Back
Croeso i Ffos y Faendre: tai cyngor newydd yn Llaneirwg

29/9/23
 
Bydd 13 o aelwydydd Caerdydd yn galw datblygiad tai newydd yn nwyrain cartref y ddinas yn gartref yn fuan, ar ôl i'r eiddo gael eu trosglwyddo i'r Cyngor heddiw.

Mae'r datblygwr J G Hale Construction wedi adeiladu'r 13 tŷ cyngor newydd, cymysgedd o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely i’r teulu, ar safle'r hen ganolfan fenter ar Wakehurst Place yn Llaneirwg.

Bydd y tai newydd, sy'n cael eu hadnabod bellach fel Ffos y Faendre, yn cael eu dyrannu i deuluoedd ar restr aros tai'r ddinas. Ond cyn iddynt dderbyn yr allweddi, ymwelodd Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas a Chynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, â'r datblygiad a gwblhawyd yn ddiweddar i weld y cartrefi newydd sy'n hynod effeithlon o ran ynni.

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:  "Mae'r cartrefi newydd hyn yn edrych yn wych ac rwy'n siŵr bod y teuluoedd fydd yn symud i mewn yn fuan yn awyddus iawn i ymgartrefu yn eu cartrefi newydd.

"Maent mewn lleoliad gwych, o fewn pellter cerdded i'r siopau lleol a'n hyb cymunedol rhagorol sy'n darparu cymaint o wasanaethau a gweithgareddau.

"Mae'r galw presennol am dai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas yn ddigynsail, ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cartrefi newydd, fel Ffos Y Faendre, cyn gynted ag y gallwn."

Dywedodd Andrew Collins, Rheolwr Contractau JG Hale Construction: "Roedd JG Hale Construction yn falch iawn o gael ei ddewis gan Gyngor Caerdydd i ddarparu cynllun mor arloesol i bobl leol.

"Bydd yr eiddo arloesol hyn yn ychwanegiad ardderchog at stoc dai'r awdurdod, gan ddarparu cartrefi ynni-effeithlon iawn i denantiaid sy'n cynnwys y technolegau diweddaraf i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

 "Rydym yn edrych ymlaen at greu datblygiadau newydd pellach o gartrefi o ansawdd uchel i'r awdurdod yn y dyfodol agos."

Mae pob eiddo wedi cael ei ddylunio gyda dull ffabrig yn gyntaf i sicrhau bod ei berfformiad ynni yn rhagori ar y Rheoliadau Adeiladu presennol. Mae pob eiddo yn cyflawni gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) A. Daw'r holl wresogi a dŵr poeth yn y tai o Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer a fydd yn helpu i ostwng biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon.

Mae'r datblygiad yn rhan o raglen adeiladu ychwanegol y Cyngor sy'n cyfrannu at darged cyffredinol yr awdurdod o ddarparu 4,000 o eiddo newydd - bydd 2,700 o'r rhain yn gartrefi cyngor yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd nesaf.