Back
Cyrraedd carreg milltir ar gynllun adfywio Trem y Môr


 15/9/23

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn ei gynllun cyffrous i adfywio ystâd Trem y Môr.

 

Yn cynrychioli'r ailddatblygiad ystâd holistig helaethaf a mwyaf cyffrous o fewn rhaglen ddatblygu'r cyngor, bydd y cynllun yn Grangetown yn darparu tua 319 o gartrefideiliadaeth gymysg, hynod ynni-effeithlon a charbon isel newydd,gan gynnwys adnewyddu'r 180 eiddo presennol a reolir gan y Cyngor.

 

Nawr, ar ôl i'r broses gaffael ddod i ben ar gyfer penodi partner datblygu ar gyfer y prosiect, nodwyd cynigydd a ffefrir i gyflawni'r cynllun cyfan.

 

Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 21 Medi, bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad i ddirprwyo awdurdod i swyddogion mewn ymgynghoriad â'rAelod Cabinet Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, ibenodi'r cynigydd a ffefrir i'r cynllun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:  "Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau cyffrous ar gyfer Trem y Môr a'r cam nesaf wrth drawsnewid y rhan hon o Grangetown yn gymdogaeth wyrddach, fwy cynaliadwy a mwy deniadol i'r gymuned.

 

"Mae'r cynllun yn rhan bwysig o'n cynlluniau i gynyddu faint o dai fforddiadwy o ansawdd sydd ar gael yn y ddinas drwy ddarparu mwy na 2,700 o dai cyngor newydd dros y blynyddoedd nesaf.

 

"Mae yna amryw brosesau diwydrwydd dyladwy sydd angen eu gwneud a fydd yn ein galluogi i symud i gam cyflawni'r ailddatblygiad.

 

Bydd y cynigydd a ffefrir yn cyflawni'r prosiect cyfan, gan ddechrau gyda chynlluniau Cam 1 ar gyfer 81 o fflatiau i bobl hŷn i gymryd lle'r bloc tŵr presennol yn yr ystâd, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol newydd a chaffi. Bydd y fflatiau hygyrch ac addasadwy hyn yn hyrwyddo byw'n annibynnol i bobl hŷn, gan ddiwallu eu hanghenion newidiol wrth iddynt heneiddio.

 

Bydd yr ailddatblygiad yn darparu gwell cysylltedd i'r ystâd a'r gymuned ehangach i gyfleusterau lleol a chysylltiadau trafnidiaeth, gwelliannau i'r ardal agored gyhoeddus yn y Marl, a thir cyhoeddus deniadol a reolir yn dda.

 

Bydd y cynigydd a ffefrir hefyd yn gweithio gyda'r Cyngor ar ddylunio, datblygu, ymgynghori a chynllunio ar gyfer camau ailddatblygu yn y dyfodol, dymchwel y stoc dai bresennol ac adeiladu camau'r dyfodol, yn amodol ar ymarferoldeb.

 

Mae'r adroddiad llawn, i'w ystyried gan y Cabinet ar 21 Medi, ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId = 8209

 

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion yn ystyried yr adroddiad ddydd Llun, 18 Medi am 4.30pm. Mae papurau ar gyfer y cyfarfod hwn ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=141&MId=8171&LLL=1 Gellir gweld gwe-ddarllediad y cyfarfod yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/801353