu drwy ddefnyddio Bobi, ein SgyrsBot. Byddwn hefyd yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol.  Rhannwch y newyddion gyda'ch teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n byw ar eich stryd.

Efallai y bydd yn rhaid gwneud y newidiadau canlynol i gasgliadau.

Casgliadau Gwastraff Biniau Du neu Fagiau Du Cyffredinol - Dim Newid

Mae disgwyl i gasgliadau ar gyfer gwastraff cyffredinol barhau fel arfer.  Rhowch eich bin du neu fagiau du allan i'w casglu ar eich diwrnod casglu bob pythefnos fel arfer.

Casgliadau Gwastraff Bwyd - Dim Newid

Mae disgwyl i gasgliadau gwastraff bwyd barhau fel arfer.  Rhowch eich cadi ymyl ffordd allan i'w gasglu ar eich diwrnod casglu wythnosol arferol.

Casgliadau Gwastraff Gardd - Wedi'u Canslo

Mae casgliadau gwastraff gardd wedi'u canslo nes i'r gweithredu diwydiannol cenedlaethol ddod i ben ar 16 Hydref. Gellir dod â gwastraff gardd naill ai i Ganolfan Ailgylchu Ffordd Lamby neu Glos Bessemer drwy wneud apwyntiadymaOs byddwch yn parhau i arddio yn ystod y cyfnod hwn, ystyriwch osod eich toriadau ac ati mewn bagiau i'w gwneud hi'n haws i chi ddod â nhw i un o'r canolfannau ailgylchu os dewiswch chi wneud hynny.

Casgliadau Gwastraff Hylendid - Newid posib i'r casgliadau

Efallai y bydd yn rhaid atal casglu gwastraff hylendid rhwng 25 Medi ac 16 Hydref. Os caiff ei atal dros dro yn ystod y streic gellir rhoi unrhyw wastraff hylendid, na ellir ei storio, ochr yn ochr â'ch bin du neu fagiau du ar eich diwrnod casglu a drefnwyd bob pythefnos.

Gwiriwch ymaGwirio fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk)am ddiweddariadau dyddiol ar unrhyw newidiadau.

 Casgliadau Ailgylchu Bagiau Gwyrdd bob pythefnos - Newid posibl i'r casgliadau

Bydd casgliadau ailgylchu bagiau gwyrdd wythnosol yn cael eu gwneud ar yr un diwrnod â'ch gwastraff cyffredinol (bag du).

Gwiriwch ymaGwirio fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk)am ddiweddariadau dyddiol ar unrhyw newidiadau.

Casgliadau Ailgylchu Sachau a Chadis Gwydr - Dim Newid

Os ydych yn byw yn un o'r ardaloedd sy'n defnyddio sachau a chadis gwydr, nid oes disgwyl i'ch casgliadau ailgylchu newid. Parhewch i roi eich ailgylchu allan yn ôl yr arfer.

Casgliadau biniau ailgylchu fflatiau - Dim Newid

Mae disgwyl i gasgliadau ailgylchu o flociau o fflatiau barhau fel arfer.  Bydd eich bin ailgylchu cymunedol yn cael ei gasglu o'ch man casglu.

Casgliad Gwastraff Swmpus Newydd - Archebion wedi'u hatal

Nid yw'r Cyngor yn gallu cymryd archebion newydd i gasglu gwastraff swmpus yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.  Bydd unrhyw archebion a wnaed eisoes, a oedd i'w casglu rhwng 4 Medi a 15 Medi, yn cael eu casglu.

Gwasanaethau Canolfannau Ailgylchu Clos Bessemer a Ffordd Lamby - Dim Newid

Does dim disgwyl unrhyw newidiadau i'r gwasanaethau yng Nghanolfannau Ailgylchu Clos Bessemer a Ffordd Lamby yn ystod y gweithredu diwydiannol. Bydd y system archebu yn gweithredu fel arfer.

Hoffai'r Cyngor achub ar y cyfle hwn i ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a diolch i drigolion am eu hamynedd.  Byddwn yn gwneud ein gorau glas i leihau effaith y streic, a bydd y camau hyn - os oes angen - yn ein helpu i gynnal y gwasanaeth casglu gwastraff craidd yn ystod y streic. 

Cofiwch, gwiriwch ymaGwirio fy nyddiadau casglu (caerdydd.gov.uk)i gael diweddariadau dyddiol ar unrhyw newidiadau neu drwy'r Ap Cardiff Gov, neu drwy ddefnyddio Bobi, ein SgyrsBot. Byddwn hefyd yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol.  Rhannwch y newyddion gyda'ch teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n byw ar eich stryd.