Back
Dadlapio’r Nadolig yng Nghaerdydd... 100 diwrnod yn gynnar

14.9.23

Efallai y bydd Siôn Corn yn ein rhoi ni ar ei restr ddrwg, ond gyda dim ond 100 diwrnod i fynd tan y diwrnod mawr, allwn ni ddim peidio â dadlapio rhai o'r anrhegion hudolus fydd ar gael dros y Nadolig yng Nghaerdydd eleni.

 

  • Llawr Sglefrio mewn Castell

Castell hanesyddol Caerdydd yw'r lleoliad perffaith i sglefrio gyda'r machlud (mor rhamantus), neu am ddiwrnod o hwyl i'r teulu na all hyd yn oed y tywydd ei ddifetha. Mae Llawr Sglefrio a Llwybr Iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn dychwelyd o 16 Tachwedd 2023 tan 2 Ionawr 2024, ynghyd â'i haid ei hun o bengwin-gynorthwywyr ar gyfer gwesteion llai. Tocynnau yn dod yn fuan.


  • Gŵyl y Gaeaf 

Allwch chi ddim cael gormod o rywbeth da adeg y Nadolig, felly cadwch hwyl yr ŵyl i fynd gydag ymweliad ag ail safle Gŵyl y Gaeaf. Bydd Lawnt Neuadd y Ddinas Caerdydd yn croesawu detholiad o reidiau a gemau ffair, bar apres-ski Sur La Piste, ynghyd â rhestr lawn o adloniant am ddim i'r teulu. Y ffordd ddelfrydol o dreulio noson Nadoligaidd. Mynediad am ddim:  16 Tachwedd 2023 i 2 Ionawr 2024

 

  • Bar Barrug

Mae'r tymereddau rhewllyd yn y Bar Barrug yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd ar Lawnt Neuadd y Ddinas yn golygu mai hwn yw'r lle mwyaf cŵl i ymlacio'r Nadolig hwn. Mae wedi ei wneud yn gyfan gwbl allan o iâ, felly gwisgwch yn gynnes i fwynhau diod gyda'ch ffrindiau!  Cadwch lygad am fanylion, sy'n dod yn fuan, ar sut i fachu tocyn oeraf y ddinas.

 

  • Llwybr goleuadau enfawr

Mae llwybr goleuadau hudolus Y Nadolig ym Mharc Bute yn dathlu ei drydedd flwyddyn gyda llu o brofiadau ymdrochol ac Instagramadwy newydd, ynghyd â llwybr newydd sydd 50% yn hirach nag o'r blaen. Mae tocynnau ar gyfer y llwybr clodwiw, sy'n rhedeg o 24 Tachwedd 2023 tan 1 Ionawr 2024, ar werth nawr.

 

  • Yr anrheg berffaith

P'un a ydych chi'n chwilio am emwaith pwrpasol, gwaith celf gwreiddiol, gwaith gwydr hardd, eitemau ceramig wedi'u taflu â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi'u gwneud â llaw, neu fwyd a diod tymhorol, Marchnad Nadolig Caerdydd yw'r lle perffaith i ddod o hyd i'r anrheg grefftus berffaith. Yn rhan annatod o Nadolig Caerdydd, bydd y cabanau traddodiadol, y gwneuthurwyr talentog, ac awyrgylch Nadoligaidd unigryw'r Farchnad yn dychwelyd i ganol y ddinas rhwng 9 Tachwedd 2023 a 23 Rhagfyr 2023.

 

  • Spiegeltent

Mae gan Spiegeltents hanes hir o deithio o le i le, yn cario cerddoriaeth ac adloniant gyda nhw ac, ar ôl ei ymddangosiad cyntaf llwyddiannus yng Nghaerdydd y llynedd, mae'r Spiegeltent Ewropeaidd 500-sedd yn dychwelyd mewn lleoliad newydd ar gyfer 2023. Wedi'i adeiladu o bren, drychau wedi'u torri, cynfas a gwydr plwm, ac wedi'i addurno â brocêd melfed, gall ymwelwyr â'r pafiliwn hudol a chlyd yng Ngerddi Sophia fwynhau sioe cabaret burlesque syfrdanol 'Castellana', 'Santa's Wish', sy'n sŵr o godi gwên, y swynol 'Welsh of the West End', noson barti anhygoel ar thema Abba, a noson gomedi unigryw o'r enw The Christmas Cracker rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 24 Rhagfyr 2023. Mae tocynnau ar werth nawr.

 

  • Cerdded trwy hanes

Roedd pobl Oes Fictoria yn deall y Nadolig i'r dim, ac mae Arcedau Fictoraidd Caerdydd yn driw i'r traddodiad. Wedi'u haddurno'n ar gyfer yr ŵyl, mae 'na hud syml i grwydro drwy'r ddrysfa o arcedau, a stopio am goffi neu damaid o fwyd yn un o'r nifer o gaffis a bwytai annibynnol y byddwch yn eu darganfod rhwng y siopau bwtîc.

 

  • Brandiau dylunwyr, llawer o ffefrynnau'r stryd fawr... a mwy

O frandiau dylunwyr i ffefrynnau'r stryd fawr, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i'r anrheg berffaith (neu efallai rywbeth i sbwylio'ch hun) yng Nghanolfan Dewi Sant. Gyda thros 160 o siopau, caffis a bwytai i'w darganfod, cyrchfan fanwerthu flaenllaw Cymru yw'r lle delfrydol am ddiwrnod allan - p'un ai a ydych yn bwriadu diddanu'r teulu gyda Treetop Golf a Cineworld, tretio'ch hun i ginio neu swper gyda ffrindiau, neu ddod o hyd i'r wisg berffaith ar gyfer parti Nadolig.

 

  • Caban clyd

Angen seibiant o brynu anrhegion i'ch ffrindiau a'ch teulu? Dewch i gwtsio lan yng nghabanau Maes yr Ŵyl y Nadolig hwn. Yn hafan Fafaraidd atmosfferig, Maes yr Ŵyl ar Stryd Working yw'r lle perffaith i ymlacio gyda chwrw a bratwurst a chael ail wynt cyn y rownd nesaf o siopa Nadolig. Yn agor ym mis Tachwedd.

 

  • Goleuadau'r Nadolig

Mae pawb yn gwybod na fyddai'r Nadolig yn gyflawn heb oleuadau. Eleni bydd goleuadau Nadolig hyfryd Caerdydd yn cynnau'n araf wrth iddi nosi ar 16 Tachwedd, wrth i Nadolig Caerdydd ddechrau.

 

  • Groto Nadolig

Boed dda neu ddrwg, bydd ymweliad â Groto Nadolig Siôn Corn ar restr ddymuniadau llawer o blant y Nadolig hwn. I helpu i wireddu eu dymuniadau, bydd Siôn Corn a'i gorachod yn ymgartrefu dros dro yng Nghastell Caerdydd, Heol y Frenhines a Stadiwm Principality. Digwyddiadau tocyn, dyddiadau amrywiol Tachwedd a Rhagfyr 2023.

 

  • Gwledd Nadolig

Gwledd Nadoligaidd yn Is-grofft Castell Caerdydd, sy'n dyddio o'r bymthegfed ganrif, yw'r ffordd berffaith o gofleidio ysbryd y Nadolig. Gydag adloniant Cymreig traddodiadol, cyfle i flasu medd wrth gyrraedd a Meistr Seremoni i'ch tywys drwy'r noson, byddwch ar eich traed yn ymuno yn yr hwyl mewn dim o dro! Mae angen archebu ymlaen llaw, dyddiadau o fis Tachwedd drwy gydol mis Rhagfyr.

 

  • Treulio amser gyda ffrindiau a theulu

Mae ffrindiau a theulu wrth galon popeth sydd orau am y Nadolig, felly does dim ffordd well o ddathlu na gyda phryd o fwyd blasus! Mae Caerdydd yn hafan i'r rheini sy'n frwd dros fwyd - ac mae tudalennau Bwyta ac Yfed Croeso Caerdydd yn llawn llefydd i wledda dros y Nadolig. Cofleidiwch draddodiad gyda'r holl drimins yn y Pontcanna Inn, neu rhowch gynnig ar brydau gwych Daffodil, sy'n hyrwyddo cynnyrch Cymreig, efallai gyda gwydraid o win o'u rhestr gynhwysfawr - mae'n Nadolig wedi'r cyfan.

 

  • Aros dros nos

Mae gormod i'w wneud mewn dim ond un diwrnod yng Nghaerdydd y Nadolig hwn, felly beth am wneud noson ohoni a mwynhau un o westai'r brifddinas? O rywle modern, ffasiynol yng nghanol dinas brysur i foethusrwydd hamddenol gwesty sba neu noson yn ardal hanesyddol Bae Caerdydd, rydych chi'n siŵr o ddeffro'n barod am fwy o hwyl yr ŵyl!

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae Nadolig Caerdydd bob amser yn arbennig a gyda 100 diwrnod i fynd, mae'r rhaglen eleni o ddigwyddiadau Nadoligaidd yn barod i ddenu pobl i'r ddinas a chreu llawer mwy o atgofion hudol."

Gyda 100 diwrnod i fynd, rydym yn dal i lunio rhestr Nadolig Caerdydd, felly am fwy o wybodaeth a'r holl fanylion diweddaraf wrth i'r Nadolig nesáu, ewch i: www.croesocaerdydd.com/nadolig