Back
Cydnabod Cartref Cŵn Caerdydd gyda dwy wobr PawPrints yr RSPCA.

18.9.23

Mae elusen lles anifeiliaid fwyaf y DU wedi dyfarnu dwy wobr i Gartref Cŵn Caerdydd i gydnabod safon y lloches y maent yn ei darparu, a'r ffordd y maent yn gofalu am gŵn strae.

Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd bellach wedi derbyn o leiaf un Wobr Pawprints yr RSPCA bob blwyddyn ers 2008. Eleni fe lwyddon nhw i ennill gwobr Aur yn y categori Cŵn Strae a gwobr Arian am y lloches maent yn ei chynnig.

A dog with a leashDescription automatically generated

Asparagws, un o'r cŵn sy'n derbyn gofal yng Nghartref Cŵn Caerdydd ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae derbyn o leiaf un wobr Pawprints am bymtheg mlynedd yn olynol yn gyflawniad gwych.

"Mae pob anifail y mae'r Cartref Cŵn yn gofalu amdano yn haeddu'r gofal gorau posib, ac mae'r gwobrau RSPCA hyn yn dangos, gyda chefnogaeth byddin o wirfoddolwyr, ac mewn partneriaeth â'r elusen leol The Rescue Hotel, mai dyna'n union maen nhw'n ei gael."

Dywedodd Sioned Nikolic, cynghorydd materion cyhoeddus yn RSPCA Cymru: "Rydym wedi cael ein syfrdanu gan safon y cynigion i'r gwobrau eleni, yn enwedig y rhai o Gymru. Mae bob amser mor werth chweil dathlu'r enillwyr a'u mentrau ysbrydoledig a chlywed pa effaith enfawr y mae eu gwaith wedi'i chael ar les anifeiliaid yn lleol.

"Mae Awdurdodau Lleol yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o sicrhau lles anifeiliaid; Mae llawer ohonynt yn gwneud gwaith anhygoel yn wyneb heriau sylweddol. Yn aml mae'r gwaith arloesol hwn yn cael ei wneud yn dawel y tu ôl i'r llenni ac yn parhau heb ei ganmol, ond maent yn haeddu cael eu canmol am newid bywydau nid yn unig anifeiliaid, ond pobl leol hefyd. Mae PawPrints yn ymwneud â chydnabod a dathlu'r ymdrechion hyn."

I gael gwybod mwy ac i gefnogi Cartref Cŵn Caerdydd, ewch i: https://www.cartrefcwncaerdydd.co.uk/