Back
Creu mwy o hyblygrwydd, dewis a rheolaeth i ddefnyddwyr gofal

  

15/9/23

Mae ffordd newydd o ddarparu gofal i bobl yng Nghaerdydd yn cael ei chyflwyno i ddarparu lefel uwch o ddewis a rheolaeth i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau.

Bydd y rhai sydd ag anghenion gofal lefel isel yn y ddinas yn gallu elwa o ddull symlach a gwell o ran taliadau uniongyrchol, gan ei gwneud yn haws trefnu eu gofal eu hunain yn hytrach na derbyn gofal gan ddarparwyr gofal a gomisiynir gan y Cyngor.

Mae llawer o bobl eisoes yn comisiynu eu gofal eu hunain trwy daliadau uniongyrchol, fel arfer trwy gyflogi cynorthwy-ydd personol a all fod o fudd sylweddol wrth fodloni gofynion penodol unigolion megis anghenion ieithyddol neu ddiwylliannol. Fodd bynnag, mae'r defnydd o gynorthwy-ydd personol yn golygu cymhlethdod a chyfrifoldeb ychwanegol i'r defnyddiwr gofal, gan fod angen iddo fod yn gyflogwr i'r cynorthwy-ydd.

Er mwyn helpu i gael gwared ar rwystrau o'r fath i'r defnydd o daliadau uniongyrchol, mae'r Cyngor wedi partneru â'r CBC Community Catalysts, sefydliad sy'n arbenigo mewn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu pobl leol i ddarparu gofal a chymorth yn y gymuned trwy sefydlu microfentrau sy'n helpu pobl i aros yn annibynnol a chefnogi eu lles.


Bydd Community Catalysts yn gweithio gydag unigolion sydd am sefydlu busnes bach iawn sy'n darparu gofal a chymorth yn y gymuned. Bydd rhaglen ddatblygu Community Catalysts yn sicrhau bod y sicrwydd ansawdd cywir ar waith, megis gwiriadau GDG, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, polisïau diogelu a bod y microfenter yn cael ei rhedeg yn dda ac yn gynaliadwy. Unwaith y bydd gwiriadau sicrwydd ansawdd wedi'u cwblhau, byddant yn cael eu hychwanegu at y cyfeiriadur "Small Good Things" o ficrofentrau, lle gall pobl sy'n chwilio am wasanaethau gofal chwilio am ficro-fenter sy'n addas i'w hanghenion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion), y Cynghorydd Mackie: "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Community Catalysts i helpu i ehangu'r dewis a'r argaeledd o gymorth i bobl ag anghenion lefel isel. Gellid ariannu'r gwasanaethau hyn drwy ofal cymdeithasol neu gallent fod yn wasanaethau y mae unigolion yn dymuno talu amdanynt eu hunain.  Gallai'r math o wasanaethau y gall microfentrau eu darparu gynnwys help gyda glanhau neu baratoi prydau bwyd, cwmnïaeth, neu gefnogaeth gydag anghenion gofal personol.

"Nid yn unig y bydd y prosiect newydd hwn o fudd i ddefnyddwyr gofal, ond bydd gwella mynediad at daliadau uniongyrchol hefyd yn creu swyddi ac yn annog math hygyrch o entrepreneuriaeth i bobl yn y gymuned sydd am ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth.  Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i weithwyr gofal sy'n chwilio am oriau gwaith cyfyngedig, neu mewn ardaloeddpenodolhefyd, yn ogystal â denu pobl newydd i'r gweithlu gofal."

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant):  "Mae llawer o gynghorau ledled y DU bellach yn archwilio'r cyfleoedd y gall microfentrau eu cynnig wrth ddarparu gofal a chymorth.,a bydd creu cronfa o ficrofentrau yn helpu i ateb y galw cynyddol am ofal sydd gennym yng Nghaerdydd.

"Rydym yn gwybod bod y dull hwn wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o Gymru, gan helpu i greu a chynnal swyddi newydd yn y sector gofal."

Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 21 Medi, bydd y Cabinet yn cael diweddariad ar y dull o annog a chynyddu'r defnydd o daliadau uniongyrchol.  Gellir darllen yr adroddiad llawn yma:

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8209&LLL=1

 

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod cyfradd taliadau uniongyrchol newydd, a gynigir ar £16.86 yr awr, yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer microfentrau sy'n darparu gofal a chymorth, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu digolledu yn deg a bod unrhyw fusnesau newydd yn gallu darparu gwasanaethau cynaliadwy, parhaus.